Fiji yn tirio unwaith etowedi ei gyhoeddi 10:57 Amser Safonol Greenwich+1 9 Hydref 2019
BBC Cymru Fyw
Fiji yn croesi am gais arall ond roedd y bas ymlaen.
Ond fe allai Ken Owens fod mewn dyfraoedd dyfnion am dacl hwyr.
Buddugoliaeth yn sicrhau lle Cymru yn rownd yr wyth olaf
Cymru'n ddi-guro mewn tair; Fiji wedi ennill un a cholli dwy
Tri diwrnod o seibiant cyn y gêm nesaf yn erbyn Uruguay ddydd Sul
BBC Cymru Fyw
Fiji yn croesi am gais arall ond roedd y bas ymlaen.
Ond fe allai Ken Owens fod mewn dyfraoedd dyfnion am dacl hwyr.
Cymru 0-5 Fiji
BBC Cymru Fyw
Josh Navidi yn croesi ac unwaith eto mae'r dyfarnwr fideo yn cael golwg.
Ond y tro hwn fe gafodd y bêl ei tharro ymlaen cyn i Navidi ennill y meddiant.
Cymru 0-5 Fiji
Dafydd Pritchard
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita
Ffug enw Josua Tuisova yw 'Y Bws' a galle chi weld pam wrth iddo bweru ei ffordd drwy Josh Adams, Dan Biggar a Josh Navidi ar gyfer y cais yna.
Cymru 0-5 Fiji
BBC Cymru Fyw
Mae Fiji wedi croesi'r llinell gais ac mae'r dyfarnwr fideo yn caniatau'r cais.
Josua Tuisova yn croesi yn y gornel yn dilyn sgrym gan Fiji
Cymru 0-0 Fiji
BBC Cymru Fyw
Mae Fiji wedi dechrau'r gêm ar dân ac yn ennill tîr yn y munudau agoriadol.
BBC Cymru Fyw
Chwiban y dyfarnwr, Jermoe Garcais o Ffrainc yn dechrau'r gêm.
Andrew Coombs
Cyn-glo Cymru
Yn ôl Andrew Coombs byddai Fiji wedi edrych ar y grŵp cyn y gystadleuaeth a thargedu Cymru.
Wrth ddadansoddi cyn y gêm dywedodd Coombs fod Fiji'n dîm cryf.
BBC Cymru Fyw
Mae'r anthemau cenedlaethol yn cael eu canu, rydym bron yn barod i fynd!
BBC Cymru Fyw
Capten Cymru, Alun Wyn Jones yn cael un gair olaf gyda'r tîm cyn iddyn nhw ddychwelyd i'r ystafell newid
Dafydd Pritchard
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita
Dim ond unwaith ma' Cymru 'di colli yn erbyn Fiji - ond dyw cefnogwyr ddim yn mynd i anghofio'r golled yna.
Roedd hynny nol yn 2007 ac yn drychinebus o wael yn Nantes wrth i Gymru fethu a chyrraedd y chwarteri.
Cafodd yr hyfforddwr Gareth Jenkins ei ddiswyddo a'i olynydd oedd Warren Gatland.
Teg i ddweud bod pethau wedi gwella ychydig ers i'r gŵr o Seland Newydd gymryd yr awenau.
BBC Cymru Fyw
Bydd Vasuturaga a Lesumailau yn gobeithio am fuddugoliaeth i Fiji
BBC Cymru Fyw
Mae Warren Gatland wedi dweud mai cysondeb sy'n bwysig yn y rhan yma o'r gystadleuaeth:
"Rydym yn cadw pawb ar flaenau eu traed a cheisio osgoi unrhyw anafiadau.
"Rydym yn chwilio am gysondeb hefyd.
"Rydym wedi cael wythnos gyfan i baratoi ar gyfer y gêm ac mae pawb yn barod," meddai.
BBC Cymru Fyw
Mae Fiji wedi gwneud un newid i'r tîm drechodd Georgia o 45-10, gydag wythwr Caeredin, Viliame Mata yn dechrau.
Murimurivalu; Tuisova, Nayacalevu, Botia, Radradra; Volavola, Lomani; Ma'afu, S Matavesi, Saulo, Cavubati, Nakarawa, Waqaniburotu (capt), Kunatani, Mata
Eilyddion:Dolokoto, Mawi, Ravai, Ratuniyarawa, Yato, Matawalu, Vatubua, J Matavesi.
BBC Cymru Fyw
L Williams; North, Jonathan Davies, Parkes, Adams; Biggar, G Davies; W Jones, Owens, Francis, Ball, AW Jones (capten), Navidi, James Davies, Moriarty.
Eilyddion: Carre, Dee, Lewis, Shingler, Wainwright, T Williams, Patchell, Watkin.
BBC Cymru Fyw
Mae cefnogwyr o Glwb Rygbi Caernarfon wedi teithio i Oita i wylio'r gêm
Gareth Charles
Gohebydd Rygbi BBC Cymru
BBC Cymru Fyw
Croeso i lif byw arbennig gêm Cymru v Fiji yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Japan.
Bydd y gic gyntaf yn Stadiwm Oita am 10:45