Crynodeb

  • Pedwar arall wedi marw yng Nghymru - 16 i gyd

  • 418 achos wedi'u cadarnhau yma bellach, ond yn debygol fod y ffigwr yn uwch

  • 70,000 o bobl yn y categori "mwyaf bregus" i gael cyfarwyddyd i aros yn eu cartrefi am 12-16 wythnos

  • Prif Swyddog Meddygol Cymru: 'Awdurdodau wedi ennill amser yn y frwydr yn erbyn Covid-19, ond niferoedd y bobl yn ei ddal ar gynnydd'

  1. Caeau chwarae Sir y Fflint i gauwedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Cyngor Sir y Fflint

    Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cau holl gaeau chwarae'r sir ddydd Llun yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru.

    Bydd y caeau i gyd yn cau heddiw, gydag arwyddion yn cael eu gosod ar bob cae chwarae sy'n eiddo i'r awdurdod.

    Maen nhw hefyd wedi gofyn i sefydliadau eraill sy'n rheoli mannau agored tebyg - megis cynghorau tref neu gymuned - i ddilyn eu hesiampl.

  2. Maes parcio Llyn Tegid ar gauwedi ei gyhoeddi 13:49 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Yn ôl y disgwyl mae maes parcio Llyn Tegid yn Y Bala wedi ei gau heddiw i ymwelwyr.

    llyn tegid
  3. 'Braf cael mwy o le'wedi ei gyhoeddi 13:40 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Roedd Alex Varney, sy'n gweithio i gwmni BT yng Nghaerdydd, wedi teithio o'r Barri i'r brifddinas ar drên y bore 'ma.

    "Fel arfer mae lot o bobl ar y daith ond doedd dim llawer heddiw," meddai. "Doedd dim hyd yn oed yr inductor yn gweithio. Dim ond fi ac un arall oedd ar y carriage.

    "Roedd hi'n braf cael rhywfaint o le am newid. Dwi'n fwy gwyliadwrus ond ddim yn nerfus - mae'r ymbellhau yn creu awyrgylch bach mwy cyfforddus."

    Alex Varney
  4. Canllawiau hunan ynysu i deuluoeddwedi ei gyhoeddi 13:24 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Beth ydy'r canllawiau o ran hunan ynysu i'r rheiny sy'n byw gyda gweddill eu teulu?

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn egluro isod.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Gwyddonwyr Cymru'n helpu i fapio'r feirwswedi ei gyhoeddi 13:11 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Prifysgol Caerdydd

    Bydd gwyddonwyr o Gymru yn chwarae rhan flaenllaw yn mapio gwasgariad coronafeirws fel rhan o brosiect gwerth £20m.

    Fe fydd y nawdd yn cael ei ddefnyddio i ariannu'r unig ganolfan o'i math yng Nghymru, gyda gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio yno.

    Mae'r prosiect yn rhan o Gonsortiwm Genomeg y DU, sy'n casglu arbenigwyr ar draws y DU i greu map a dadansoddi gwasgariad yr haint.

    Y nod wedyn yw rhannu'r wybodaeth gydag ysbytai, y gwasanaeth iechyd a'r llywodraeth er mwyn helpu cynghori eu hymateb i bandemig coronafeirws.

  6. Cyngor yn trosglwyddo maes parcio i'r GIGwedi ei gyhoeddi 12:54 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Cyngor Caerdydd

    Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd maes parcio Parc y Mynydd Bychan yn cau i'r cyhoedd er mwyn rhoi parcio am ddim i staff y gwasanaeth iechyd.

    Mae'r maes parcio yn agos at Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas.

    Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw Thomas: "Mae hwn yn gyfnod digynsail ac rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein cydweithwyr yn y GIG.

    "Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn gwneud pethau ychydig yn haws i staff y GIG sy'n gwneud gwaith rhyfeddol yn ceisio ein cadw ni oll yn ddiogel rhag y feirws hwn."

