Crynodeb

  • Carfan rygbi Cymru wedi'u gwahodd i'r Cynulliad i ddathlu eu llwyddiant ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad

  • Cymru wedi ennill y Gamp Lawn ar ôl trechu Iwerddon yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn

  1. 'Dydyn nhw ddim yn gwybod sut mae colli'wedi ei gyhoeddi 17:52 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2019

    Gareth Charles
    Gohebydd Rygbi BBC Cymru

    Mae Gohebydd Rygbi BBC Cymru, Gareth Charles wedi dweud mai "amddiffyn a chymeriad" oedd yn gyfrifol am fuddugoliaeth Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

    "Dim ond 7 cais a 65 pwynt wnaeth y garfan ildio trwy'r gystadleuaeth gyfan," meddai ar Radio Cymru

    "Maen nhw wedi mynd yn dîm anodd iawn i'w curo ar y funud.

    "Efallai nad ydyn nhw'n sgorio cymaint o geisiau â hynny - dim ond yr un nifer â'r Eidal sgorion nhw eleni - ond dydyn nhw ddim yn gwybod sut mae colli."

  2. Teulu balchaf Cymru?wedi ei gyhoeddi 17:50 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2019

    BBC Radio Cymru

    Mae gwraig Alun Wyn Jones, Anwen, wedi bod yn sgwrsio ar y Post Prynhawn am ei balchder o'i gŵr, ac mae'n debyg bod llawer iawn, iawn o Gymry'n gallu deall hynny'n iawn!

    Disgrifiad,

    Ymateb gwraig Capten Cymru

  3. ..ac un faner fawrwedi ei gyhoeddi 17:46 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae'n ymddangos bod y faner yma wedi cael ei lapio'n daclus mewn dror yn barod ar gyfer achlysur mawr fel hwn!

    plant
  4. Baneri bach yn cael eu rhoi i’r dorfwedi ei gyhoeddi 17:44 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    cynulliad
  5. Y tîm wedi 'codi ein cenedl unwaith eto'wedi ei gyhoeddi 17:41 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2019

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Un arall fydd yn croesawu'r garfan i'r Cynulliad yw dirprwy lywydd y sefydliad, Ann Jones.

    “Ein braint ni yw croesawu tîm rygbi llwyddiannus Cymru yn ôl i'r Senedd i gael dathlu a dangos ein gwerthfawrogiad iddyn nhw," meddai.

    "Mae eu llwyddiant yn ysbrydoliaeth i ni gyd ac yn gyfle i ni ymfalchïo yn noniau chwaraeon Cymru.

    “Mae Warren Gatland a'i garfan wedi codi ein cenedl unwaith eto ac mae addas ein bod yn diolch iddynt am hynny.”

    Cefnogwyr CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Y tîm wedi cyrraedd y Bae!wedi ei gyhoeddi 17:38 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    bws
  7. Yr holl ffordd o Ferthyr Tudfulwedi ei gyhoeddi 17:37 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Michelle a Cian Mason o Ferthyr Tudful wedi bod yma ers pedwar o'r gloch.

    “Rydym wrth ein boddau. Rydym yn falch iawn ohonynt," meddai Michelle.

    "Rydym yn wirioneddol hyderus yn mynd i Gwpan y Byd nawr, ac yn credu y byddant yn gwneud yn dda iawn.”

    michelle
  8. Y dorf yn tyfu...wedi ei gyhoeddi 17:34 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae disgwyl i fws y chwaraewyr gyrraedd y Senedd ymhen llai na chwarter awr, ac mae'r dorf fydd yno i'w disgwyl yn tyfu'n raddol.

    Disgrifiad,

    Dathlu llwyddiant y tîm tu allan i'r Senedd

  9. Pwy sy'n cael eich pleidlais chi?wedi ei gyhoeddi 17:30 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    Dyw hi ddim yn syndod mai chwaraewyr Cymru yw mwyafrif y rheiny sydd ar restr fer Chwaraewr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

    Mae'r capten Alun Wyn Jones, yr asgellwr Josh Adams, y cefnwr Liam Williams a'r canolwr Hadleigh Parkes ar y rhestr fer o chwe chwaraewr.

    Dau Sais sy'n ymuno â'r Cymry, gyda'r asgellwr Jonny May a'r blaenasgellwr Tom Curry hefyd wedi'u henwebu.

    Y cyhoedd sy'n pleidleisio am enillydd, ond mae'n rhaid i chi fod yn gyflym gan fod y bleidlais yn cau ddydd Mercher.

    Chwaraewyr CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. 'Braf gweld Cymru'n ennill'wedi ei gyhoeddi 17:27 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2019

    BBC Radio Cymru

    “Fel rhywun sydd wedi treulio gyrfa ar yr ochr amddiffynol - neu’r wrthblaid” - roedd hi’n braf gweld Cymru’n ennill fel wnaethon nhw ddydd Sadwrn, yn ôl yr Arglwydd Ellis-Thomas

    dafydd el
  11. 'Oes aur yn hanes rygbi Cymru'wedi ei gyhoeddi 17:23 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2019

    Cennydd Davies
    Chwaraeon BBC Cymru

    Ar Radio Cymru mae gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Cennydd Davies yn dweud ei fod yn "teimlo ein bod ni mewn oes aur yn hanes rygbi Cymru".

    "Os y'n ni'n mynd 'nôl i 2007 pan gymrodd Warren Gatland yr awenau, fe wnaethon ni golli yn erbyn Ffiji yn Nantes, ac roedden ni'n 10fed yn netholion y byd," meddai.

