Crynodeb

  • Buddugoliaeth yn sicrhau lle Cymru yn rownd yr wyth olaf

  • Cymru'n ddi-guro mewn tair; Fiji wedi ennill un a cholli dwy

  • Tri diwrnod o seibiant cyn y gêm nesaf yn erbyn Uruguay ddydd Sul

  1. Cerdyn melyn i Davieswedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cerdyn Melyn

    Yn syth ar ôl i James Davies gael ei ganmol, mae wedi ei anfon i'r gell gosb am wrthod gadael sgarmes.

    Pedwerydd cerdyn melyn y gêm a Chymru lawr i 14 dyn gyda Fiji yn pwyso.

  2. Da iawn Davieswedi ei gyhoeddi 12:10 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 14-10 Fiji

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Dyna pam fod James Davies yn y tîm. Gwaith gwych yn yr ardal y dacl i adennill y bêl i Gymru.

  3. Ystadegau'r hanner cyntafwedi ei gyhoeddi 12:02 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Dyma'r ystadegau o'r hanner cyntaf:

    Cymru-Fiji

    Meddiant: 45%-55%

    Tiriogaeth: 52%-48%

    Metrau enillwyd: 210-169

    Amddiffynwyr gafodd eu curo: 8-12

    Cyfleoedd gwirioneddol: 5-3

    Ciciau cosb wedi'i hildio: 4-6

    Colli meddiant: 8-6

    Cymru v FijiFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Ail Hannerwedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    I ffwrdd a ni yn yr ail hanner wrth i Gymru geisio cael dechreuad gwell i'w gymharu â'r hanner cyntaf.

  5. 'Dechrau gwael'wedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    S4C

    Ar yr hanner mae cyn faswr Cymru, Nicky Robinson yn dadansoddi:

    "Roedd pethau elfennol yn wael ar y dechrau i Gymru.

    "Unigolion yn ceisio gwneud pethau yn hytrach na chwarae fel tîm.

    "Fe wnaeth pethau wella ychydig wedyn," meddai.

  6. Hanner amserwedi ei gyhoeddi 11:43 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 14-10 Fiji

    Wedi dechrau sigledig, dau gais gan yr asgellwr Josh Adams yn rhoi’r fantais i Gymru ar yr hanner.

    James AdamsFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Moriarty yn serennuwedi ei gyhoeddi 11:43 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 14-10 Fiji

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Mae Ross Moriarty wedi bod yn ardderchog hyd yn hyn.

    Roedd yr wythwr ar y fainc ar gyfer dwy gêm gynta Cymru yn Japan ond mae e wedi bod yn amlwg iawn o'r dechre heddiw, yn taclo'n ffyrnig ac yn cario'r bel yn bwerus.

  8. 'Amddiffyn gwell'wedi ei gyhoeddi 11:40 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Andrew Coombs
    Cyn-glo Cymru

    Wrth edrych ar yr hanner cyntaf mae Andrew Coombs yn credu bod amddiffyn Cymru "lot yn well wrth i'r gêm fynd yn ei flaen ar ôl dechreuad da gan Fiji"

  9. Cais i Gymruwedi ei gyhoeddi 11:33 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 14-10 Fiji

    BBC Cymru Fyw

    Ail gais Cymru ac ail gais i Josh Adams wedi hanner awr.

    Wedi chwarae amyneddgar yn agos at linell gais Fiji, dyma'r bêl yn cael ei lledu i'r gornel ac Adams oedd yno i dirio'n gyfforddus.

    Unwaith eto mae Biggar wedi cicio'n berffaith ac mae Cymru ar y blaen.

    Josh AdamsFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Cerdyn melyn arallwedi ei gyhoeddi 11:29 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 7-10 Fiji

    Cerdyn Melyn

    Semi Kunatani wedi'i anfon i'r gell gosb y tro hwn wedi 29 munud.

    Dyma'r trydydd chwaraewr hyd yma i gael ei anfon i ffwrdd am ddeng munud.

    Camsefyll parhaus yw'r drosedd y tro hwn.

  11. 'Llawn cyffro'wedi ei gyhoeddi 11:26 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 7-10 Fiji

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Dwi'n siwr byse well gan bawb gem unochrog a buddugoliaeth campus i Gymru ond, ma rhaid dweud, ma hon yn gem wych i wylio. Llawn cyffro.

  12. Dim cais!!wedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 10 -13 Fiji

    BBC Cymru Fyw

    Ar ôl edrych ar y cais am sawl munud, mae'r dyfarnwr wedi penderfynu fod troed Josh Adams wedi cyffwrdd y llinell ochr cyn iddo dirio.

    Mor agos i Gymru.

  13. Cais a'i pheidio???wedi ei gyhoeddi 11:24 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Josh Adams unwaith eto'n croesi'r llinell yn y gornel, ond mae'r dyfarnwr fideo yn cael golwg cyn i Jerome Garcais wneud penderfyniad.

    Mae oedi yn y gêm wrth i bawb ddisgwyl am benderfyniad.

  14. Hunlle'n troi'n rhyddhadwedi ei gyhoeddi 11:21 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 7-10 Fiji

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Am 18 munud, dyma oedd gêm anoddaf Josh Adams i Gymru.

    Ar ôl methu tacl ar gyfer dau gais Fiji, gollwng y bêl a thaflu pas wael i Hadleigh Parkes, roedd yr asgellwr yn y man perffaith i gasglu cic Dan Biggar.

    Rhyddhad.

  15. Cais i Gymru!wedi ei gyhoeddi 11:14 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 7-10 Fiji

    BBC Cymru Fyw

    Cais i Gymru, Josh Adams yn croesi yn dilyn cic uchel gan Dan Biggar.

    Mae Cymru'n ôl yn y gêm. Mae Dan Biggar wedi cicio'n gywir ac mae'r bwlch nawr lawr i dri phwynt ar ôl 20 munud.

    Josh AdamsFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Cerdyn melyn i Fijiwedi ei gyhoeddi 11:11 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cerdyn Melyn

    Tevita Cevubati yn gweld y garden felen y tro hwn am ddefnyddio ei ysgwydd i daclo'n uchel.

    Fe fydd Ken Owens yn dychweld i'r maes yn fuan i Gymru

  17. 'Ken Owens yn ffodus'wedi ei gyhoeddi 11:06 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 0-10 Fiji

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Os oedd rhywun yn edrych am elfen bositif i'r gêm, falle allech chi ddweud bod Ken Owens yn ffodus i osgoi cerdyn coch.

    Am eiliad, rwy'n siŵr roedd nifer o gefnogwyr Cymru yn dechrau meddwl nôl i gerdyn coch Sam Warburton yn y rownd gynderfynol yn erbyn Ffrainc wyth mlynedd yn ôl.

  18. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 11:04 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 0-10 Fiji

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Ma' hwn yn ddechreuad hunllefus i Gymru.

    Hunllefus.

  19. Cais i Fijiwedi ei gyhoeddi 11:03 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cymru 0-10 Fiji

    BBC Cymru Fyw

    Mae Cymru ar chwâl wrth Fiji wedi croesi unwaith eto gyda Kini Murimurivalu yn tirio yn y gornel.

    Unwaith eto mae Fiji wedi methu gyda'r trosiad.

  20. Cerdyn melynwedi ei gyhoeddi 11:00 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019

    Cerdyn Melyn

    Mae Ken Owens wedi'i anfon i ffwrdd am 10 munud am dacl hwyr beryglus.