Crynodeb

  • Dau berson arall wedi marw o'r haint yng Nghymru

  • Y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn cyhoeddi mesurau newydd

  • Tafarndai a thai bwyta yn cau

  • Cyfraith frys i ddiogelu tenantiaid yng Nghymru

  • Cymorth i blant sy'n cael cinio am ddim yng Nghymru

  1. 'Darn o'r haul draw yn rhywle'wedi ei gyhoeddi 14:37 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    Ar ddiwrnod barddoniaeth y byd mae Barddas wedi bod yn annog pobl i rannu eu hoff gerdd - mae dewis Aneirin Karadog sef cerdd gan Dic Jones yn gorffen yn hynod o obeithiol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Diwedd neges twitter
  2. 'Arhoswch adre,' medd y Prif Weinidogwedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, newydd drydar neges yn ystod y munudau diwethaf.

    Byrdwn ei neges yw bod yn rhaid aros adre er mwyn lleihau'r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. 'Bod yn garedig i'n gilydd yn ein helpu i ymdopi'n well'wedi ei gyhoeddi 14:13 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    Dylai pobl roi unrhyw densiynau i'r naill ochr a bod yn fwy caredig i'w gilydd tra bo achosion coronafeirws yn gorfodi teuluoedd i dreulio mwy o amser gyda'i gilydd yn eu cartrefi, medd elusen cwnsela perthynas.

    Mae'r cyfan wedi gadael pobl i deimlo eu bod wedi colli rheolaeth ar eu bywydau, medd Dr Rachel Davies, cynghorydd gyda Relate Cymru, ond mae'n dweud bod yna bethau allan nhw wneud i wella'r sefyllfa.

    "Perthnasau fydd yn eich cael chi drwyddi," meddai. "Bydd bod yn garedig i'n gilydd yn ein helpu i ymdopi'n well."

    teuluFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Prysurdeb traeth y Greig-ddu, Morfa Bychanwedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    Roedd hi'n eithaf prysur ar draeth y Greig-ddu ym Morfa Bychan ddydd Sadwrn.

    traeth greig-dduFfynhonnell y llun, bbc
  5. 'Annog twristiaid ac ymwelwyr i gadw draw o Ynys Môn'wedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    Cyngor Ynys Môn

    Mae Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, wedi annog twristiaid ac ymwelwyr i gadw draw o'r Ynys hyd nes bod yr argyfwng Coronafeirws drosodd.

    Wrth gyfrannu £310m y flwyddyn a chynnal 4,000 o swyddi, mae twristiaeth yn un o brif sylfeini economi Ynys Môn.

    Dywedodd y Cynghorydd Llinos Medi, “Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n cyfleu’r fath neges, ond yn ystod amser mor gythryblus, does dim dewis heblaw annog ymwelwyr a thwristiaid, gan gynnwys y rhai sy’n berchen ar ail gartrefi, i gadw draw o’r Ynys - a hynny ar unwaith.

    "Mae’n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan, ac i beidio teithio oni bai ei fod yn hanfodol, er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng cenedlaethol yma.”

    Apeliodd hefyd ar y diwydiant twristiaeth i helpu i leihau cyswllt cymdeithasol a galwodd ar barciau carafanau a busnesau Gwely a Brecwast i gau er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y clefyd a lleihau'r pwysau ar wasanaethau lleol a'r Gwasanaeth Iechyd.

  6. Undeb gweithwyr llawrydd yn galw am gymorthwedi ei gyhoeddi 13:29 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Yn dilyn sylwadau Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Stephen Barclay, fod helpu pobl hunangyflogedig yn "weithredol anodd" ac y byddid yn edrych eto ar y mater wythnos nesaf, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Prospect bod yn rhaid i'r llywodraeth ddeffro i bryderon pobl sy'n gweithio'n llawrydd neu sy'n hunangyflogedig.

    "Mae'r bobl llawrydd ry'n yn eu cynrychioli fel undeb yn haeddu yr un gefnogaeth ag y mae'r llywodraeth wedi ei roi i fusnesau - sef 80% o gyflog i weithwyr na sy'n gallu gweithio oherwydd yr haint.

    "Rhaid gweithredu nawr."

    Mae Undeb Prospect yn cynrychioli degau o bobl sy'n gweithio yn llawrydd ym meysydd ynni, gwasanaethau plant, darlledu a diddanu.

  7. Y cynulliad yn cwrdd ddydd Mawrthwedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Bydd y Cynulliad yn cwrdd ddydd Mawrth (Mawrth 24) er mwyn ystyried Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (LCM) sy’n ymwneud â Mesur Coronofeirws sydd ger bron Senedd y DU.

    Daw hyn yn sgîl cais gan y Prif Weinidog i’r Llywydd, sydd wedi cytuno i newid trefniadau busnes yr wythnos i ddod.

    Yn ogystal â’r Memorandwm, mae’r busnes yn cynnwys yr hyn oedd wedi ei glustnodi ar gyfer dwy sesiwn gefn wrth gefn o’r Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher.

    Mewn llythyr at aelodau, gofynnodd y Llywydd i unrhyw un ohonynt ei hysbysu os nad oes modd iddynt fynychu’r Busnes oherwydd salwch neu hunan-ynysu er mwyn ystyried yr agweddau iechyd cyhoeddus megis cadw pellter Cymdeithasol yn y Siambr.

    Mae’r Pwyllgor Busnes yn ystyried yr opsiynau o gynnal parhad Busnes Cynulliad sydd yn allweddol yn yr wythnosau sydd i ddod - gan gyd-bwyso gallu’r Cynulliad i ddeddfu a chraffu materion yn ymwneud â COVID-19 gydag ystyriaethau iechyd cyhoeddus.

