Crynodeb

  • 1,563 o achosion yng Nghymru bellach a 69 wedi marw

  • Llywodraeth Cymru'n “siomedig” nad oedd cwmni’n gallu anrhydeddu cytundeb i ddarparu profion Covid-19 ychwanegol

  • Teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn 26 oed o Gaerdydd sydd wedi marw ar ôl cael yr haint

  • Llywodraeth Cymru yn cyhuddo Tesco o 'ymgyrch lobïo enfawr' ar drethi busnes

  1. Talebau cinio am ddim i blant gan ysgolionwedi ei gyhoeddi 11:42 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Bydd modd i ysgolion yng Nghymru roi talebau archfarchnad gwerth £19.50 yr wythnos i ddisgyblion sy'n hawlio cinio am ddim.

    Yn Lloegr, y cyfanswm wythnosol fydd ar gael mewn talebau yw £15.00.

    Tra bod plant yn aros adref o'r ysgol yn ystod y pandemig, mae Llywodraeth Cymru yn cynghori ysgolion ag awdurdodau lleol i brynu cardiau rhodd neu dalebau arlein o archfarchnadoedd neu siopau lleol.

    Gwerth y talebau fydd £3.90 y pen bob dydd, ac fe fydd modd i ysgolion a chynghorau hawlio ad-daliad gan y llywodraeth.

    cinio
  2. Y Swyddfa Ystadegau'n cofnodi marwolaethau COVID-19wedi ei gyhoeddi 11:21 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Twitter

    Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dechrau cofnodi nifer y marwolaethau lle cafodd coronafeirws ei grybwyll ar dystysgrifau marwolaethau am y tro cyntaf, a hynny yn wythnosol.

    Mae'r ystadegau yn dangos marwolaethau yn ôl oedran, rhyw a lleoliad y marwolaethau yng Nghymru a Lloegr.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Cymraes yn dychwelyd o Beriwwedi ei gyhoeddi 11:14 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    BBC Radio Cymru

    Mae mam i ddynes ifanc sydd wedi bod ym Mheriw ers tua mis wedi dweud wrth raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ei bod yn hedfan adref y bore 'ma.

    Dywedodd Sian Cartwright fod ei merch Casi o Ddinbych wedi gadael y wlad am hanner nos neithiwr, yn dilyn ymgyrch gan deuluoedd yn y DU i sicrhau fod y llywodraeth yn eu cynorthwyo i deithio adref.

    Dywedodd Siân Cartwright: “Diolch i’r holl ymgyrchu sydd wedi bod yn ddiweddar mae Casi rhyw dair awr o Lundain ar ei ffordd adre. Mae hi ar yr awyren fel ‘da’n ni’n siarad dwi wedi bod yn dilyn y ‘flight tracker’ ers rhyw hanner nos neithiwr ac o’r diwedd mae hi a ar ei ffordd adre.

    "Ond mae 'na bobl dal yn Cusco, mae 'na 10 o bobl mewn hostel yn Cusco’n dal i aros i ddod adre fel miloedd o bobl ar draws y byd.

    "Mi ges i e-bost neithiwr tua 11 gan fy Aelod Seneddol Dr James Davies yn dweud bod 'na bobl yn India, y Philipinau, Seland Newydd ac Awstralia yn dal i aros i ddod adre felly mae hi yn sefyllfa ofnadwy i’r teuluoedd."

    Ychwanegodd: "Dwi’n gobeithio y bydd hi yn glanio o gwmpas amser cinio. Ac wedyn dwi ddim yn gwybod beth fydd y broses, a fydd yn rhaid iddi hunan ynysu? Dwi yn gobeithio y daw hi adre yn fuan."

    Casi CartwrightFfynhonnell y llun, Casi Cartwright
    Disgrifiad o’r llun,

    Casi Cartwright ar ei thaith yn ne America

  4. Munud i fyfyriowedi ei gyhoeddi 10:52 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Prifysgol Bangor

    Ag hithau'n gyfnod o bwysau ar bawb yn ystod y pandemig presennol, mae Prifysgol Bangor wedi hysbysebu ymarferion sydd ar gael i fyfyrio er mwyn cael ychydig o seibiant.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Galw ar ysmygwyr i roi'r gorau iddiwedi ei gyhoeddi 10:41 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw ar ysmygwyr i roi'r gorau iddi yn wyneb pandemig Covid-19, gan y gallai achub eu bywydau.

