Crynodeb

  • Gwleidyddion Cymru yn dymuno gwellhad i Boris Johnson

  • Cyfraith newydd i ddiogelu gweithwyr yn dod i rym

  • Teyrngedau i lawfeddyg 'rhagorol' fu farw o coronafeirws

  • 19 yn fwy o bobl yng Nghymru wedi marw gyda Covid-19 - gan wneud cyfanswm o 212

  1. Hwyl am y tro!wedi ei gyhoeddi 17:59 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    ...a pha ffordd well i gau ein llif byw am heddiw na'r anthem?

    Dyna'r cyfan am heddiw, ond fe fyddwn ni'n dychwelyd bore fory gyda'r newyddion diweddaraf am coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt.

    Yn y cyfamser bydd y prif straeon yn al i ymddangos ar hafan Cymru Fyw.

    Diolch am aros gyda ni, a hwyl fawr tan y bore.

  2. Dweud 'diolch' drwy ganu Hen Wlad fy Nhadauwedi ei gyhoeddi 17:55 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Beth gwell na chanu'r anthem i godi calon?

    Ar wefan Facebook dyna'n union mae trigolion canolfan ofal 'Swn y Môr' ym Mhort Talbot wedi ei wneud, er mwyn dweud 'diolch' i bawb sy'n gofalu amdanyn nhw.

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
  3. Cyrsiau ar-lein i fenywod beichiogwedi ei gyhoeddi 17:50 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Prifysgol Abertawe

    Mae menywod beichiog sydd wedi gweld dosbarthiadau 'antenatal' yn cael eu canslo oherwydd coronafeirws nawr yn cymryd mantais o gyngor ar-lein am ddim gan arbenigwr o Brifysgol Abertawe.

    Mae Dr Alys Einion-Waller - Athro Cynorthwyol Bydwreigiaeth a Iechyd Menywod - yn cynnig cyrsiau tair wythnos ar-lein, ac maen nhw eisoes yn profi'n boblogaidd.

    Fe wnaeth 12 cwpwl ymuno gyda'r sesiwn gyntaf, ond mae'r ffigwr yna wedi codi i 33 cwpwl erbyn heddiw.

    Dr Alys Einion-WallerFfynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe
  4. Ymosodiadau '5G' yn niweidio cymunedauwedi ei gyhoeddi 17:43 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Twitter

    Daw'r trydariad yma gan Ofcom yn dilyn ymosodiadau ar fastiau gan rai sy'n credu - yn gwbl anghywir - bod cysylltiad rhwng technoleg 5G a coronafeirws.

    Mae pobl yn colli llinellau eu ffonau a chysylltiad wifi oherwydd yr ymosodiadau!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Canlyniadau anghywir i brofion Covid-19wedi ei gyhoeddi 17:37 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

    Mae rhai o staff y Gwasanaeth Iechyd yn ardal Gwent wedi cael canlyniadau anghywir i brofion Covid-19.

    Cafodd 8-10 o weithwyr brofion coronafeirws yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

    Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 10 allan o 96 o staff wedi bod yn destun "gwall cofnodi", ond dywed y bwrdd iechyd mai wyth gafodd eu heffeithio.

    Dywedodd llefarydd: "Cafodd nifer bach o ganlyniadau positif eu hadrodd fel rhai negyddol, a rhai fel arall."

  6. Grym i daclo'r feirws 'yn nwylo'r cyhoedd'wedi ei gyhoeddi 17:30 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Mae Dr Matt Morgan, ymgynghorydd gofal dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, wedi bod yn siarad gyda'r BBC am ei brofiad o'r frwyr yn erbyn coronafeirws.

    "Fedrwch chi byth baratoi am rhywbeth mor anferth a hyn," meddai.

    "Ry'n ni'n siarad gyda chydweithwyr ar draws y wlad a'r byd, ac yn ceisio brwydro hyn fel cymuned.

    "Ond cofiwch mai'r ffordd orau o gael trwy gofal dwys yw peidio mynd yno yn y lle cyntaf, felly mae'r grym i drin coronafeirws yn nwylo'r cyhoedd a'r pethau maen nhw'n gwneud.

    "Mae cadw pellter ac aros adre yn bethau felly, a diolch i'r cyhoedd am wneud hynny."

    matt morgan
  7. Staff ysgol yn creu offer diogelwchwedi ei gyhoeddi 17:24 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Mae Ysgol Uwchradd Caerdydd wedi bod yn gwneud visors yn dilyn apêl gan gymdeithas rhieni'r ysgol.

    Bu staff yr adran Dylunio a Thechnoleg yn gwneud 150 o'r visors ar gyfer gweithwyr iechyd.

    Sefydlwyd tudalen ar wefan GoFundMe ac o fewn tair awr fe godwyd dros £2,000 i brynu mwy o ddeunyddiau crai er mwyn gwneud mwy.

  8. Non Stanford mewn cwarantînwedi ei gyhoeddi 17:07 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Mae'r Bencampwraig triathalon o Gymru, Non Stanford, bellach mewn cwarantîn yn Awstralia ar ol iddi hi a'i phartner hedfan yno yng nghanol y cyfnod ynysu.

