Crynodeb

  • 1,563 o achosion yng Nghymru bellach a 69 wedi marw

  • Llywodraeth Cymru'n “siomedig” nad oedd cwmni’n gallu anrhydeddu cytundeb i ddarparu profion Covid-19 ychwanegol

  • Teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn 26 oed o Gaerdydd sydd wedi marw ar ôl cael yr haint

  • Llywodraeth Cymru yn cyhuddo Tesco o 'ymgyrch lobïo enfawr' ar drethi busnes

  1. Achosion Covid-19 newydd Cymruwedi ei gyhoeddi 15:42 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Dyma'r darlun diweddaraf o ran nifer yr achosion newydd o goronafeirws sydd wedi eu cofnodi yng Nghymru.

    Map
  2. Ipads i gartrefi gofal Sir Gârwedi ei gyhoeddi 15:25 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Twitter

    Mae un o gynghorau sir Cymru yn rhoi dros 100 o iPads i gartrefi gofal.

    Mae'n digwydd ar ôl i gyfyngiadau ymweld gael eu gweithredu mewn cartrefi preswyl ledled y DU mewn ymateb i'r coronafeirws.

    Bydd y 110 o lechi'n cael eu dosbarthu ar draws y saith cartref yn Sir Gaerfyrddin.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. 393 marwolaeth COVID-19 arall yn y DUwedi ei gyhoeddi 15:07 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Mae 393 marwolaeth arall wedi eu cofnodi yn y DU o achos COVID-19 yn ystod y 24 awr diwethaf - sydd yn gynnydd o'r 180 fu farw ddydd Llun.

    Roedd y rhai fu farw rhwng 19 a 98 oed, gyda 70 o'r rhai fu farw yn dioddef gyda phroblemau iechyd blaenorol.

    Cyfanswm marwolaethau'r DU bellach yw 1801.

  4. Coronafeirws: Nifer y marwolaethau bob dyddwedi ei gyhoeddi 14:54 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Graffeg sy'n dangos nifer y marwolaethau sydd wedi cael prawf positif am Covid-19 yng Nghymru hyd yn hyn.

    Er bod cwymp wedi bod heddiw o'i gymharu â ddoe, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio na ddylai pobl feddwl bod hynny'n golygu newid yn y 'trend'.

    Map
  5. Achosion Covid-19 fesul lleoliadwedi ei gyhoeddi 14:40 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Dyma fap yn dangos lleoliad yr achosion diweddaraf o goronafeirws yng Nghymru fesul ardal bwrdd iechyd.

    Mae'n debyg fod y gwir rif yn uwch, ond nid yw'r ffigwr ar gael gan nad oes profion cyffredinol yn cael eu cynnal yn y gymuned.

    Map
  6. Coronafeirws: Teyrnged i ddyn 26 oedwedi ei gyhoeddi 14:27 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn 26 oed o Gaerdydd sydd wedi marw.

    Dywedodd partner Josh Youngman ei fod wedi "colli'r frwydr" yn erbyn coronafeirws o fewn wythnos iddo gael ei daro'n wael.

    Mewn neges ar Twitter, dywedodd Charlotte Mills: "Cymerwch hyn o ddifrif os gwelwch yn dda. Does neb yn anorchfygol."

    Roedd Mr Youngman yn holliach hyd at ychydig ddyddiau'n ôl, meddai Ms Mills.

    Roedd Josh Youngman yn fab i'r Parchedig Chris Youngman, o Eglwys Whitefriars yn Swydd Northampton.

    Mewn datganiad, dywedodd yr eglwys "fod pawb wedi eu tristau'n ofnadwy ac mewn sioc" o glywed y newyddion am y farwolaeth.

    NegesFfynhonnell y llun, Charlotte Mills / Twitter
  7. Cyngor iechyd meddwl gan CBACwedi ei gyhoeddi 14:22 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Cwymp cytundeb: 'Colli amser gwerthfawr'wedi ei gyhoeddi 14:09 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, y “bydd Cymru hyd yn oed ymhellach ar ei hôl hi o ran profion hanfodol nag yr oeddem eisoes" yn dilyn y newyddion bod cytundeb y llywodraeth â chyflenwr i ddarparu 5,000 o brofion ychwanegol y dydd wedi cwympo.

