Crynodeb

  • Dau berson arall wedi marw o'r haint yng Nghymru

  • Y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn cyhoeddi mesurau newydd

  • Tafarndai a thai bwyta yn cau

  • Cyfraith frys i ddiogelu tenantiaid yng Nghymru

  • Cymorth i blant sy'n cael cinio am ddim yng Nghymru

  1. Y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn rhoi'r diweddarafwedi ei gyhoeddi 09:49 GMT 21 Mawrth 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ar hyn o bryd mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn rhoi diweddariad am y sefyllfa yng Nghymru.

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  2. Gwarchod tenantiaid preifatwedi ei gyhoeddi 09:45 GMT 21 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Bydd tenantiaid preifat yng Nghymru'n cael eu gwarchod rhag cael eu gyrru o'u cartrefi dan ddeddfwriaeth frys sy'n cael ei chyflwyno gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i'r argyfwng coronafeirws.

    Nod y ddeddfwriaeth fyddai gwarchod tenantiaid rhag cael eu gorfodi i symud cartref am dri mis, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cael cadarnhad y bydd hefyd yn berthnasol yng Nghymru.

    clo
  3. Bore dawedi ei gyhoeddi 09:33 GMT 21 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i lif byw Cymru Fyw - y diweddaraf am haint coronafeirws a'i effaith yng Nghymru gydol y dydd.

    Dyma'r diwrnod cyntaf y mae tafarndai, clybiau a thai bwyta ar gau wedi i lywodraethau San Steffan a Chymru orchymyn eu cau neithiwr er mwyn gwarchod y cyhoedd rhag haint coronafeirws.

    Bydd Llywodraeth San Steffan yn talu cyflogau gweithwyr na sy'n gallu gweithio oherwydd yr haint.