Crynodeb

  • Gwleidyddion Cymru yn dymuno gwellhad i Boris Johnson

  • Cyfraith newydd i ddiogelu gweithwyr yn dod i rym

  • Teyrngedau i lawfeddyg 'rhagorol' fu farw o coronafeirws

  • 19 yn fwy o bobl yng Nghymru wedi marw gyda Covid-19 - gan wneud cyfanswm o 212

  1. Michael Gove yn hunan ynysuwedi ei gyhoeddi 11:21 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Mae Gweinidog Swyddfa'r Cabinet yn Llywodraeth y DU, Michael Gove, yn hunan ynysu wedi i aelod o'i deulu ddangos symptomau o goronafeirws.

    Daw'r newyddion wedi i'r Prif Weinidog Boris Johnson gael ei gludo i uned gofal dwys ysbyty St Thomas yn Llundain neithiwr wedi i gyflwr ei feirws waethygu.

    GoveFfynhonnell y llun, PA Media
  2. Swyddfa Ystadegau'n rhyddhau datawedi ei gyhoeddi 11:09 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Bob wythnos mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhyddhau ystadegau am nifer y marwolaethau oedd yn gysylltiedig â coronafeirws.

    Am yr wythnos oedd yn dod i ben ar 27 Mawrth, roedd 21 marwolaeth Covid-19 yng Nghymru, allan o gyfanswm o 719 o farwolaethau, yn ôl yr ystadegau diweddaraf, dolen allanol.

    COVID-19
  3. BBC yn cynnal noson codi arianwedi ei gyhoeddi 10:57 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Plant Mewn Angen

    Fe fydd y BBC yn darlledu noson o adloniant i godi arian ar gyfer pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig coronafeirws.

    Fe fydd The Big Night In, dolen allanol yn cael ei ddarlledu ar BBC One ar nos Iau 23 Ebrill, ac mae'r noson yn gynllun rhwng Plant Mewn Angen a Comic Relief.

    BBC
  4. Y Senedd ar gau nes mis Mehefinwedi ei gyhoeddi 10:43 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi y bydd adeiladau'r Senedd yn aros ar gau nes o leiaf 31 Mai.

    Fe gyhoeddodd Comisiwn y Cynulliad y byddan nhw'n ymestyn y gwaharddiad ar gynnal gweithgareddau cyhoeddus yn y Senedd ac adeilad y Pierhead mewn ymateb i'r argyfwng coronafeirws.

    Bydd mwy o Aelodau Cynulliad yn gallu cymryd rhan yn y Cyfarfod Llawn brynhawn dydd Mawrth hefyd, yn dilyn yr arbrawf wythnos diwethaf.

    Bydd cyfanswm o 28 aelod yn gallu cymryd rhan - 12 o'r Llywodraeth/Y Blaid Lafur, 6 aelod Ceidwadwyr Cymru, 4 Plaid Cymru a 4 Plaid Brexit.

    Bydd gan aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp hawl i fod yn bresennol hefyd.

    Senedd Bae Caerdydd
  5. Cyngor wrth aros mewn cysylltiadwedi ei gyhoeddi 10:30 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Ydy'ch Wifi chi'n araf? Ydych chi'n gweld eich signal ffôn symudol yn wan?

    Mae Ofcom Cymru, sy'n cadw golwg ar y diwydiant cyfathrebu, yn cynnig ambell gyngor ar sut i gadw'r llinellau cyfathrebu'n agored yn ystod y cyfnod heriol yma.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Dim marwolaeth Covid-19 yn Chinawedi ei gyhoeddi 10:19 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    golwg360

    Mae Golwg360 yn adrodd nad oedd yna un farwolaeth yn China, dolen allanol ddoe o'r haint Covid-19.

    Yn ôl swyddogion y wlad mae 32 o achosion newydd, ond mae hynny ymhlith pobl sydd wedi dychwelyd i’r wlad o wledydd eraill.

    Mae ffigyrau swyddogol yn awgrymu bod 3,331 o bobol wedi marw yno ers i’r pandemig ddechrau.

  7. Coronafeirws: Cyngor i bobl hŷnwedi ei gyhoeddi 10:09 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Pwy sy'n barod i ddawnsio?wedi ei gyhoeddi 09:59 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Teyrnged i Dad wedi gwrthdrawiadwedi ei gyhoeddi 09:49 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Dad i dair o ferched o Lyn Ebwy a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Casnewydd yn gynnar fore Sul.

    Mae teulu Kirk Butcher wedi ei ddisgrifio fel "gŵr, tad, mab a brawd llawn hwyl".