    "Collwyd amser gwerthfawr ac efallai y bydd bywydau dirifedi bellach mewn mwy o berygl,” meddai Mr Price.

  9. Coronafeirws: 112 achos a saith marwolaeth newyddwedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi'r ystadegau diweddaraf am haint coronafeirws yng Nghymru.

    Bellach mae 1,563 o bobl wedi derbyn prawf positif, gyda saith yn fwy o bobl wedi marw o ganlyniad i'r haint.

    Cyfanswm y marwolaethau drwy Gymru ydy 69, ac mae'r mwyafrif o achosion yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan (590) - ardal sydd wedi gweld 25 achos newydd.

    COVID19
  10. Apêl ar ran tîm nyrsio cymunedolwedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Mae rhai'n chwilio am atebion gwahanol i'r arfer pan fo cyfarpar diogelwch personol yn brin ar y rheng flaen...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Cyn-staff yn dychwelyd i'r GIGwedi ei gyhoeddi 13:42 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Gething fod mwy na 1,300 o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol wedi dod allan o’u hymddeoliad i helpu GIG Cymru i fynd i’r afael ag argyfwng coronafeirws.

    Mae'r ffigwr, meddai, yn cynnwys 670 o feddygon a mwy na 400 o nyrsys a bydwragedd.

    Dywedodd Mr Gething ei bod dangos "gwytnwch ac ymroddiad gwych" cyn-staff mewn "amseroedd digynsail".

    Ychwanegodd fod mwy na 1,000 o bobl y dydd hefyd yn gwirfoddoli i gefnogi eu cymunedau - roedd bron i 22,000 o bobl bellach wedi ymuno fel gwirfoddolwyr.

  12. 'Profi dros 1,000 o staff y GIG'wedi ei gyhoeddi 13:35 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth siarad am faint o weithwyr y GIG sydd i ffwrdd ar hyn o bryd yn sâl neu'n hunan-ynysu, dywedodd Mr Gething y byddai mwy o fanylion ar gael yn ddiweddarach yr wythnos hon.

    Ond dywedodd: "Mae dros 1,000 o staff rheng flaen, y GIG yn bennaf, wedi cael eu profi [am Covid-19]. Rydyn ni hefyd yn cyflwyno rhywfaint o brofion i staff gofal cymdeithasol hefyd.

    “Ac eto ddydd Iau, byddwn yn gallu darparu diweddariad ynghylch nifer y staff sydd wedi cael eu profi."

    Dywedodd y byddai'r cytundeb a gwympodd wedi gwneud gwahaniaeth yn gynt ond mae bellach yn canolbwyntio ar ddarparu mwy o brofion.

  13. Methiant cytundeb: Ddim am enwi cwmniwedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth siarad yng nghynhadledd i’r wasg ddyddiol Llywodraeth Cymru, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething na fyddai’n enwi’r cwmni sydd dan y lach am fethu â chwrdd â gofynion cytundeb am offer profi coronafeirws.

    Dros y penwythnos daeth i’r amlwg bod cytundeb y llywodraeth â chyflenwr i ddarparu 5,000 o brofion ychwanegol y dydd wedi cwympo.

    Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn “siomedig” nad oedd y cwmni’n gallu anrhydeddu cytundeb ysgrifenedig.

    Dywedodd Mr Gething nad oedd ganddo lawer pellach i’w ychwanegu, a gwrthododd enwi’r cwmni dan sylw.

  14. Angen syniadau i ddifyrru'r plant?wedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Ydy'r plant adre a chithau'n ceisio gweithio'r un pryd? Wedi rhedeg allan o syniadau am ffyrdd o'u diddanu? Cymerwch gip ar syniadau celfydd Elin Vaughan Crowley:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Pryder gofalwyr am ddiffyg cyfarpar diogelwchwedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Mae 'na bryder ymysg gofalwyr nad oes cyfarpar diogelwch PPE ar gael iddyn nhw yn ystod pandemig Covid-19.

    Un sydd yn gweithio yn y maes ydy Pat Jones o Ben-y-bont. Mae hi'n gofalu am oedolion ag anghenion arbennig.

    Dywedodd wrth BBC Cymru ei bod hi a'i chydweithwyr yn derbyn ychydig iawn o gyfarpar diogelwch, gan orfod prynu mygydau deunydd eu hunain.

