Crynodeb

  • 141 o bobl wedi marw o Covid-19 yng Nghymru

  • Ysbytai dros dro yn cael eu sefydlu ar draws Cymru

  • Llwybrau cerdded yn cael eu cau er mwyn atal ymlediad y feirws

  1. Daliwch ati medd Heddlu'r Gogleddwedi ei gyhoeddi 11:09 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Addasu sesiynau rhoi gwaedwedi ei gyhoeddi 10:56 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    Mae rhoddwyr gwaed yng Nghymru wedi cael cais i roi "yn wahanol" er mwyn sicrhau bod cyflenwadau digonol o waed ar gael yn ystod argyfwng coronafeirws.

    O dan ganllawiau'r llywodraeth, mae teithio i roi gwaed yn cael ei ystyried fel taith hanfodol.

    Ond er mwyn ymateb i'r newidiadau, mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi lleihau nifer y canolfannau rhoi gwaed sy'n cael eu cynnal yn wythnosol.

    gwaedFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Gwaed Cymru
  3. Addasu swyddfeydd i ysbyty maeswedi ei gyhoeddi 10:45 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg

    Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi cyhoeddi y bydd swyddfeydd yn Abercynon yn cael eu troi yn ysbyty maes ar gyfer 150 gwely.

    Dywed y bwrdd iechyd fod angen 1000 o wlâu ychwanegol yn ystod y pandemig, ac mae swyddogion wedi dewis Tŷ Trevithick, Abercynon, fel lleoliad un ysbyty maes.

    Mae disgwyl i'r ysbyty fod ar agor erbyn canol mis Ebrill.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Meddyg yn diolch i bawb sy'n aros adrewedi ei gyhoeddi 10:33 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. BBC Cymru'n cyhoeddi pecyn cymorth i fyfyrwyrwedi ei gyhoeddi 10:20 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    BBC Cymru Wales

    Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi sut y bydd yn cefnogi rhieni a myfyrwyr ar draws Cymru yn ystod pandemig Coronafeirws.

    Mae Bitesize Dyddiol yn rhan o becyn cymorth ehangach i ddisgyblion yng Nghymru. Wedi’i gynhyrchu gan Adran Addysg y BBC mewn cydweithrediad ag athrawon, caiff y cynnwys dysgu newydd sbon ei gyflwyno drwy ffilmiau byrion a darnau animeiddio i ddisgyblion 3-14 oed. Bydd y gwasanaeth yn lansio gyda chynnwys y pynciau craidd, a bydd ar gael o’r 20fed o Ebrill.

    Yn ogystal, mae BBC Cymru eisoes wedi cyhoeddi adnoddau ar-lein arbennig i ddisgyblion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â gwybodaeth ac arweiniad i rieni yng Nghymru.

    Mae’r arlwy yn cynnwys gwersi arbennig wrth wynebau cyfarwydd a phartneriaethau gyda sefydliadau amlwg fel y Royal Shakespeare Company a’r Uwch Gynghrair Bêl-droed, a bydd cynnwys ychwanegol fel fideos, cwisiau a phodlediadau yn dod â’r pynciau craidd yn fyw ar-lein ar BBC Bitesize.

    Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, Rhodri Talfan Davies:

    “Drwy weithio'n agos gydag athrawon, Llywodraeth Cymru a rhieni, ry’n ni wedi datblygu cynnwys newydd ychwanegol i ddisgyblion yng Nghymru. Mae’r cynnwys yma sydd wedi’i ddatblygu’n benodol i Gymru yn rhan o becyn cymorth ehangach y mae’r BBC yn ei ddarparu i ddisgyblion ledled y DU, i sicrhau bod pob plentyn yn gallu parhau i ddysgu, a chael hwyl, drwy ein harlwy addysg a dysgu hygyrch o ansawdd uchel.”

    GwaithFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Prifysgol Bangor yn cyfrannuwedi ei gyhoeddi 10:09 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    Prifysgol Bangor

    Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi ymuno â'r frwydr fyd-eang yn erbyn y pandemig COVID-19. Bydd grŵp o academyddion blaenllaw yn rhannu eu harbenigedd i ddatblygu ffyrdd newydd o fonitro'n dorfol lefelau SARS-Cov-2, y firws sy'n achosi'r afiechyd a elwir yn COVID-19.

    Eglurodd yr Athro Davey Jones o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol, un o arweinwyr y project: “Byddai amcangyfrif cywir o faint o'r haint sy’n cylchredeg yn y gymuned gyfan yn wybodaeth werthfawr i’r rhai sy’n gyfrifol am gynllunio ar gyfer lledaeniad yr haint a’i reoli."

