'Anffodus' fod pobl yn mynd allan i'r haulwedi ei gyhoeddi 10:09 Amser Safonol Greenwich 23 Mawrth 2020
BBC Radio Wales
Mewn cyfweliad gyda BBC Radio Wales fore Llun, dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, nad oedd y neges am ymbellhau cymdeithasol wedi bod yn ddigon cryf dros yr wythnosau diwethaf, ond roedd yn credu fod y neges bellach yn taro deuddeg.
Roedd hefyd o’r farn fod yr awdurdodau wedi ennill amser yn y frwydr yn erbyn yr haint, ond fod niferoedd y bobl oedd yn ei ddal ar gynnydd.
Ychwanegodd fod tywydd braf y penwythnos wedi cyfrannu at y nifer fawr o bobl oedd wedi heidio allan i leoliadau poblogaidd i fwynhau ychydig o’r heulwen, a bod hyn wedi bod yn "ganlyniad anffodus".