    Mae hi'n pryderu y gall ofalwyr ledaenu'r feirws i'r bregus a'r henoed, gan ychwanegu'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd.

    Dywedodd: "Ar y funud mae ganddo ni ddau fwgwd rhwng tîm o wyth. Maen nhw'n rhai llawfeddygol, i'w defnyddio unwaith felly dydyn nhw'n dda i ddim i ni - nid oes neb yn eu defnyddio achos does neb am fod y person sydd wedi ei wisgo. Dyna'r oll sydd ganddo ni - dau fwgwd llawfeddygol."

    Mae BBC Cymru wedi gofyn i'r llywodraeth am ymateb.

    Mwgwd
  16. Datganiad dyddiol y llywodraethwedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    S4C

    Gwyliwch S4C nawr er mwyn cael y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru. Mae'r datganiad ar gael ar BBC1 hefyd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Cyngor ar bwy i ffonio mewn argyfwngwedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Mae Heddlu'r Gogledd wedi rhyddhau canllaw gwybodaeth yn ystod pandemig COVID-19, ac mae eu swyddogion yn erfyn ar y cyhoedd i beidio cysylltu gydag ymholiadau amherthnasol os nad yw mewn argyfwng.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Newid swydd i helpu eraillwedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Mae dyn o ardal Caernarfon wedi arallgyfeirio i gludo meddyginiaeth i bobl sydd wedi gorfod hunan ynysu yn eu cartrefi.

    Hyfforddwr yn y maes awyr agored ydy swydd arferol Amlyn Parri o’r Groeslon, ond mae bellach yn gwneud gwaith tra gwahanol.

    “Mae gen i gefndir yn y maes gofal, a phan welais i’r hysbyseb yn gofyn am weithwyr gofal ychwanegol gan y Cyngor, mi rois fy enw i lawr yn syth," meddai Amlyn.

    “Mae fy sefyllfa waith wedi newid oherwydd y feirws, ac mae gen i amser i helpu allan. Ro’n i isio bod o ddefnydd, ac isio helpu.”

    Bellach mae Amlyn yn gweithio’n llawn amser i ddanfon meddyginiaeth ar ran y fferyllfa ym meddygfa Hafan Iechyd, Caernarfon, ac yn treulio’i ddiwrnodau'n rhannu cannoedd o becynnau i unigolion ar hyd a lled yr ardal.

    Cafodd ymgyrch i recriwtio staff a gwirfoddolwyr i’r maes gofal yng Ngwynedd ei lansio ddechrau’r wythnos, pan ddaeth yn amlwg bod angen llawer mwy o adnoddau i ddygymod ag effeithiau hunan ynysu oherwydd Covid-19.

    Amlyn ParriFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Amlyn Parri yn cludo meddyginiaeth i bobl fregus yn ardal Caernarfon

  19. Ffrydio angladd cyn-chwaraewr rygbi dros y wewedi ei gyhoeddi 12:06 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Bydd angladd cyn-chwaraewr rygbi Cymru Matthew J Watkins yn cael ei gynnal heddiw.

    Bu farw ar 7 Mawrth yn 41 oed. Roedd wedi brwydro math prin o ganser y pelfis ar ôl derbyn diagnosis saith mlynedd yn ôl.

    O achos y rheolau cyfyng am ymgynull mewn cynulleidfaoedd o achos coronafeirws, dim ond ei deulu agos fydd yn cael mynychu'r angladd, ond fe fydd yn cael ei ffrydio dros y we.

    Angladd
  20. Geifr yn Llandudno - baedd gwyllt yn Bergamowedi ei gyhoeddi 11:54 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Twitter

    Mae'n amlwg fod bywyd gwyllt yn gweld ei gyfle i fentro i dir newydd yn ystod y pandemig coronafeirws, gyda cymaint o bobl yn cadw i ffiniau eu cartrefi.

    Bore ma roedd na luniau o eifr yn Llandudno wedi mentro o'r Gogarth i ganol y dref. Yn Bergamo yn yr Eidal, sydd yn ganolbwynt i ddioddefaint coronafeirws y wlad, mae baeddiaid gwyllt bellach yn troedio ar hyd strydoedd y ddinas.