Dyna ni am heddiw!wedi ei gyhoeddi 17:45 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2019
BBC Cymru Fyw
Diolch am ymuno a ni heddiw. Cofiwch bydd y llif byw yn dychwelyd bore fory am 09:00
Dilynwch y llif byw am straeon, lluniau a chlipiau
Cyflwyno Gwobr Goffa Daniel Owen am nofel heb ei chyhoeddi
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd fe allant gynnwys iaith gref a/neu themâu sydd ddim yn addas i blant
BBC Cymru Fyw
Diolch am ymuno a ni heddiw. Cofiwch bydd y llif byw yn dychwelyd bore fory am 09:00
“Roedd hi’n seremoni hyfryd, a dwi’n falch o gael beirniadaeth eitha’ ffafriol.
“Dwi jyst yn falch eu bod nhw ‘di cael blas ar y nofel, a dwi’n gobeithio y bydd pobl eraill yn cael yr un blas arni.”
“Does ‘na ddim byd sy’n symud y ddaear yn ystod y nofel… teulu bach yn mwynhau eu hunain, a’r tad yn myfyrio ar ei fywyd. Mae ‘na bethau tebyg [I fywyd ei deulu ei hun], ond mae ‘na bethau’n wahanol hefyd.
"Dwi’n cymryd ysbrydoliaeth o mywyd fy hun, ond dydy o ddim yn llwyr seiliedig.”
Welwn ni chi eto cyn diwedd yr wythnos? “Na, dim mwy!”
Dyma glawr y nofel fuddugol, Carafanio gan Guto Dafydd yng Ngwobr Goffa Daniel Owen eleni.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Eilir Gwyn, yn rhoi detholiad o’r nofel fuddugol
BBC Cymru Fyw
Mae hi wedi bod yn wythnos brysur hyd yma i Guto Dafydd.
Dywedodd un o'r beirniaid, Haf Llewelyn fod Guto Dafydd "nid mewn cae ar wahân ond yn hytrach ar gyfandir gwahanol" i gymharu â'r awduron eraill.
BBC Cymru Fyw
Guto Dafydd yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.
Mae'n dilyn ei fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth y Goron ddoe.
BBC Cymru Fyw
Arglwydd Diddymdra yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni gyda'r nofel Carafanio
BBC Cymru Fyw
Yn ôl un o'r beirniaid, Haf Llewelyn fe wnaeth wyth awdur geisio am y Wobr Goffa Daniel Owen eleni.
R Alun Ifans yw meistr y seremoni pnawn ma’
BBC Cymru Fyw
Côr plant y sir yn perfformio 'Dwylo dros y môr' gan Huw Chiswell
BBC Cymru Fyw
Mae Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen newydd ddechrau.
Y beirniaid eleni yw: Haf Llewelyn, Dyfed Edwards a Llwyd Owen
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Gŵr Maureen Hughes, Bleddyn, yn derbyn tystysgrif Llywydd Anrhydeddus yr Eisteddfod ar ei rhan gan Lywydd y Llys, Eifion Lloyd Jones.
Bu farw Maureen union wythnos yn ôl.
Bethan Rhys Roberts
Cyflwynydd BBC Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Pawb eisiau crempog a neb yn y bar... efallai bydd hi’r ffordd arall rownd pan fydd Gwilym a’r Cledrau yn perfformio ar Lwyfan y Maes heno.
BBC Cymru Fyw
Mae Carwyn Jones wedi dweud yn ystod sgwrs ar faes yr Eisteddfod nad yw'n credu bod Cymru'n rhy dlawd i fod yn wlad annibynnol.
Pwysleisiodd cyn-brif weinidog Cymru nad oedd yn cefnogi annibyniaeth, ac y byddai'n well ganddo weld mwy o gyfartaledd rhwng gwledydd y DU.
Ond dywedodd bod angen ystyried beth fyddai'r goblygiadau, oherwydd y posibilrwydd y gallai Cymru ddod yn annibynnol yn y dyfodol.
Darllenwch y stori'n llawn yma ar Cymru Fyw.
BBC Cymru Fyw
Peidiwch â phoeni os ydych chi wedi methu rhywfaint o'r cystadlu yn y pafiliwn heddiw.
Ewch i dudalen arbennig Cymru Fyw er mwyn gweld holl ganlyniadau dydd Mawrth a chlipiau o'r cystadlaethau a phrif seremoni'r dydd.
Cofiwch fod modd i chi wylio'r cyfan ar frig y dudalen hon.
BBC Cymru Fyw
Mae bod yn yr Eisteddfod yn ysgogi nifer i ddysgu Cymraeg gan gynnwys Zeta’r ci o Fannau Brycheiniog.
Mabon, sy'n ddau fis oed, ar Lwyfan y Llannerch gyda Mari Elen
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Tîm o feirdd Meirionnydd yn chwilio am ysbrydoliaeth cyn iddyn nhw gystadlu yn Ymryson Barddas yn y Babell Lên.
Bydd yr ornest i’w chlywed ar BBC Radio Cymru nos Sul.