Crynodeb

  • 1,837 o achosion coronafeirws yng Nghymru gyda 98 o farwolaethau

  • Arweinwyr Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn derbyn gwahoddiad Mark Drakeford i fod ar grŵp craidd Covid-19

  • Rhai ysgolion yn aros ar agor dros y Pasg, a phlant sy'n derbyn cinio ysgol am ddim yn parhau i gael eu bwydo

  1. Morgannwg yn falch o'r cymorthwedi ei gyhoeddi 10:24 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Diwedd neges twitter
  2. Prinder offer diogelwch yn broblem i ddeintyddionwedi ei gyhoeddi 10:13 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Mae deintyddion yn dweud fod prinder offer diogelwch personol (PPE) yn golygu y bydd pobl yn colli dannedd yn ystod pandemig coronafeirws, allai fod wedi eu hachub fel arall.

    Fe wnaeth byrddau iechyd Cymru sefydlu canolfannau deintyddiaeth argyfwng wedi i ddeintyddfeydd y stryd fawr orfod cau fel rhan o'r mesurau i daclo coronafeirws.

    deintyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Chwilio am rhywbeth i wneud?wedi ei gyhoeddi 09:59 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Meddygfa yn ymddiheurowedi ei gyhoeddi 09:48 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Mae meddygfa ym Maesteg wedi ymddiheuro ar ôl anfon llythyr at gleifion gyda salwch angheuol oedd yn gofyn iddyn nhw gwblhau ffurflen i "beidio adfywio".

    Roedd y llythyr o feddygfa Llynfi yn gofyn i gleifion arwyddo'r ffurflen fyddai'n golygu na fyddai'n rhaid i'r gwasanaethau brys fynychu pe bai eu cyflwr yn gwaethygu o ganlyniad i coronafeirws.

    Yn ôl papur newydd y Guardian mae'r bwrdd iechyd wedi ymddiheuro am y cynnwys.

  5. Lleihau niferoedd dringwyr yr Wyddfa?wedi ei gyhoeddi 09:37 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    golwg360

    Mae golwg360 yn adrodd bod cynllun ar droed i geisio lleihau nifer y bobl sy’n dringo’r Wyddfa., dolen allanol

    Daw’r cynllun yn sgil pryderon na ellir ymdopi bellach â’r niferoedd sy’n ymweld â’r copa. Gwnaed y penderfyniad brys wedi i dwristiaid heidio yno’n ddiweddar.

    Bwriad y prosiect fydd cyfyngu ar yr hyn sydd i’w wneud ar y copa, a thrwy hynny leihau nifer yr ymwelwyr. Mae’r cynllun wedi ei ysbrydoli gan sawl prosiect tebyg mewn rhannau eraill o Gymru.

    copa'r WyddfaFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Ymwelwyr yn heidio i gopa'r Wyddfa ym mis Gorffennaf y llynedd

  6. Yn dilyn cyhoeddiad neithiwr....wedi ei gyhoeddi 09:27 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Ffoniwch yr heddluwedi ei gyhoeddi 09:16 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Heddlu Gwent

    Mae Heddlu Gwent yn dweud iddyn nhw gael adroddiadau am ddynion sy'n honni eu bod o'r BBC ac yn cynnig cyngor ar coronafeirws i bobl yn Abertridwr.

    Mae'r rhybudd yn glir - peidiwch gadael nhw i mewn i'ch cartref, a ffoniwch yr heddlu!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. "Ro'n i wedi diflasu....."wedi ei gyhoeddi 09:06 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Heddlu De Cymru

    "Ro'n i'n bored felly es i allan am sbin yn y car."

    Un o'r rhesymau a roddwyd i uned blismona ffyrdd Heddlu'r De neithiwr gan bobl gafodd eu dal yn torri'r rheolau.

