Uno Cymru a Lloegrwedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich+1 6 Awst 2019
Theatr Genedlaethol Cymru
Ar ôl noson o saib neithiwr, bydd drama 'X' yn cael ei llwyfannu ar y Maes unwaith eto heno, a phob noson nes ddydd Gwener.
Wedi'i sgwennu gan Rhydian Gwyn Lewis, a'i chyfarwyddo gan Ffion Dafis, mae wedi'i selio yn y flwyddyn 2039, gyda'r Alban yn annibynnol ac Iwerddon wedi uno.
Dewis arall sy'n wynebu Cymru - refferendwm i benderfynu a ydyn nhw am ddiddymu ei llywodraeth ac uno gyda Lloegr.
Os ydach chi awydd, mi fydd y ddrama i'w gweld ar Theatr y Maes am 18:00.