    Non Stanford
  9. Jamie Roberts yn helpu'r GIGwedi ei gyhoeddi 16:54 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

    Daeth cadarnhad fod canolwr Cymru a'r Llewod, Jamie Roberts, wedi gwirfoddoli ei wasanaeth i Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

    Fe raddiodd Jamie fel meddyg o Brifysgol Caerdydd yn 2013, ac er na fydd yn trin cleifion sydd â Covid-19 fe fydd yn cynorthwyo gydag agweddau eraill yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Oes gyda chi gwestiwn i'r Prif Weinidog?wedi ei gyhoeddi 16:41 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Fe fydd Mark Drakeford AC yn ateb cwestiynnau gan y cyhoedd mewn darllediad arbennig nos Fercher.

    Mae modd ysgrifennu eich cwestiwn neu ei anfon ar ffurf fideo.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. 1,500 o filwyr yn barod i gynorthwyowedi ei gyhoeddi 16:25 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Mae'r dyn sydd yng ngofal ymateb y lluoedd arfog i coronafeirws yng Nghymru yn dweud fod oddeutu 1,500 o filwyr wrth law yn barod i gynorthwyo.

    Dywedodd Brigadier Andrew Davies: "Mae llawer o waith wedi'i neud y tu ol i'r llenni... pobl sy'n gymwys i adeiladu ysbytai yn gyflym.

    "Roedd nifer o ymgynghorwyr gyda'r tîm a wnaeth job ardderchog yn Stadiwm Principality, ond mae gennym hefyd nifer o unigolion gyda phrofiad peirianyddol."

    andrew DaviesFfynhonnell y llun, Y Weinyddiaeth Amddiffyn
  12. Rhybudd Cyngor Ceredigion i breswylwyrwedi ei gyhoeddi 16:13 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Cyngor Ceredigion

    Ar hyn o bryd 24 achos o Coronafeirws sydd wedi cael eu cadarnhau yng Ngheredigion, sydd yn dipyn llai nac mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.

    Ond mae'r Cyngor yn rhybuddio preswylwyr y sir y gallai 600 farw o Covid-19 os nad yw pobl yn cadw at y rheolau, am nad yw "effaith llawn y feriws wedi cyrraedd Ceredigion eto".

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
  13. Diffoddwr bellach yn rhan o brawf am gyffurwedi ei gyhoeddi 15:55 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Daily Post

    Ar wefan North Wales Live mae stori gwraig i ddiffoddwr tân sy'n cael triniaeth ysbyty am coronafeirws.

    Dywedodd Becky Landon fod ei gŵr Steve bellach allan o'r uned gofal dwys ond yn dal i dderbyn ocsigen.

    Ychwanegodd ei fod wedi cytuno i fod yn rhan o gynllun i brofi cyffur newydd allai fod o gymorth yn y frwydr yn erbyn Covid-19.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Gwybodaeth yn ddyddiol am y sefyllfawedi ei gyhoeddi 15:45 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Mae Ymchwil y Senedd yn cynhyrchu blog dyddiol sy'n casglu'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyda coronafeirws yng Nghymru mewn un man.

    Dyma'r rhifyn diweddaraf.....

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Canolfan brofi Covid-19 yn barodwedi ei gyhoeddi 15:29 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Mae'r ganolfan i brofi gweithwyr iechyd am goronafeirws yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn barod.

    Y gobaith yw profi hyd at 200 o weithwyr iechyd a gweithwyr gofal y dydd yn y ganolfan medd y gweinidog iechyd Vaughan Gething.

    StadiwmFfynhonnell y llun, Wales News Service
  16. Neges amserol ym Mhenygroeswedi ei gyhoeddi 15:20 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Bwrdd iechyd yn rhannu gair o ddiolchwedi ei gyhoeddi 15:10 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Mae sawl sefydliad wedi cymryd cyfle i ddiolch i weithwyr iechyd am eu hymdrechion yn ystod y cyfnod heriol yma. A hithau'n Ddiwrnod Iechyd y Byd, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yw'r diweddaraf i ddiolch iddyn nhw:

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Cystadleuaeth wahanol iawn eleni yn Aberwedi ei gyhoeddi 15:01 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    I’r rheiny sydd yn gyfarwydd â’r ffotomarathon flynyddol gaiff ei chynnal yn Aberystwyth byddwch yn ymwybodol o’r drefn – y nod yw cymryd chwe llun mewn chwe awr ar chwe thema wahanol.

    Wel mae’r criw sydd yn gyfrifol am y digwyddiad ffotograffig hynny am drio gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol yn wyneb y sefyllfa bresennol.

    Y nod yw cynnal ffotomarathon dros benwythnos y Pasg – pedwar diwrnod, pedwar llun, pedwar thema – ond wrth gwrs fydd dim cyfle i grwydro o gwmpas y dref y tro hwn.

    Caiff gwobr ei rhoi am y llun gorau bob dydd o dan y thema benodol a chaiff un wobr ei rhoi am y set orau o bedwar llun ar ddiwedd y pedwar diwrnod. Caiff y themâu eu rhyddhau am 10:00 ar gyfrif facebook, Twitter ac Instagram FfotoAber a bydd angen i gystadleuwyr uwchlwytho eu lluniau rhwng 17:00 a 19:00.

    ffotomarthonFfynhonnell y llun, Ffotoaber
  19. Nifer y marwolaethau unigol yng Nghymru hyd yn hyn:wedi ei gyhoeddi 14:52 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Map
  20. Map lleoliadau achosion Covid-19 fesul sirwedi ei gyhoeddi 14:44 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Map