Crynodeb

  • ACau yn cymeradwyo egwyddorion cyffredinol y Mesur Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) - cam cyntaf y broses ddeddfu.

  • Cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm gyda Chwestiynau i'r Prif Weinidog

  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol

  • Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2020-21

  • Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Bolisi Masnach

  • Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

  1. Datganoli toll teithwyr awyr>wedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2020

    Mae Paul Davies yn parhau drwy ymosod ar y prif weinidog am golledion Maes Awyr Caerdydd o £19m.

    Mae Mark Drakeford yn ateb gan ddweud ei fod yn gobeithio y bydd David Davies, y gweinidog newydd yn Swyddfa Cymru, yn argyhoeddi llywodraeth y DU i ddatganoli toll teithwyr awyr. Yn y gorffennol mae Mr Davies wedi galw am hynny.

    Paul Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Paul Davies

  2. Gwasanaeth trenau wedi gwella?wedi ei gyhoeddi 13:58 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2020

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, yn honni nad yw Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni anghenion teithwyr.

    Mae'r prif weinidog yn gwadu hynny ac yn dweud bod yna newid ar droed gyda mwy o le ar drenau a phrisiau yn gostwng.

    Mae Mr Davies yn rhestru diffygion eraill gan gynnwys methu â darparu trenau.

    Trafnidiaeth CymruFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
  3. '31 Ionawr ddim yn dod â sicrwydd'wedi ei gyhoeddi 13:48 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2020

    Mae Mr Drakeford yn dweud bydd Brexit "ymhell o fod drosodd wedi 31 Ionawr gan bod angen cytuno ar gytundebau masnach.

    "Bydd unrhyw un sy'n credu ar y 1af o Chwefror bod sicrwydd wedi dod yn lle ansicrwydd yn cael cryn sioc," meddai'r prif weinidog.

  4. Cefnogi busnesau yng Nghanol De Cymruwedi ei gyhoeddi 13:30 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2020

    Mae'r Llywydd Elin Jones yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau i’r Prif Weinidog ac i Weinidogion Cymru.

    Yn gyntaf mae Gareth Bennett, AC annibynnol, yn gofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau yng Nghanol De Cymru?

    Mae Mark Drakeford yn cyfeirio at Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru.

    Dywed Mr Bennett er bod Llafur wedi cael crasfa yn yr ethliad cyffredinol, bod Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i wrthwynebu Mesur Llywodraeth y DU i ymadael â'r UE.

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Drakeford

  5. Croeso i Senedd Fywwedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich 7 Ionawr 2020

    Prynhawn da.

    Mae cyfarfod llawn cyntaf 2020 yn dechrau am 1.30pm gyda Chwestiynau i'r Prif Weinidog.