  7. Ymhell yng ngwlad y Rwla...wedi ei gyhoeddi 09:59 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    BBC Radio Cymru

    Mae na newyddion da i ddilynwyr helyntion Rala Rwdins, Rwdlan, y Llipryn Llwyd a'u ffrindiau....

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Ymateb gwych i apêl y Gwasanaeth Ambiwlanswedi ei gyhoeddi 09:53 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

    MAE mwy na 1,500 o’r cyhoedd wedi ymateb i apêl am wirfoddolwyr a swyddi dros dro gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wrth iddo reoli ei ymateb i’r pandemig Covid-19.

    Mae unigolion ledled Cymru, yn cynnwys staff blaenorol a staff wedi ymddeol, wedi cofrestru eu diddordeb mewn amrywiaeth o rolau ar draws y gwasanaeth yn dilyn apêl gan yr Ymddiriedolaeth yr wythnos ddiwethaf.

    Mae’r cyfnod derbyn ceisiadau wedi gorffen erbyn hyn, ac mae’r broses o fynd trwyddynt wedi dechrau.

  9. Distyllfa gin yn cynhyrchu sebon glanhau dwylowedi ei gyhoeddi 09:39 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Mae cwmni sydd yn distyllu gin yng Nghaerdydd wedi apelio am boteli gweigion er mwyn iddyn nhw eu llenwi gyda sebon glanhau dwylo.

    Dywed distyllfa Treganna eu bod yn awyddus i gyflenwi elusen sy'n helpu oedolion bregus, felly maen nhw'n apelio ar bobl ardal Caerdydd i anfon unrhyw boteli gwirodydd sy'n casglu llwch mewn cypyrddau atyn nhw.

    Ar y Post Cyntaf dywedodd yr actor Mark Flanagan, sydd tu ôl i'r fenter: "Nes i gael y syniad achos bo fi'n creu peth o'r hand sanitizers ma i'n ffrindiau beth bynnag gan bo nhw'n mynd yn brin yn y siopa' - a gan bo gen i'r leisans a'r gallu i greu y santizers 'ma - oedd pobl wedyn yn gofyn i mi roi nhw i'r henoed a phobl fregus ac ati.

    "Ond oherwydd bo fi'n gorfod cynhyrchu gymaint rwan mae o'n gostus iawn, gan bod y treth eisoes wedi ei dalu ar yr alcohol.

    Ychwanegodd: "Ond oedd o'n costio rhyw £2 y potal i greu rhain, a doedd hynny jest ddim yn gynaliadwy.

    "Wedyn fe wnaeth 'na elusen o'r enw Innovative Trust gysylltu, a gofyn i mi greu cannoedd ohonyn nhw. Fe wnes i benderfynu rhoi apêl ar Facebook yn gofyn i bobl am hen boteli diodydd - a ges i rhyw 70 o boteli ar y noson gyntaf."

  10. Gwyddonwyr yn newid ffocwswedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    Prifysgol Caerdydd

    Mae tîm o wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi cyfnewid gwaith ymchwil ar ganser i weithio ar frechlyn posib i Covid-19.

    Mae'r tîm o'r Ysgol Feddygaeth fel arfer yn gweithio ar raglenni feirysau i'w galluogi i ladd celloedd canser.

    Ond am y tro maen nhw'n canolbwyntio ymdrechion ar y frwydr yn erbyn y feirws newydd sy'n achosi argyfwng drwy'r byd.

    alan parkerFfynhonnell y llun, Prifysgol Caerdydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Dr Alan Parker o Brifysgol Caerdydd sy'n arwain y gwaith

  11. Pryder am glwb Wrecsamwedi ei gyhoeddi 09:18 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    The Leader

    Mae'r Wrexham Leader yn adrodd bod clwb pêl-droed y dref wedi rhoi'r holl staff ar seibiant cyflog (furlough) er mwyn ceisio gwarchod y clwb i'r dyfodol.

    Dywedodd llefarydd bod angen i'r holl staff - gan gynnwys chwaraewyr - ddeall y sefyllfa os yw'r clwb yn mynd i oroesi.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Difrodi gwifrau yn fwriadolwedi ei gyhoeddi 09:08 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    Heddlu Gwent

    Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi adroddiad o ddifrod troseddol ar wifrau ffôn BT yn ardal Glyn Ebwy.