  8. Canolfan wyliau yn cau ddydd Llunwedi ei gyhoeddi 12:55 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    Mae pentre gwyliau Bluestone yn Sir Benfro wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cau o ddydd Llun, 23 Mawrth tan 27 Ebrill, 2020.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. 280 achos yng Nghymru bellachwedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod 280 achos o haint coronafeirws yng Nghymru bellach.

    Dywedodd Dr Chris Williams:

    "Mae 89 achos newydd o Covid 19 yng Nghymru ac mae'r nifer bellach yn 280 er bod y nifer go iawn yn debygol o fod yn uwch.

    "Yn seiliedig ar asesiad risg gofalus bydd pobl sy'n gweithio wyneb yn wyneb â chleifion yn cael eu profi.

    "Wrth i fwy o bobl gael eu profi bydd canllawiau pellach ar bwy sy'n gymwys i gael prawf.

    "Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn dilyn ein cynghorion."

    Mae tri o bobl, oedd wedi eu profi'n bositif,wedi marw o'r haint yng Nghymru.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Galw am brofion i'r heddluwedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    Heddlu Dyfed Powys

    Dywed Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys Dafydd Llywelyn fod angen i'r llywodraeth ystyried yr heddlu wrth flaenoriaethu profion ar gyfer coronafeirws.

    Mewn trydar dywedodd fod dwsinau o'r llu yn hunan ynysu ac felly yn absennol o'u gwaith.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Y tu hwnt i Gymruwedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    Ledled y byd mae dros 11,000 wedi marw o'r feirws, gyda 270,000 wedi profi'n bositif

    Ddydd Gwener bu farw 627 o bobl yn yr Eidal, hwn yw'r nifer uchaf ers dechrau'r argyfwng yno.

    Mae llywodraethau'r Eidal, Sbaen a Ffrainc wedi cyflwyno mesurau llym sy'n cyfyngu ar allu pobl i gymysgu.

    pobl
  12. Oriau ymweld cyfyngedigwedi ei gyhoeddi 11:54 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    Mae nifer o fyrddau iechyd, bellach, yn cyfyngu ar oriau ymweld neu wedi gwahardd ymweld ag ysbyty.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Dim ymwelwyr yn Ysbyty Brenhinol Gwentwedi ei gyhoeddi 11:41 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    Er mwyn diogelu cleifion, staff a'r cyhoedd mae nifer o fyrddau iechyd yn gweithredu polisïau ymweld newydd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Cofio ffliw 1919wedi ei gyhoeddi 11:30 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    I rai mae haint coronafeirws wedi dod â hanes ffliw diwedd y Rhyfel Byd yn fyw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Ymwelwyr 'yn cynyddu'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd'wedi ei gyhoeddi 11:18 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Iechyd y DU, Matt Hancock, i fynegi ei phryderon am "dwf cynyddol y boblogaeth mewn ardaleodd gwledig wrth i bobl geisio dianc rhag haint coronafeirws."

    Yn ôl arweinydd seneddol Plaid Cymru, mae pobl wedi dod i aros i dai haf yn ei hetholaeth yng ngogledd Cymru ar adeg lle maen nhw fel arfer yn wag.

    "Mae hynny yn cynyddu'r pwysau ar y gwasanaethau iechyd yng Nghymru," meddai mewn llythyr.

    Maes carafanau ym MhorthmadogFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Maes carafanau ym Mhorthmadog

  16. Trefniadau Radio Cymru yn ystod cyfnod haint coronafeirwswedi ei gyhoeddi 11:03 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    BBC Radio Cymru

    Golygydd Radio Cymru, Rhuanedd Richards, yn egluro sut fydd amserlen Radio Cymru yn newid er mwyn ymestyn y gwasanaeth newyddion yn ystod haint coronafeirws.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Miloedd o lythyron wedi'u hanfon at gyn-weithwyr iechydwedi ei gyhoeddi 10:41 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae 5,000 o lythyron, medd y Gweinidog Iechyd, wedi eu hanfon at weithwyr iechyd sydd wedi ymddeol yn y tair blynedd diwethaf.

    Mae'r llythyr yn gofyn iddynt ailgofrestru gyda'u cyrff priodol er mwyn cael dychwelyd i weithio i GIG Cymru.

  18. Cynyddu nifer y profionwedi ei gyhoeddi 10:25 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn dweud bod 800 o brofion haint coronafeirws yn cael eu cynnal bob dydd ar hyn o bryd.

    Erbyn dechrau Ebrill bydd y nifer yn cynyddu i 6,000 y dydd ac wythnos wedi hynny bydd 8,000 y dydd yn cael eu profi.

  19. Fferyllfeydd yn cael newid oriauwedi ei gyhoeddi 10:17 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r wasg fore Sadwrn, Vaughan Gething, yn ychwanegu y bydd myfyrwyr meddygaeth blwyddyn olaf ynghyd â nyrsys a bydwragedd yn cael eu galw i weithio i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ac fe fyddant yn cael eu talu am y gwaith.

    Mae e hefyd yn annog gweithwyr iechyd proffesiynol a gweithwyr gofal cymdeithasol, sydd wedi ymddeol, i ddychwelyd i'r gwaith.

    Bydd fferyllfeydd yn cael agor awr yn hwyrach a chau awr yn gynt ac yn cael cau am ddwy awr amser cinio er mwyn ail-lenwi'r silffoedd.

  20. Y diweddara' gan Lywodraeth Cymruwedi ei gyhoeddi 10:09 Amser Safonol Greenwich 21 Mawrth 2020

    Mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething, yn dweud y bydd gan weithwyr gofal cymdeithasol fynediad i offer amddiffyn personol.

    Vaughan Gething
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn siarad fore Sadwrn