    Dywed y sefydliad fod ysgyfaint ysmygwyr yn llai effeithiol na rhai pobl sydd ddim yn ysmygu, ac mae smocio yn niweidio celloedd sydd yn amddiffyn y trwyn a'r llwybrau anadlu o fewn y gwddf.

    Mae ysmygwyr hefyd yn cyffwrdd eu hwynebau'n amlach wrth godi sigarets i'w cegau, tra bo eraill yn dioddef gyda chyflyrau iechyd sydd wedi deillio o ysmygu'n barod.

    Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cannoedd o bobl wedi cysylltu gyda'u llinell gymorth sydd yn cynnig cyngor ar sut i roi'r gorau i ysmygu ers dechrau'r pandemig coronafeirws.

    Smocio
  6. Angen gweithwyr yn Sir Gârwedi ei gyhoeddi 10:28 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    golwg360

    Mae golwg360 yn adrodd fod Cyngor Sir Gaerfyrddin yn chwilio am fwy o weithwyr yn ystod y pandemig coronafeirws. Mae'r awdurdod ymysg nfer o gyrff cyhoeddus sydd yn galw am gymorth a gweithwyr ychwanegol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. 'Cadwch draw o fynwentydd'wedi ei gyhoeddi 10:16 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi atgoffa addolwyr na ddylen nhw ymweld â mynwentydd ar Sul y Blodau, y Sul hwn, gan nad yw hi'n "gyfnod arferol."

    Mewn neges ar y we mae'r Undeb, sy'n cynnwys tua 400 o gapeli ledled Cymru, yn sôn am bwysigrwydd y traddodiad o deithio i fynwentydd er mwyn gosod blodau a "chadw'r cof am ein hanwyliaid yn fyw" ond yn pwysleisio na ddylid gwneud hyn eleni.

  8. Ffred a Meinir 'nôl yn saffwedi ei gyhoeddi 10:06 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Mae Ffred a Meinir Ffransis bellach yn ôl adref yn Llanfihangel-ar-arth ar ôl bod yn gaeth ym Mheriw am bythefnos oherwydd y pandemig.

    Fe laniodd y cwpl o Sir Gaerfyrddin ym maes awyr Heathrow fore Llun.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Pwy fydd yn ffermio pan fydd y feirws yn taro?wedi ei gyhoeddi 09:48 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Mari Grug
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae pryder ynglŷn â diffyg sgiliau petai ffermwyr yn cael eu taro'n wael gan haint coronafeirws.

    Yn cael eu categoreiddio fel gweithwyr allweddol, mae'r diwydiant yn un hollbwysig i gynnal y gadwyn fwyd.

    Wrth i brisiau llaeth a chig ostwng, y diwydiant bwytai ddymchwel, ac arferion prynu cwsmeriaid newid, mae'n gyfnod hynod heriol i'r diwydiant.

    Darllewnch y stori'n llawn yma.

  10. Oes gafr eto?wedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Mae 'na nifer o bobl wedi bod yn cyhoeddi lluniau o eifr yng nghanol tref Llandudno ar y cyfryngau cymdeithasol y bore 'ma.

    Geifr o ben y Gogarth yw'r rhai sydd bellach yn cerdded o gwmpas y dref - gan nad oes ceir na phobl i'w dychryn draw yn ystod y cyfnod o ymbellhau cymdeithasol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    geifrFfynhonnell y llun, Lansdowne House
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd geifr hefyd eu gweld ym maes parcio ac yn yr ardd yng ngwesty Lansdowne House yn y dref

    geifrFfynhonnell y llun, Lansdowne House
  11. Peryglu triniaeth merch fachwedi ei gyhoeddi 09:20 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Mae coronafeirws yn bygwth gobeithion merch naw oed o gael triniaeth ar gyfer math prin o diwmor ar yr ymennydd.