    Maen nhw'n credu fod y difrod wedi'i achosi'n fwriadol rhwng dydd Mawrth a dydd Mercher, gan achosi i'r gymuned leol golli cysylltiad wi-fi a'u llinellau ffôn.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Ymarfer corff unrhyw un?wedi ei gyhoeddi 09:01 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Defnyddio tai haf dal yn broblemwedi ei gyhoeddi 08:54 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Mae'n ymddangos fod pobl sy'n defnyddio tai haf yn y cyfnod yma yn parhau'n broblem.

    Ar y Post Cyntaf ddydd Gwener, dywedodd Dewi Owen, sy'n ffermwr a Chynghorydd Sir yn Aberdyfi: "Mae yna lot o dai haf yn Aberdyfi, a beth sydd wedi bod yn digwydd yn yr wythnos ddiwethaf yn ôl y bobl leol sy'n fy ffonio i, fod 'na lot o bobl wedi bod yn dod 'nôl i'w tai haf yn Aberdyfi ac mae wedi prysuro yn arw yn ystod yr wythnos, i ddeg diwrnod diwethaf.

    "'Da ni'n gweld (y pwysau) ar y siopau lleol am nad ydi’n nhw wedi 'gerio fyny' am dwf ychwanegol o bobl yr adeg yma o'r flwyddyn, ac felly, pan maen nhw'n dod ydy siopa’n lleol ac mae'r archfarchnadoedd yn wag achos y rhai sydd wedi dod fewn.

    "Mae o'n bryder."

  15. Ysbyty dros drowedi ei gyhoeddi 08:46 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    Os oeddech chi'n tybied beth yw'r prif lun ar ein llif byw heddiw....

    Dyma rhan o Barc y Scarlets yn Llanelli sy'n cael ei droi yn un o ysbytai dros dro Cymru er mwyn delio gyda'r pandemig coronafeirws.

    Mae nifer o safleoedd ar draws Cymru - gan gynnwys Stadiwm Principality a Venue Cymru - hefyd yn cael eu haddasu er mwyn brwydro'r feirws.

    Parc y ScarletsFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
  16. Poeni am iechyd meddwl plantwedi ei gyhoeddi 08:37 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    Yn ôl yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel yr "arolwg cyntaf o'i fath", dywedodd 58% o'r atebwyr ar draws y DU fod eu plant yn ofni y bydd aelod o'u teulu yn mynd yn sâl.

    Dywedodd 56% eu bod yn poeni effaith cau ysgolion a'r diffyg cysylltiad gyda ffrindiau a theulu ar iechyd meddwl eu plant.

    Mae'r canfyddiadau'n cael eu cyhoeddi i gyd-fynd â lansiad apêl yr elusen i godi arian ar gyfer helpu lliniaru effaith y pandemig ar rai o'r plant a'r teuluoedd mwyaf bregus.

    plantFfynhonnell y llun, Eurgain Haf
  17. Ffoniwch y Post Cyntafwedi ei gyhoeddi 08:29 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    BBC Radio Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Pecynnau bwyd i'r breguswedi ei gyhoeddi 08:22 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae’r bocsys bwyd cyntaf o eitemau hanfodol wedi cyrraedd rhai o’r bobl mwyaf agored i niwed yn feddygol yng Nghymru sydd yn y ‘grŵp gwarchod’ a heb unrhyw gefnogaeth ar gael iddynt, medd Llywodraeth Cymru.

    Bydd gan bobl yn y ‘grŵp gwarchod’ hwn gyflyrau meddygol eisoes a byddant wedi derbyn llythyr gan y Prif Swyddog Meddygol (PSM) yn gofyn iddynt gadw at fesurau gwarchod llym am y 12 wythnos nesaf.

    pecynFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  19. Ffermwyr yn poeni am effaith mwy o gerddwyr ar eu tirwedi ei gyhoeddi 08:15 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    Mae ffermwyr yn poeni y bydd eu teuluoedd yn cael eu heintio â coronafeirws wrth i nifer cynyddol o bobl gerdded ar eu tir.

    Mae'r canllawiau swyddogol yn dweud bod hawl gan bobl gerdded neu redeg yn agos i'w cartref unwaith y dydd.

    Ond mae rhai ffermwyr yn dweud y dylid cau neu newid cyfeiriad rhai llwybrau oherwydd bod yna beryg y gallai haint coronafeirws ledu drwy i bobl gyffwrdd â chlwydi.

    llwybr
  20. Bore da!wedi ei gyhoeddi 08:15 Amser Safonol Greenwich+1 3 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i'n llif byw ar ddydd Gwener, 3 Ebrill.

    Yma y cewch chi'r newyddion diweddaraf am yr argyfwng coronafeirws yma yng Nghymru a thu hwnt am weddill y dydd.

    Bore da iawn i chi!