Crynodeb

  • Carfan rygbi Cymru wedi'u gwahodd i'r Cynulliad i ddathlu eu llwyddiant ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad

  • Cymru wedi ennill y Gamp Lawn ar ôl trechu Iwerddon yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 18:53 GMT 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    Gyda Hen Wlad Fy Nhadau yn dal i atseinio o gwmpas Bae Caerdydd, dyna ddiwedd ein llif byw ni am heno.

    Os lwyddoch chi i gyrraedd y brifddinas, gobeithio i chi gael blas o'r dathliadau o'r Gamp Lawn i dîm rygbi Cymru.

    Ymlaen at Gwpan y Byd!

  2. Alun Wyn Jones yn Brif Weinidog?wedi ei gyhoeddi 18:48 GMT 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    "Mae un Gamp Lawn yn wych, mae tair yn anhygoel," meddai'r prif weinidog wrth ddiolch i Warren Gatland.

    "Ry'n ni oll yn lwcus o allu dweud ein bod wedi byw yn y cyfnod yma o rygbi Cymru."

    Ychwanegodd Mark Drakeford hefyd a'i dafod yn ei foch y bydd Alun Wyn Jones yn cael ei "gefnogaeth lawn" os yw'n penderfynu ymgeisio i fod yn Brif Weinidog Cymru yn y dyfodol!

    Mark Drakeford
  3. Warren Gatland: 'Cymru am byth!'wedi ei gyhoeddi 18:41 GMT 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    Wrth i'r cyflwynydd Catrin Heledd atgoffa'r prif hyfforddwr Warren Gatland nad oedd rybgi Cymru mewn lle da pan gymrodd yr awennau, roedd gan y gŵr o Seland Newydd ateb craff.

    "Yr unig le i fynd oedd i fyny felly!" meddai.

    "Rydw i wedi caru fy amser yma, a'r hyn sydd wedi'i wneud mor hawdd yw'r bobl, sydd mor groesawgar."

    Mae'n amlwg wedi bod yn dysgu Cymraeg hefyd, gan orffen trwy ddweud: "Cymru am byth!"

    Warren Gatland
  4. Mae Syr Gareth yn cytuno!wedi ei gyhoeddi 18:37 GMT 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    Wedi llwyddiant Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad mae cyn-gapten Cymru, Syr Gareth Edwards wedi dweud na ddylai tîm Warren Gatland ofni unrhyw un wrth edrych ymlaen at Gwpan y Byd.

    "Dim ond y Crysau Duon sydd uwchben nhw yn y tabl... ychydig bach o lwc falle a fi'n credu bod nhw ddigon da i guro unrhyw un ar y diwrnod," meddai.

    "Fel ni'n gwybod mewn gêm fel 'na - Cwpan y Byd - mae unrhyw beth yn gallu digwydd."

    Gareth EdwardsFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. 'Gall unrhyw beth ddigwydd' yng Nghwpan y Bydwedi ei gyhoeddi 18:36 GMT 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    Yn siarad ar risiau'r Senedd mae capten Cymru, Alun Wyn Jones yn dweud y byddai ennill Cwpan y Byd yn freuddwyd.

    "Yn tyfu lan ro'n i'n breuddwydio am wisgo crys coch Cymru, ond mae gen i freuddwydion eraill sydd heb eu cyflawni," meddai.

    "Mae gennym ni grŵp da o chwaraewyr, a gall unrhyw beth ddigwydd."

    Alun Wyn Jones
  6. Ailfyw'r cyffrowedi ei gyhoeddi 18:35 GMT 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    Cyn i'r tîm ddod allan, fe gafodd y dorf ailfyw cyffro'r Gamp Lawn ar y sgriniau mawr y tu allan i'r Senedd.

    senedd
  7. Ail yn y byd!wedi ei gyhoeddi 18:31 GMT 18 Mawrth 2019

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Diwedd neges X
  8. Croeso cynnes i'r chwaraewyrwedi ei gyhoeddi 18:28 GMT 18 Mawrth 2019

    Undeb Rygbi Cymru

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  9. A dyma nhw ar risiau'r Senedd!wedi ei gyhoeddi 18:26 GMT 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    Senedd
  10. Calon Lân yn plesio'r dorfwedi ei gyhoeddi 18:24 GMT 18 Mawrth 2019

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  11. ...ac ar ôl ei waith caled...wedi ei gyhoeddi 18:21 GMT 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Ken Owens yn cael gorffwys heddiw gan brif hyfforddwr y Scarlets!

    kens
  12. Ken Owens: Dydd Sadwrn yn 'foment sbesial'wedi ei gyhoeddi 18:20 GMT 18 Mawrth 2019

    BBC Radio Cymru

    Yn cael ei holi ar Radio Cymru mae bachwr Cymru, Ken Owens wedi datgelu uchafbwynt Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni iddo fe.

    "O'dd dydd Sadwrn lan 'na - y modd wnaethon ni ennill y gêm, yn ei rheoli am bron yr 80 munud," meddai.

    "O'dd e'n foment sbesial i gael y fuddugoliaeth.

    "Mae'r garfan yma'n un o'r rhai gorau i mi fod yn rhan ohoni, ac mae'r momentwm yn adeiladu'r neis nawr tuag at Gwpan y Byd."

    Ken OwensFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Y cwestiwn mawr yw...wedi ei gyhoeddi 18:18 GMT 18 Mawrth 2019

    Twitter

    Ai'r Arglwydd Elis Thomas sy'n llai nag oeddech chi'n feddwl, neu George North yn fwy?

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  14. Ceidwad y Cledd ar ben ei ddigonwedi ei gyhoeddi 18:14 GMT 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    Dywedodd Robin McBryde fod Lloegr ac Iwerddon "ar dop eu gêm ar hyn o bryd".

    robin
  15. Gweinidog y Gymraeg yn cwrdd â John Navidiwedi ei gyhoeddi 18:11 GMT 18 Mawrth 2019

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  16. 1893, 1900... 2019wedi ei gyhoeddi 18:07 GMT 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    Tad a mab yn disgwyl yn eiddgar i gael gweld eu harwyr ar risiau'r Senedd yn ddiweddarach.

    Mae'r crys yn cyfeirio at y blynyddoedd ble bu Cymru’n fuddugol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

    6 gwlad
  17. Cwrdd â Phrif Weinidog Cymruwedi ei gyhoeddi 18:03 GMT 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    Er tegwch i Mark Drakeford, mae Cymru wedi ennill y Gamp Lawn ar bob cynnig ers iddo fod yn Brif Weinidog!

    cynulliad
  18. Chwaraewyr yn y Seneddwedi ei gyhoeddi 17:59 GMT 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    ...ond maen nhw yma nawr!

    Disgrifiad,

    Tîm Cymru yn y Senedd

  19. Mae'r tlysau wedi cyrraedd!wedi ei gyhoeddi 17:56 GMT 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    ...ond dim arwydd o'r tîm hyd yma...

    Tlysau
  20. 'Gwych gweld cymaint yma'wedi ei gyhoeddi 17:54 GMT 18 Mawrth 2019

    Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru ar Twitter