Dyma'r graph diweddara o farwolaethau Covid-19 yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 14:36 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

141 o bobl wedi marw o Covid-19 yng Nghymru
Ysbytai dros dro yn cael eu sefydlu ar draws Cymru
Llwybrau cerdded yn cael eu cau er mwyn atal ymlediad y feirws
Twitter
Mae Cyngor Pen-y-bont wedi diolch i fusnesau ar draws ardal yr awdurdod am gyflenwi offer diogelwch PPE.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Mae myfyrwyr Theatr Gerddorol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi addasu prosiect oedd i fod yn berfformiad byw ac wedi bwrw iddi i greu fersiwn ar-lein.
Fel rhan o'u hastudiaethau blwyddyn gyntaf, roedd y myfyrwyr wedi bod yn gweithio ar brosiect ‘Sioe Cerdd Drwy’r Oesoedd’ ond ar ôl dysgu na fyddent yn gallu perfformio’u prosiect diwedd blwyddyn ar lwyfan, aeth myfyrwyr cwrs BA Theatr Gerddorol Y Drindod Dewi Sant ati i greu math gwahanol iawn o berfformiad, sef un ar-lein.
O dan gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr Cerdd, David Laugharne, bu’r myfyrwyr yn ymarfer ystod o ddarnau sioeau cerdd - o Cole Porter i Disney - ers dros bythefnos. Gan nad oeddent eisiau gweld eu gwaith caled yn mynd yn ofer, fe wnaethant benderfynu recordio perfformiadau’r ensemble a’u rhyddhau ar-lein.
I wylio perfformiad y myfyrwyr o ‘Anything Goes’ gan Cole Porter ac ‘Oklahoma!’ gan Rodgers & Hammersteion, ac i wylio mwy o gynnwys dros yr wythnosau nesaf, ewch i sianel YouTube y Brifysgol:
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 24 yn fwy wedi marw gyda coronafeirws yng Nghymru ers yr un adeg ddoe. Mae 141 bellach wedi marw.
Mae 345 o achosion newydd o'r haint wedi cael eu cadarnhau dros yr un cyfnod gan fynd a'r cyfanswm i 2,466. Y gred yw bod y gwir nifer yn llawer uwch na hynny.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth ariannol i gynorthwyo Maes Awyr Caerdydd fel y gall wynebu effeithiau cynnar pandemig y coronafeirws.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i newid ar frys ei pholisi o ran cynnig rhagor o gymorth ariannol i feysydd awyr rhanbarthol.
Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i’r maes awyr, drwy amrywio ei gyfleuster benthyciad masnachol cytunedig presennol, i gefnogi gyda’r gostyngiad yn ei weithrediadau ac i barhau i fasnachu.
Mae Mark Drakeford wedi dweud fod bod yn rhan o gonsortiwm DU-gyfan er mwyn prynu offer anadlu ychwanegol yn rhoi "mwy o rym" i Gymru mewn "marchnad gystadleuol".
Ychwanegodd y prif weinidog y byddai Cymru'n cael ei "chyfran deg" o'r offer, ond bod ymdrechion yn parhau i gynhyrchu rhagor.
Twitter
Mae'n ymddangos nad yw pawb wedi derbyn y neges am aros adref yn ystod y pandemig, yn ôl yr hyn y mae'r heddlu'n Aberhonddu'n ei adrodd.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Cymru “ar y trywydd” i guro’r Coronavirus, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford.
Wrth siarad mewn cynhadledd i’r Wasg yng Nghaerdydd, dydwedodd fod y cyfyngiadau ar fywyd o dydd i ddydd yn cael effaith wrth arafu ymlediad y feirws.
“Nid nawr yw’r amser i slacio nag i stopio gwneud yr hyn sydd yn gwneud gwahaniaeth – aros adref, osgoi teithio diangen a chadw pellter diogel o’n gilydd.”
BBC Radio Cymru
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Mark Drakeford y bydd yn cyflwyno deddf newydd i Gymru yn gorfodi cyflogwyr i weithredu'r rheol 2m rhwng gweithwyr.
Roedd yn ateb cwestiwn am gyfrifoldeb cyflogwyr i ddiogelu eu gweithwyr rhag coronafeirws.
Dywedodd y byddai newid "rheol" yn "ddeddf" yn gyrru neges glir i gyflogwyr sydd ddim yn cydymffurfio.
Wrth ateb cwestiwn am gyhoeddiad llywodraeth y DU ddoe, dywedodd Mr Drakeford fod angen iddyn nhw fod yn llawer mwy eglur.
"Pan mae pobl yn Llundain yn dweud pethau, mae angen iddyn nhw fod yn glir beth maen nhw'n dweud.
"Pan maen nhw'n newid y neges, dyw hynny ddim yn helpu ni yma yng Nghymru."
Roedd yn cyfeirio at gyhoeddiad am nifer o brofion coronafeirws sy'n cael eu gwneud yma, a dywedodd Mr Drakeford ei fod yn anelu at 9,000 y dyd erbyn diwedd y mis.
Apeliodd Mr Drakeford ar sefydliadau fel colegau, ffatrioedd ac ati i wneud eu gorau i gynhyrchu offer diogelwch personol fel masgiau er enghraifft ar gyfer gweithwyr iechyd.
Dywedodd fod rhai - fel y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant - wedi dechrau gwneud hynny'n barod.
Dechrueodd prif weinidog Cymru, Mark Drakeford, ei ddiweddariad dyddiol drwy ddweud fod "y mesurau arbennig yn gwneud gwahaniaeth".
Er hynny pwysleisiodd y bydd oedi cyn y gwelir y canlyniadau o hynny, ac y bydd "pethau'n mynd yn waeth cyn iddyn nhw wella".
"Rhaid parhau gyda'r mesurau yma er mwyn atal y feirws rhag lledu," meddai.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bydd modd dilyn y diweddariad ar S4C neu BBC One Wales.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd sawl ffordd o ddiolch i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd neithiwr. Yn Aberystwyth fe gafodd y bandstand ar y prom ei oleuo'n las, sef lliw y Gwasanaeth Iechyd, i ddangos gwerthfawrogiad pobl y dref.
Twitter
Mae'r gyflwynwraig deledu enwog o'r Unol Daleithiau Ellen DeGeneres wedi rhannu neges ar Twitter yn dweud mai Llandudno fydd y lle cyntaf iddi hi fynd iddo wedi i'r sefyllfa gyda pandemig coronafeirws ddod i ben.
Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaeth geifr y Gogarth ymlwybro i lawr i'r dref gan fod y bobl yno adref yn ymbellhau'n gymdeithasol.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Twitter
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Twitter
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Nid dim ond clapio i ddiolch am waith gweithwyr iechyd oedd pobl yng Nghymru neithiwr - fe ddewisodd eraill ffyrdd mwy gwreiddiol o ddangos eu gwerthfawrogiad.
Ar fynydd Cilgwyn ger Caernarfon, dewisodd Rob Stanley daflu golau laser ar ochr ei gartref. Mae'n rhan o griw ar Facebook o'r enw 'Lasers for the NHS'.