    Mae dyn 23 oed wedi cael ei gyhuddo o achosi ei farwolaeth drwy yrru'n beryglus.

    Kirk ButcherFfynhonnell y llun, Llun teulu
  10. Bwrdd iechyd yn cywiro camargraffwedi ei gyhoeddi 09:38 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Mae bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi cywiro honiad unigolyn oedd wedi trydar neges am farwolaethau staff y bwrdd yn gynharach.

    Dywed y bwrdd iechyd nad oes unrhyw aelod o staff nyrsio'r bwrdd iechyd wedi marw o Covid-19 ar uned gofal dwys, yn groes i'r hyn yr oedd y neges Twitter yn ei honni.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Canllaw Covid-19 i bobl ifanc sydd wedi gadael gofalwedi ei gyhoeddi 09:33 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Ymateb Guto Harri i sefyllfa Boris Johnsonwedi ei gyhoeddi 09:20 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    2\2

    Ychwanegodd Guto Harri ar y Post Cyntaf: "Mi fydd yn edrych nôl ac yn ystyried dau beth yn y pen draw. Yn gyntaf, fe fydd hanes yn edrych ar y cyfnod yma, ar y penderfyniadau aruthrol ynglŷn â bywydau a bywoliaethau lle mae'r balans yn un ofnadwy o anodd. Mi fyddai wedi teimlo bod yn rhaid iddo fe fod wedi gwneud y penderfyniadau mawr hynny. Ac yn ail, oherwydd ei gymeriad, natur ei bersonoliaeth a natur y fuddugoliaeth gath e yn yr etholiad cyffredinol, oedd yn un bersonol iawn, ei fod yn ystyried bod yn rhaid iddo gael ei weld ac arwain drwy esiampl."

    "Pan welais i e yn curo dwylo o flaen gweithwyr y gwasanaeth iechyd ddydd Iau roedd golwg ofnadwy arno ond roedden i yn deall yn iawn pam ei fod mor bendefynol o fod yna... Mae gydag e gyfansoddiad cryf ac yn feddyliol benderfynol dros ben. Mae'n amlwg ei bod hi yn go ddifrifol ei fod e wedi ildio i hyd a bydd neb yn fwy crac a siomedig na fe ei fod e nawr yn fflat ar ei gefn yn yr ysbyty yn lle ei fod wrth y llyw yn rhif 10.

  13. Cyn-ymgynghorydd i Boris Johnson yn trafod ei salwchwedi ei gyhoeddi 09:17 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    1/2

    Bu cyn-ymgynghorydd i Boris Johnson, Guto Harri, yn trafod salwch y prif weinidog ar raglen y Post Cyntaf y bore ma, wedi i Boris Johnson gael ei gludo i uned gofal dwys neithiwr.

    Dywedodd Guto Harri: "Mae'n amlwg bod yna ddirywiad difrodol wedi bod dros y penwythnos achos am wythnos mae wedi bod yn dweud ei fod yn mynd i ysgwyd yr hen beth mileinig yma, ond erbyn y Sul roedd hi'n amlwg bod angen gofal meddygol mwy dwys, a nawr mae mewn uned gofal dwys ac yn amlwg mewn cyflwr go ddifrifol yn anffodus.

    "O ystyried yr argyfwng sydd ohoni, nid ar chwarae bach mae'r person sydd ar ben y gadwyn yn gadael fynd ar bethau. Fel dwi'n deall gan bobl sy'n gweithio yn agos gydag e yn rhif 10, roedd e wedi pasio cymaint ag yr oedd e'n gallu ymlaen, roedd e'n siarad yn gyson gydag arbenigwyr meddygol ynglŷn â'i gyflwr ac unwaith y dywedo'n nhw bod angen iddo fynd i'r ysbyty fe wrandawodd.

    Guto Harri
  14. Cynhyrchu awyriaduron ym Mrychdynwedi ei gyhoeddi 09:05 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Twitter

    Mae'r gwaith o gynhyrchu peiriannau anadlu neu awyriaduron ar gyfer ysbytai wedi dechrau ym Mrychdyn medd Deeside.com.

    Mae'r peiriannau yn cael eu cynhyrchu yng nghanolfan AMRC - yr 'Advanced Manufacturing Research Centre' sydd yn ganolfan wedi ei hariannu ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac asiantaethau busnes.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Trawsnewid theatr yn Llandudnowedi ei gyhoeddi 08:53 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Mae theatr Venue Cymru yn Llandudno wedi ei thrawsnewid dros y dyddiau diwethaf er mwyn creu gofod ar gyfer ysbyty maes newydd.

