'Colli cyfle' gyda chyllideb Cymruwedi ei gyhoeddi 19:07 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2020
Llywodraeth Cymru wedi colli cyfle i wneud newid mawr i wasanaethau cyhoeddus gyda'i chyllideb eleni, yn ôl y gwrthbleidiau.
Read MoreACau yn cymeradwyo egwyddorion cyffredinol y Mesur Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) - cam cyntaf y broses ddeddfu.
Cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm gyda Chwestiynau i'r Prif Weinidog
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol
Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2020-21
Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Bolisi Masnach
Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)
Alun Jones and Sarah Down-Roberts
Llywodraeth Cymru wedi colli cyfle i wneud newid mawr i wasanaethau cyhoeddus gyda'i chyllideb eleni, yn ôl y gwrthbleidiau.
Read MoreA dyna'r cyfan o'r Siambr am heddiw.
Bydd Senedd Fyw yn dychwelyd fory.
Mae ACau yn cymeradwyo egwyddorion cyffredinol y Mesur Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) - cam cyntaf y broses ddeddfu.
Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:
Mae llefarydd y Ceidwadwyr Janet Finch-Saunders a Llyr Gruffydd o Blaid Cymru yn cadarnhau cefnogaeth eu pleidiau i egwyddorion cyffredinol y mesur a fyddai'n gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru.
Mae Mike Hedges, Cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cyflwyno'r adroddiad.
Mae'n egluro bod y "Pwyllgor yn unfrydol yn ei gefnogaeth barhaus i les pob anifail.
"Fodd bynnag, nid ydym wedi gallu dod i farn unfrydol ynghylch p’un a ddylai’r Mesur hwn symud yn ei flaen.
"Mae mwyafrif o aelodau’r Pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Mesur. Rydym yn argymell bod y Cynulliad yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Mesur."
Dywed Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, y dylai anifeiliaid gwyllt gael eu trin gyda pharch a "nid eu hecsbloetio ar gyfer dibenion adloniant".
Dywed bod y gyfraith newydd wedi cael cefnogaeth lwyr mewn ymgynghoriad diweddar - ymgynghoriad a dderbyniodd dros 6,500 o atebion.
Ar hyn o bryd nid oes syrcasau yng Nghymru yn defnyddio anifeiliaid gwyllt, ond mae syrcasau o wledydd eraill yn ymweld, a gallant ddefnyddio anifeiliaid gwyllt yn gyfreithlon yn eu perfformiadau.
Yn Lloegr, mae dwy syrcas deithiol yn defnyddio anifeiliaid gwyllt: Circus Mondao a Peter Jolly’s Circus.
Mae’r ddwy yn ymweld â Chymru yn rheolaidd.
Yn ôl Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) Llywodraeth y DU, ar ddiwedd 2017, roedd gan y syrcasau hyn gyfanswm o 19 o anifeiliaid gwyllt.
Yr eitem olaf heddiw yw Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru).
Amcan polisi’r Mesur yw gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru.
Mae’r Mesur yn ceisio’i gwneud yn drosedd defnyddio anifail gwyllt (fel y’i diffinnir yn y Mesur) mewn syrcas deithiol.
Caiff anifail gwyllt ei ddefnyddio os yw’n perfformio neu’n cael ei arddangos.
Byddai’r drosedd yn cael ei chyflawni gan y person sy’n weithredwr (fel y’i diffinnir yn y Mesur) y syrcas deithiol os yw’n defnyddio neu’n caniatáu i berson arall ddefnyddio anifail gwyllt yn y syrcas deithiol. Mae person sy’n euog o drosedd o’r fath yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
Ni fydd y Mesur yn effeithio ar y defnydd o anifeiliaid wedi’u domestigeiddio mewn syrcasau teithiol, nac yn atal defnyddio anifeiliaid gwyllt ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill, gan gynnwys syrcasau sefydlog.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae ACau yn cymeradwyo Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, dolen allanol (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2020
Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yw'r dulliau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i roi cymorth i aelwydydd ar incwm isel er mwyn iddynt dalu'r dreth gyngor.
Mae’r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013.
Maent yn uwchraddio rhai ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl ymgeisydd i ostyngiad o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, a lefel y gostyngiad sy’n dilyn. Maent hefyd yn gwneud rhai diwygiadau technegol a chanlyniadol.
Mae'r Rheoliadau'n gwneud diwygiadau sy'n ganlyniadol i Reoliadau Partneriaeth Sifil (Cyplau o Wahanol Ryw) 2019 a chyfres o reoliadau a fydd yn gweithredu darpariaeth yn Neddf Profedigaeth Rhiant (Absenoldeb a Thâl) 2018.
Nesaf datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Eluned Morgan: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Bolisi Masnach.