    Rhybudd olaf oedd ymateb yr heddlu!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient am fwrw ’mlaenwedi ei gyhoeddi 08:57 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    golwg360

    Yn ôl Golwg360, mae trefnwyr Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient yn Llydaw - gŵyl werin sydd fel arfer yn cyd-daro â’r Eisteddfod Genedlaethol - am barhau gyda’u trefniadau eleni., dolen allanol

    Dywed y trefnwyr bod eu tîm yn ad-drefnu ac yn “gweithio’n galed nawr tuag at y 50fed ŵyl” rhwng 7-16 Awst. Blwyddyn Llydaw yw 2020, a’i thro hi fydd cynnal cyngerdd agoriadol.

    Ddydd Llun fe gyhoeddodd Eisteddfod Genedlaethol Cymru y byddai'r brifwyl eleni yn Nhregaron yn cael ei gohirio tan 2021.

  10. Dechrau trawsnewid y stadiwmwedi ei gyhoeddi 08:48 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Twitter

    Mae'r gwaith wedi dechrau o drawsnewid Stadiwm Principality yn ysbyty dros dro yng nghyfnod y coronafeirws.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Offer diogelwch gan fenter o Fônwedi ei gyhoeddi 08:41 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Mae ysgolion, cwmnïau preifat a Phrifysgol Bangor wedi bod yn cydweithio i gynhyrchu offer i ddiogelu wynebau gweithwyr yn y gwasanaeth iechyd rhag coronafeirws.

    Parc Gwyddoniaeth Menai yng Ngaerwen ar Ynys Môn sy'n cydlynu'r cynllun.

    Drwy ddefnyddio argraffwyr 3D, y gobaith ydy cynhyrchu cannoedd o'r visors, a hynny o gynlluniau o Sbaen a Sweden sydd wedi cael eu lawrlwytho dros y we.

    msbarcFfynhonnell y llun, bbc
  12. Smyglo fideo allan o Garchar y Berwynwedi ei gyhoeddi 08:32 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Daily Post

    Mae gan y Daily Post heddiw hanes ffrae am fideo gafodd ei recordio yng Ngharchar y Berwyn yn Wrecsam cyn ei smyglo allan oddi yno, dolen allanol.

    Mae'n ymddangos fel ei fod yn dangos y staff yn peidio cydymffurfio gyda chanllawiau ymbellhau cymdeithasol wrth wneud eu gwaith.

    Daeth y fideo i'r fei o fewn dyddiau i'r achos cyntaf o coronafeirws gael ei gadarnhau yn y carchar.

  13. Cysylltwch gyda'r Post Cyntafwedi ei gyhoeddi 08:25 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    BBC Radio Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Rhag ofn i chi fod wedi ei fethu....wedi ei gyhoeddi 08:19 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    BBC Radio Cymru

    Fe fydd Radio Cymru yn datgelu pwy fydd Bardd y Mis ar gyfer Ebrill cyn hir.

    Ond fe ffarweliodd Karen Owen gyda'r swydd ddoe gyda cherdd amserol a phwerus.

    cerdd
  15. Ansawdd aer wedi gwella dan y mesurau arbennigwedi ei gyhoeddi 08:14 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    Mae lefelau llygredd dinasoedd mawr y DU gan gynnwys Caerdydd wedi gostwng ers i fesurau arbennig i fynd i'r afael â coronafeirws ddod i rym.

    Yn ôl data'r Ganolfan Atmosfferig Genedlaethol mae lefelau nitrogen deuocsid a gronynnau llygredd llawer yn is na'r lefelau arferol am yr amser yma o'r flwyddyn.

    Yn ôl y ganolfan gall lefelau llygredd aer barhau i wella yn yr wythnosau i ddod.

    gwalchFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn
  16. Bore da!wedi ei gyhoeddi 08:12 Amser Safonol Greenwich+1 1 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i'n llif byw arbennig ar ddydd Mercher, 1 Ebrill.

    Gydol y dydd fe gewch chi holl newyddion - pytiau pwysig a straeon mawr y dydd - sy'n ymwneud â'r pandemig coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt.

    Bore da iawn i chi.