    Enw'r ysbyty dros dro yno fydd Ysbyty'r Enfys, ac mae disgwyl iddi fod yn barod erbyn canol y mis.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Mark Drakeford yn ymateb i gyfraith y gweithlewedi ei gyhoeddi 08:45 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Yn ystod ei gyfweliad ar raglen y Post Cyntaf y bore ma, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi bod yn ymateb i'r gyfraith newydd i ddiogelu gweithwyr, sydd yn dod i rym heddiw.

    Dywedodd Mr Drakeford: "Yr angen oedd, am fy mod i yn clywed gan unigolion a'r undebau bod gormod yn becso pan oedden nhw yn mynd mewn i'r gwaith nad oedd pethau mewn lle, i warchod eu hiechyd a'u lles.

    "Felly beth y'n ni wedi neud yw ychwanegu at y rheoliadau a chamau rhesymol i warchod iechyd pobl yn y gweithle trwy wneud pethau ru'n ni wedi awgrymu o'r dechrau.

    "Pobl yn y gweithle fydd yn cadw llygad ar y rheolau. Cefais gyfarfod gyda'r TUC yng Nghymru ddoe ac maen nhw'n dweud y bydd eu haelodau nhw, ledled Cymru, yn gallu tynnu sylw os nad yw pobl yn gwneud y pethau rhesymol. Ond rwy'n hyderus... y bydd pob un yn gwneud hyn".

    Ychwanegodd: "Mae yna eithriadau yn y rheolau. Wrth gwrs rwy'n cydnabod bod pob gweithlu yn wahanol dyna pam nad ydan ni wedi dweud y dylai pobl gweithiwr aros ddau fetr o'i gilydd. Beth ni'n ddweud yw ei bod hi lan i bobl ddod o hyd i'r mesurau rhesymol y maen nhw yn gallu gwneud er mwyn helpu pobl i fod yn ddiogel yn y gweithle".

  17. Cyfraith newydd i ddiogelu gweithwyr yn dod i rymwedi ei gyhoeddi 08:37 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Mae rheolau newydd yn dod i rym ddydd Mawrth sy'n gorfodi cyflogwyr yng Nghymru i sicrhau "camau rhesymol" er mwyn cadw eu staff o leiaf ddau fetr i ffwrdd o'i gilydd.

    Y bwriad yw diogelu staff rhag haint coronafeirws.

    Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford, ei fod yn disgwyl i'r rheolau gael eu "hunan-orfodi" gan fusnesau.

    Wrth egluro'r gorchymyn newydd ychwanegodd y Prif Weinidog: "Ni'n gwneud yn gyfreithiol y cyngor ni wedi rhoi i bobl yn barod dros y pythefnos diwethaf.

    GwaithFfynhonnell y llun, PA Media
  18. Mark Drakeford yn dymuno gwellhad i Boris Johnsonwedi ei gyhoeddi 08:28 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru y bore ma, dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford ei fod yn meddwl am y Prif Weinidog, Boris Johnson a'i deulu:

    "Mae'n sioc i glywed beth sydd wedi digwydd. Mae'n siwr o fod yn cael pob gofal posib yn yr ysbyty ond mae'n meddyliau gydag e.

    "Dwi'n siwr bod tîm o bobl gyda'r Prif Weinidog, dwi'n siwr y bydda'n nhw yn dod at eu gilydd o dan Dominic Raab yn y cyfamser.

    "Mae'r Prif Weinidog yn dal i siarad gyda phobl sy'n gallu dod at eu gilydd ac felly dyna'r ffordd orau am nawr", meddai.

  19. Mae'n dawel ar y ffyrddwedi ei gyhoeddi 08:21 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 2

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter 2
  20. Gwleidyddion yn dymuno gwellhad buan i Boris Johnsonwedi ei gyhoeddi 08:16 Amser Safonol Greenwich+1 7 Ebrill 2020

    Mae gwleidyddion Cymru wedi dymuno gwellhad buan i Boris Johnson wedi iddo gael ei symud i uned gofal dwys yn ysbyty St Thomas yn Llundain nos Lun.

    Yn gynharach dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod "e'n meddwl am Boris Johnson a'i deulu" ac mewn neges ar ei gyfrif twitter ychwanegodd ei fod yn "newyddion pryderus".

    Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street bod Mr Johnson wedi cael ei symud i uned gofal dwys yn gynharach nos Lun wedi i'w symptomau coronafeirws waethygu.

    Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Reuters