    Cafodd Eva o Wrecsam ddiagnosis o'r cyflwr DIPG Ddydd Calan.

    Roedd ei rhieni Paul Slapa a Carran Williams wedi llwyddo i gasglu rhan helaeth o'r £250,000 sydd ei angen ar gyfer y driniaeth yn yr Unol Daleithiau ond mae'r haint nawr yn peryglu eu gobeithion.

    Eva WilliamsFfynhonnell y llun, Llun teulu
  12. Cyflwyno o'r tŷwedi ei gyhoeddi 09:06 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Aled Hughes
    BBC Radio Cymru

    'Stiwdio' Aled Hughes bore 'ma braidd yn anghonfensiynol...

    Gwrandewch ar ei raglen foreol ar Radio Cymru.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. 'Cyngor iechyd yn gwneud gwaith gwych'wedi ei gyhoeddi 08:55 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    BBC Radio Wales

    Ar raglen Breakfast ar Radio Wales bore 'ma mae Angela Mutlow, prif swyddog Cyngor Iechyd Cymunedol Aneurin Bevan yn dweud bod yna "waith gwych" yn cael ei wneud ar y cyfan.

    "Maen nhw yn gwneud popeth posib i gefnogi ein cymunedau yng Ngwent ar hyn o bryd," meddai.

    Ond fe ychwanegodd: "Fy mhryder fwyaf yw ble mae hyn i gyd yn mynd... pa mor uchel eith y ffigyrau? Wrth edrych ar y niferoedd a'r uchafswm ar draws y byd, dim sefyllfa Gwent yw hwn - mae hyn yn ddigwyddiad iechyd byd eang.

    "Mae'r niferoedd yn uchel yn y fan yma nawr, ond bydd hyn yn lledu ar draws Cymru. Y flaenoriaeth nawr yw rheoli'r pandemig."

  14. Cyngor i gystadleuwyr y Steddfodwedi ei gyhoeddi 08:41 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    steddfodFfynhonnell y llun, Eisteddfod

    Mae cystadleuwyr llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn gwybod bod disgwyl i gyfansoddiadau'r brifwyl gyrraedd y swyddfa erbyn 1 Ebrill a dydy eleni ddim yn eithriad er bod yr eisteddfod wedi ei gohirio.

    Mewn cylchlythyr, dywed swyddogion y brifwyl eu bod wedi "penderfynu casglu pob cais ynghyd a'u cadw dan glo am flwyddyn cyn eu hanfon at y beirniaid ym mis Ebrill 2021".

    Mae dyddiau cau'r prif gystadlaethau rhyddiaith eisoes wedi bod a'r beirniaid wedi bod wrthi yn darllen ers yr hydref.

    Ond mae'r Eisteddfod yn dweud nad oes achos i boeni os nad oes modd i bobl anfon eu cyfansoddiadau drwy'r post - gan bod modd gwneud hynny yn ddigidol dros y we.

    Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma i fynd i wefan y Steddfod., dolen allanol

  15. Cymydog diolchgarwedi ei gyhoeddi 08:29 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Y chwaraewr pêl-rwyd rhyngwladol, Nia Jones yn rhannu neges gan gymydog. Digon i wneud rhywun yn ddagreuol...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Cofiwch ffonio gyda sylw neu gwestiwnwedi ei gyhoeddi 08:19 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    03703 500 500 neu post.cyntaf@bbc.co.uk yw'r ffordd i gysylltu gyda'r criw bore 'ma eto rhwng 8:30 a 9:00 ar Radio Cymru gyda'ch sylw neu gwestiwn i'r meddyg Dr Dyfan Jones.

  17. Croeso unwaith etowedi ei gyhoeddi 08:13 Amser Safonol Greenwich+1 31 Mawrth 2020

    Bore da a diolch i chi am ymuno â'r llif byw dyddiol ar Cymru Fyw.

    Byddwn ni'n dod â'r diweddaraf i chi ar effaith y pandemig coronafeirws ar Gymru a thu hwnt drwy gydol y dydd.