  7. Y Cynulliad i drafod deddfwriaeth coronafeirws y DUwedi ei gyhoeddi 12:37 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Fe fydd Aelodau'r Cynulliad yn cwrdd yn y Senedd ddydd Mawrth ar gyfer dadl ar ddeddfwriaeth coronafeirws Llywodraeth y DU.

    Bydd y ddeddfwriaeth yn rhoi pwerau mawr i weinidogion Cymru a'r DU i fynd i'r afael â'r argyfwng, fel y pŵer i gadw unigolion ar wahân er mwyn ynysu, cau busnesau ac atal pobl rhag casglu mewn grwpiau.

    Bydd dadl ar y ddeddfwriaeth yn San Steffan heddiw, ond mae'r pwerau ychwanegol sy'n cael eu rhoi i Gymru yn golygu bod rhaid i'r Cynulliad ei gymeradwyo hefyd.

    Cynulliad
  8. Pedwar yn rhagor wedi marwwedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod pedwar person arall wedi marw ar ôl cael coronafeirws - gyda'r ffigwr yma bellach yn 16.

    Mae 71 achos newydd wedi'i gadarnhau, gan ddod â'r cyfanswm sydd wedi'u heintio yma i 418.

    Ond fe ddywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod hi'n debygol fod y ffigwr yna (418) yn uwch mewn gwirionedd.

  9. Apêl uniongyrchol i blantwedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Kirsty Williams
    Gweinidog Addysg Cymru

    Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud bod yn rhaid i bobl aros y tu fewn a bod y niferoedd a gafodd eu gweld mewn llefydd cyhoeddus dros y penwythnos yn "bryderus".

    Galwodd Kirsty Williams AC hefyd ar blant Cymru i gadw eu teuluoedd ac eraill yn ddiogel trwy aros y tu fewn.

    Dywedodd hefyd bod gan y Prif Weinidog "bob bwriad" i ddefnyddio pwerau i orfodi parciau carafanau i gau.

    Darllenwch y stori'n llawn yma.

    Kirsty Williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Kirsty Williams yn siarad mewn cynhadledd fore Llun

  10. Powys yn 'anialwch ysbytai'wedi ei gyhoeddi 12:04 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Rhydychen yn dweud y gallai Powys gael ei "gorlwytho" yn sydyn gan achosion coronafeirws am fod gan y sir boblogaeth hŷn a llai o welyau mewn ysbytai.

    Yn eu hadroddiad mae'r academyddion yn dweud bod Powys yn un o bump "anialwch ysbytai" yng Nghymru a Lloegr.

    Maen nhw'n diffinio'r ardaloedd hynny fel rhai sy'n "fregus iawn oherwydd nifer yr oedolion hŷn wedi'i gyfuno â chapasiti isel yn y gwasanaeth iechyd".

  11. F1 yn canslo'r Grand Prix yn Bakuwedi ei gyhoeddi 11:38 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Ym myd y campau mae Grand Prix Azerbaijan, oedd i fod i gael ei chynnal ar 7 Mehefin, wedi ei chanslo.

    Dyma'r wythfed ras yn y calendr F1 i gael ei chanslo ar ddechrau tymor 2020.

    Roedd y ras i fod i gael ei chynnal ar strydoedd Baku - ble roedd tîm pêl-droed Cymru i fod i herio'r Swistir a Thwrci yn Euro 2020 yr haf hwn.

    Mae hi bellach yn edrych yn debygol y bydd y gemau hynny'n cael eu haildrefnu ar gyfer Mehefin 2021.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Ardaloedd chwarae'r brifddinas i gauwedi ei gyhoeddi 11:28 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Cyngor Caerdydd

    Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd ardaloedd chwarae ym mharciau'r cyngor yn cau ar unwaith.

    "Credir bod y risg o drosglwyddo o blentyn i blentyn ar offer chwarae yn ormod o risg i'r cyhoedd wrth i ni geisio arafu trosglwyddiad Covid-19," meddai eu datganiad.

