Crynodeb

  • Meddyg blaenllaw yn dweud bod angen i deuluoedd drafod marwolaeth

  • Y Prif Weinidog, Boris Johnson, yn rhybuddio y bydd argyfwng coronafeirws yn gwaethygu cyn gwella

  • 48 wedi marw yng Nghymru bellach a nifer yr achosion wedi codi i 1241

  • Gwirfoddolwraig o Aberystwyth yn gorfod gadael Malawi

  1. Modd gweld grwpiau ar y wewedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mawrth 2020

    Teimlo'n ddiflas beth am ymuno â Gŵyl Ynysu sy'n digwydd ar hyn o bryd?

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    gwyl ynysuFfynhonnell y llun, Selar
  2. Mwy o farwolaethau yn Sbaenwedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mawrth 2020

    Mae 838 o bobl yn rhagor wedi marw yn Sbaen yn ystod y 24 awr ddiwethaf - y nifer fwyaf o farwolaethau mewn diwrnod hyd yma.

    Mae cyfanswm y rhai sydd wedi marw bellach yn 6,528.

    Mae nifer y rhai sy'n dioddef o'r haint wedi codi o 72,248 i 78,797.

    Pobl yn Sbaen yn clodfori gwaith y gweithwyr iechydFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Pobl yn Sbaen yn clodfori gwaith y gweithwyr iechyd

  3. Juventus yn arbed arian wrth i chwaraewyr gytuno i beidio cael tâlwedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mawrth 2020

    Twitter

    Mae Juventus yn gobeithio y byddan nhw'n arbed £80m wedi i'r chwaraewyr ddod i gytundeb.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. 'Mwy o fasgiau ar eu ffordd'wedi ei gyhoeddi 11:36 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mawrth 2020

    Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn dweud y bydd mwy o gyfarpar amddiffyn personol yn cael eu hanfon i weithwyr iechyd.

    Roedd e'n siarad ar Politics Wales wedi i feddyg teulu ddweud wrth BBC Cymru fod staff yn prynu cyfarpar amddiffyn eu hunain.

    "Dylai byrddau iechyd gael 600,000 yn fwy o fasgiau resbiradol yr wythnos hon," meddai.

    Yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, yn siarad ar Politics Wales fore Sul
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, yn siarad ar Politics Wales fore Sul

  5. Ffred a Meinir Ffransis yn gobeithio cyrraedd adre forywedi ei gyhoeddi 11:19 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mawrth 2020

    Twitter

    Mewn negeseuon trydar mae Ffred a Meinir Ffransis wedi dweud eu bod yn gobeithio cyrraedd maes awyr Heathrow fore Llun.

    "Ry'n ni'n ddiolchgar ac yn hynod hapus ein bod yn cael dychwelyd," meddai Meinir Ffransis ar facebook.

    Ganol wythnos dywedodd un o blant Ffred a Meinir Ffransis ei bod yn poeni ei bod hi'n rhy hwyr i gludo'i rhieni nôl o Beriw wedi'r hyn mae hi'n ei ddisgrifio fel 'llanast diplomatig' ar ran y swyddfa dramor.

    "Mae'r llywodraeth yn shambles," meddai Gwenno Teifi, 33, "mae'n amlwg nad ydyn nhw'n gwybod shwt i neud foreign relations."

    Roedd Ffred a Meinir Ffransis o Lanfihangel-ar-arth ar eu gwyliau ym Mheriw pan benderfynodd y llywodraeth gau ei ffiniau a rhwystro hediadau o'r wlad.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Canllawiau newydd ar gyfer ymweld â chartrefi gofalwedi ei gyhoeddi 11:09 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mawrth 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer ymweld â chartefi gofal.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. 'Y sefyllfa yn debygol o waethygu cyn gwella'wedi ei gyhoeddi 10:53 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mawrth 2020

    Mae'r Prif Weinidog, Boris Johnson, wedi rhybuddio y bydd argyfwng coronafeirws yn mynd yn waeth cyn dod yn well.

    Mae'r Prif Weinidog ei hun yn hunanynysu wedi iddo gael prawf cadarnhaol o Covid-19.

    Mae e wedi dweud efallai y bydd mwy o gyfyngiadau yn cael eu cyflwyno os bydd angen.

    Bydd pobl yn cael taflen yn ystod yr wythnos yn rhoi manylion pellach am adael cartref.

    boris
  8. Dim mart yn Llanybydder forywedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mawrth 2020

    Twitter

    Fydd 'na ddim mart yn Llanybydder fory - dyma'r tro cyntaf yn hanes cwmni arwerthu Evans Bros i'r mart gael ei chanslo.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Gorfod dychwelyd o Malawiwedi ei gyhoeddi 10:29 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mawrth 2020

    Yn sgil haint coronafeirws, mae nifer o elusennau wedi galw eu gwirfoddolwyr yn ôl adref - yn eu plith Siwan Davies o Aberystwyth a oedd newydd deithio i weithio am gyfnod ym Malawi ar ran elusen Tearfund.

    Cyn mynd, roedd Siwan wedi bod yn hynod brysur yn codi arian ar gyfer ei thaith ac fe gyrhaeddodd Malawi bythefnos yn ôl ond wythnos yn ddiweddarach wedi i haint coronafeirws ledu ar draws y byd, cafodd wybod ei bod yn gorfod gadael.

    Dywedodd Siwan ei bod wedi edrych ymlaen gymaint i weithio yn Affrica yn ystod ei blwyddyn gap.

    "Roeddwn i mor siomedig ond doedd dim dewis arall gan yr elusen ac roedden ni'n deall hynny fel tîm ond 'nath llawer ohonom grio am ychydig," meddai

    "Doedden i wir ddim am adael - roedd y gwaith roedden ni fel gwirfoddolwyr fod i wneud yn swnio'n anhygoel.

    "Roedden i hefyd newydd ddod i adnabod dwy arall o'r tîm yn dda - un o Awstralia ac un arall o Seland Newydd.

    Dim ond wythnos fu Siwan yno ond mae'r argraff a'r ymdrechion i helpu pobl yn y wlad wedi creu cryn argraff arni.

    siwanFfynhonnell y llun, siwan davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Siwan Davies a'i ffrindiau newydd ym Malawi

  10. 'Teuluoedd angen trafod marwolaeth'wedi ei gyhoeddi 10:14 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Ein prif stori ni'r bore 'ma yw cyngor arbenigwr gofal lliniarol sy'n dweud y dylai pawb gael sgyrsiau am farwolaeth a thrafod eu dymuniadau gyda'u hanwyliaid petai nhw'n mynd yn ddifrifol wael.

    Wrth i'r pandemig coronafirws ledu ym Mhrydain mae arbenigwyr sy'n gofalu am gleifion diwedd oes yn annog pobl i gael y sgyrsiau anodd hynny tra bo modd.

    Mae un o feddygon lliniarol mwyaf blaenllaw'r wlad, y Farwnes Ilora Finlay o Landaf, yn dweud y dylai pawb ystyried pa driniaeth y bydden nhw'n dymuno derbyn petai nhw'n mynd yn ddifrifol wael a lleisio eu dymuniadau ar ôl eu marwolaethau a chyfleu hyn i'w hanwyliaid.

    cyngor marwolaethFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. Bore dawedi ei gyhoeddi 10:14 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i'r llif byw fydd yn dod â'r diweddaraf i chi yn ystod y dydd.