Mae'r Gweinidog yn dweud mai'r blaenoriaethau yn yr wythnosau nesaf fydd bwrw ymlaen â’r gwaith o sefydlu dulliau rhynglywodraethol ffurfiol a sicrhau rôl glir i Lywodraeth Cymru mewn negodiadau yn y dyfodol.
"Fel rhan o hyn," medd Eluned Morgan, "byddaf yn mynnu tryloywder ym mholisi masnach y Deyrnas Unedig, gan ddechrau drwy gytuno ar fandadau negodi ar draws y Deyrnas Unedig a’u cyhoeddi.
"Byddaf yn parhau i ddadlau o blaid blaenoriaethu ein perthynas fasnach â’r Undeb Ewropeaidd, gan edrych ar y cyfleoedd y bydd cytundebau masnach y dyfodol yn eu cynnig i fusnesau a defnyddwyr yng Nghymru."
Mae arweinydd Plaid Brexit Mark Reckless yn dweud nad yw pobl am glywed cwynion gan Lywodraeth Cymru am lywodraeth y DU ond yn hytrach maent am wybod sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu y pwerau sydd yn ei meddiant.
Ar ran Plaid Cymru dywed Rhun ap Iorwerth nad oes "dychymyg nac arloesedd" i'w gweld yn y gyllideb.
Mae'n canolbwyntio ar iechyd a chyllido llywodraeth leol - a ddylai, meddai, gydweithio lawer yn nes gyda'i gilydd - a newid hinsawdd.
Mae'r Ceidwadwr Darren Millar yn disgrifio'r gyllideb fel "cyfle wedi'i golli... lle roedd cyfle i fod yn radical a blaengar fe lynoch at gyllideb sydd wedi'i harbrofi ac wedi methu yn y gorffennol."
Ymhlith ei feirniadaeth mae cael gwared â chynllun ffordd liniaru'r M4 a cholledion Maes Awyr Caerdydd - safle a ddylai gael ei drosglwyddo'n ôl i'r sector breifat, meddai.
Yr eitem nesaf yw "Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2020-21".
Cyfanswm cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn yw dros £17 biliwn.
Mae'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans yn tynnu sylw at y cynnydd o £340m i'r GIG, arian newydd i ymateb i argyfwng hinsawdd a buddsoddiad pellach yng ngwasanaethau iechyd meddwl.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yr eitem nesaf yw'r Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.
Mae'r Trefnydd Rebecca Evans yn amlinellu busnes y Cynulliad yn y dyfodol ac yn ymateb i geisiadau ACau.
Nesaf Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit Jeremy Miles.
Mae'r Ceidwadwr David Melding yn gofyn pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith yn y DU ar ffyrdd o gryfhau Undeb Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon?
Mae Mr Melding a Mr Miles yn edrych ymlaen at ganlyniad adolygiad sy'n cael ei gadeirio gan yr Arglwydd Dunlop, cyn-weinidog yn Swyddfa'r Alban.
Bwriad yr adolygiad yw sicrhau bod pob strwythur oddi fewn i lywodraeth y DU - gan gynnwys adrannau llywodraeth - yn cydweithio er mwyn sicrhau bod datganoli yn gweithio.
Mae Angela Burns ar ran y Ceidwadwyr yn cyfeirio at y pwysau sy'n wynebu y GIG yng Nghymru.
Daw ei sylw wedi i Bwrdd Iechyd Hywel Dda orfod canslo llawdriniaethau oedd wedi cael eu trefnu.
Dywed Mr Drakeford bod y pythefnos diwethaf wedi bod "yn hynod brysur a heriol ond bod y system yn wydn".
Mae arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless, yn gofyn a yw'n edifar gan y prif weinidog ei fod wedi dewis gamblo i strwythuro ail refferendwm.
Dywed y prif weinidog ei bod yn bwysig dangos bod Cymru ar ei hennill o fod y tu mewn i'r UE tra bod posibilrwydd y gallai refferendwm gael ei gynnal.
Mar Mr Reckless yn gofyn ymhellach ai bwriad y prif weinidog yw pleidleisio yn erbyn Brexit pan mae'r mater yn dod ger bron y cynulliad.
Mae Mark Drakeford yn dweud nad yw'r mesur "mewn man" lle dylai'r cynulliad ei gymeradwyo.
Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn cyfeirio at fideo diwedd blwyddyn gan y prif weinidog oedd yn nodi bod 480 cartref y flwyddyn yn cael eu codi.
Mae Mr Price yn gofyn faint o'r rhai hynny sy'n rhai fforddiadwy.
Dywed y prif weinidog bod ei lywodraeth wedi ymrwymo i godi 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor presennol y cynulliad.
Dywed Mr Price i Lywodraeth Cymru adeiladu llai o gartrefi y llynedd o'i gymharu â'r tair blynedd diwethaf.