    "Bydd parciau Caerdydd yn aros ar agor ar hyn o bryd. Rydym yn deall y rôl y gallant ei chwarae o ran cynorthwyo lles yn ystod y cyfnod hwn.

    "Fodd bynnag, rydym yn annog pawb sy'n ymweld â'n parciau i ymarfer ymbellhau cymdeithasol."

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Y Gemau Olympaidd: Siom cyn-nofiwrwedi ei gyhoeddi 11:15 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Mae'r nofiwr o Gymru, Jazz Carlin - wnaeth ennill medalau Oympaidd ei hun - wedi mynegi ei siom gyda threfnwyr y Gemau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Rhai trenau'n brysur iawnwedi ei gyhoeddi 10:57 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Er y cyhoeddiad y bydd llai o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus trwy Gymru oherwydd haint coronafeirws, mae 'na alw am fwy o drenau.

    Roedd y nyrs yma'n teithio o ardal Caerffili i Gaerdydd fore Llun, gan ddweud ei bod hi'n anodd iddi ddilyn canllawiau'r llywodraeth am ymbellhau cymdeithasol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Mwy o arwyddion Covid-19 dros noswedi ei gyhoeddi 10:52 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Ambell i arwydd arall wedi ymddangos dros nos ar gylchfan y Goat yn Llanwnda ger Caernarfon

    Llanwnda
  16. Tips tawelu meddwlwedi ei gyhoeddi 10:42 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Ar adeg mor ansicr, dyma ambell dip ar sut i dawelu eich meddwl gan y seicolegydd, Dr Ioan Rees.

  17. Gorsaf canol Caerdydd yn dawelwedi ei gyhoeddi 10:36 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Dyma'r olygfa yng ngorsaf drên brysuraf Cymru am tua 10:00 fore Llun.

    Gorsaf
  18. 'Peidiwch teithio i Bowys'wedi ei gyhoeddi 10:32 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Cyngor Powys

    Mae Cyngor Sir Powys yn gofyn i bobl i ddilyn cyngor y llywodraeth ac i beidio teithio i leoliadau gwyliau yn y sir tan fod y pandemig drosodd.

    Dywedodd y Cynghorydd James Evans: “Powys yw un o rannau prydferthaf y Deyrnas Unedig ac rydym yn croesawu ymwelwyr i’r sir, ond nid nawr yw’r amser i ddod i Bowys.

    "Prif gyfrifoldeb y cyngor yw diogelu ein trigolion a’n busnes, a dyna pam ein bod yn annog pobl i beidio dod i ganolbarth Cymru tan fydd y sefyllfa dan reolaeth.

    “Y gwirionedd yw nad oes gan y gwasanaeth iechyd yng nghanolbarth Cymru, na’r cyngor yr adnoddau i gwrdd ag anghenion cynnydd mawr yn achosion o’r coronafeirws yn y boblogaeth.

    “Byddwn yn barod i groesawu ymwelwyr gyda breichiau agored cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny ond am nawr, dilynwch y cyngor gan y llywodraeth: arhoswch gartref, peidiwch â theithio oni bai ei fod yn hanfodol a chofiwch ymarfer ymbellhau cymdeithasol."

  19. McDonald's a Costa yn cauwedi ei gyhoeddi 10:20 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Wedi i gwmni bwyd McDonald's gau bob un o’i safleoedd drwy’r DU, mae cwmni siopau coffi Costa wedi cyhoeddi y bydd yn dilyn yr un trywydd hefyd.

    Dywedodd y cwmni mai’r flaenoriaeth oedd iechyd y cwsmeriaid, ond fe fydd yn parhau i gadw’r siopau coffi mewn ysbytai ar agor.

  20. Neges eglur i ymwelwyrwedi ei gyhoeddi 10:14 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020

    Cafodd yr arwydd yma ei roi i fyny gan rai o drigolion Llithfaen, Pen Llŷn ddoe...

    ArwyddFfynhonnell y llun, Lois Elin Roberts