    "12 mlynedd yn ddiweddarach a ry'n ni'n ail y tu ôl i Seland Newydd.

    "Yn edrych 'nôl dros gyfnod Warren Gatland wrth y llyw mae'n gyfnod disglair, arbennig i rygbi Cymru."

  12. Wedi trefnu amser i ffwrdd o’r gwaith!wedi ei gyhoeddi 17:19 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    Ceri-Anne Smith gyda’i phlant Seren, 5, a Ieuan, 10. Roedd Ceri-Anne wedi rhagweld y Gamp Lawn a’r dathliadau, ac wedi trefnu amser i ffwrdd o’r gwaith ers wythnosau ar gyfer heddiw.

    ceri ann
  13. 'Anrhydedd mae'r garfan yn ei haeddu'wedi ei gyhoeddi 17:17 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2019

    Undeb Rygbi Cymru

    Yn edrych 'mlaen at y dathliadau yn y Cynulliad heddiw dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips: “Mae wedi bod yn Bencampwriaeth y Chwe Gwlad wych i Gymru ac mae ennill gyda Champ Lawn yn y ffordd rydym wedi ei chyflawni wedi bod yn ddiweddglo anhygoel.

    “Mae'r garfan a'r tîm rheoli wedi ein gwneud yn genedl falch ac rydym yn hynod ddiolchgar i'r Cynulliad am nodi’n llwyddiant a galluogi’r cefnogwyr i ymgynnull i ddangos eu cefnogaeth.

    “Mae'n anrhydedd mae carfan 2019 yn ei haeddu, ac yn un fydd yn meddwl y byd i’r chwaraewyr.

    “Yn yr un modd, mae cannoedd o unigolion ar draws rygbi Cymru wedi cyfrannu at y llwyddiant hwn a dylai pawb sy'n cymryd rhan yn y gêm ar bob lefel rannu perchnogaeth o’r cyflawniadau, a myfyrio gyda balchder ar ddiwrnod arbennig i’n gêm genedlaethol.”

    CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Y dorf yn tyfu cyn i'r chwaraewyr gyrraeddwedi ei gyhoeddi 17:12 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2019

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Y daith i gyflawni'r Gamp Lawnwedi ei gyhoeddi 17:09 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    Roedd yn rhaid i Gymru ddibynnu ar ychydig o lwc i drechu Ffrainc yn eu gêm gyntaf eleni, wrth iddyn nhw ddod 'nôl o fod 16 pwynt ar ei hôl hi ar hanner amser.

    Er iddyn nhw drechu'r Eidal yn Rhufain wythnos yn ddiweddarach, doedd hi ddim yn berfformiad gwych o bell ffordd gan y Cymry.

    Bythefnos yn ddiweddarach daeth y fuddugoliaeth wych dros Loegr yng Nghaerdydd, gyda cheisiau Cory Hill a Josh Adams yn sicrhau'r pwyntiau i Gymru.

    Unwaith eto, doedd Cymru ddim ar eu gorau wrth drechu'r Alban yn Murrayfield yn y gêm olaf ond un, ond y peth pwysig oedd bod cyfle i ennill y Gamp Lawn yng Nghaerdydd.

    Dyna'n union ddigwyddodd y penwythnos yma, gyda pherfformiad cadarn Cymru'n sicrhau buddugoliaeth dros y Gwyddelod, gan ennill y Gamp Lawn am y tro cyntaf ers 2012.

    CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Dewch yn llu....wedi ei gyhoeddi 17:06 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2019

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Drakeford: 'Llwyddiant arall anhygoel'wedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2019

    Llywodraeth Cymru

    Un fydd yn croesawu'r chwaraewyr i'r Cynulliad heddiw fydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, sydd wedi disgrifio'r Gamp Lawn fel "llwyddiant arall anhygoel i’r tîm wrth gwrs, gyda chefnogaeth wych cefnogwyr Cymru".

    "Mae'n addas iawn ein bod yn dathlu'r gamp lawn hon gyda'n gilydd," meddai.

    “Am ddiweddglo Chwe Gwlad i Warren - teitl arall a’r Gamp Lawn am y trydydd tro sy’n record!

    "Mae Cymru bellach wedi ennill 14 buddugoliaeth ddiguro mewn cyfres - record arall - ac ysbrydoliaeth i'n darpar chwaraewyr ar draws y wlad.

    “Rwy'n dymuno'n dda i'r holl garfan am weddill y tymor wrth iddynt ddychwelyd i’w clybiau a'u rhanbarthau ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn Japan yn ddiweddarach eleni yng Nghwpan y Byd.”

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Mae'n dechrau prysurowedi ei gyhoeddi 17:00 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2019

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Croeso i'r dathliadau!wedi ei gyhoeddi 17:00 Amser Safonol Greenwich 18 Mawrth 2019

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i'n llif byw wrth i lwyddiant tîm rygbi Cymru gael ei ddathlu mewn seremoni ym Mae Caerdydd.

    Llwyddodd y garfan i gwblhau'r Gamp Lawn wrth drechu Iwerddon yn Stadiwm Principality brynhawn Sadwrn - eu 14eg buddugoliaeth yn olynol.

    Mae'r cyhoedd wedi cael eu gwahodd i gyrraedd o 17:00 ymlaen, gyda'r dathliadau'n dechrau am 17:30 a'r digwyddiad yn y Senedd yn dechrau am 18:00.

    Arhoswch gyda ni am flas o'r dathliadau!

    CymruFfynhonnell y llun, Getty Images