Crynodeb

  • 4,073 o achosion Covid-19 yng Nghymru bellach a 245 wedi marw

  • Bu farw 33 o bobl yn y 24 awr diwethaf yma - y nifer dyddiol uchaf ers i'r pandemig ddechrau

  • Hosbisau ac elusennau yn ymbil am arian er mwyn cadw i fynd

  1. Cyfri'r geifr?wedi ei gyhoeddi 15:14 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    Rhyl, Prestatyn & Abergele Journal

    Fe fyddwch chi'n cofio am y geifr gwyllt fu'n crwydro strydoedd Llandudno... wel maen nhw nawr wedi ysbrydoli crys-T yn ôl y Rhyl Journal.

    Nid yn unig hynny, ond mae'r crysau-T yn cael eu gwerthu er mwyn codi arian tuag at Hosbis Dewi Sant yn Llandudno mewn cyfnod heriol i'r elusen arbennig yna.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Nifer yr achosion newydd i lawrwedi ei gyhoeddi 15:07 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    Mae'r graph yn dangos bod y nifer o achosion newydd yng Nghymru wedi gostwng am y pedwerydd diwrnod yn olynol.

    Ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod y gwir ffigwr yn debygol o fod yn lalwer uwch.

    Tan y bydd profion coronafeirws ar gael yn ehangach, fydd y ffigwr dyddiol ddim yn adlewyrchu'r sefyllfa go iawn.

    achosion
  3. CBDC: Cynllun seibiant i staffwedi ei gyhoeddi 15:03 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    Cymdeithas Bêl-droed Cymru

    Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn paratoi i roi eu staff ar y cynllun seibiant cyflog oherwydd argyfwng coronafeirws.

    Yn ôl Adran Chwaraeon BBC Cymru mae'r Gymdeithas yn edrych ar y mesur fel ffordd o "ddiogelu pêl-droed yn y wlad."

    Mae'r Gymdeithas yn fudiad hebelw gyda'r holl arian yn cael ei fuddsoddi yn y gêm yng Nghymru. Caoff gemau rhyngwladol dynion a merched Cymru eu gohirio oherywdd y pandemig.

    pel-droedFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
  4. Beth am ogledd Cymru?wedi ei gyhoeddi 14:53 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Yng nghyfarfod llawn y Cynulliad, mae Darren Millar AC am sicrhau bod Gogledd Cymru yn cael cyfran deg o welyau ychwanegol.

    Wrth ateb mae'r Prif Weinidog yn sicrhau y bydd hynny'n digwydd.

    Dywed bod yr ysbyty ychwanegol ar gyfer Caerdydd yn gwasanaethu ardal eang.

    Wrth ateb cwestiwn arall am fyfyrwyr dywed bod y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams yn trafod yn gyson gyda phrifysgolion er mwyn sicrhau tegwch i bob myfyriwr.

    darren millarFfynhonnell y llun, bbc
  5. Gwledydd y byd am ddysgu o'r Cynulliadwedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    BBC Radio Cymru

    Mae seneddau Canada, Awstralia, Seland Newydd, Iwerddon, San Steffan a Senedd yr Alban wedi bod mewn cysylltiad â Chynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn deall mwy am y broses o gynnal cyfarfodydd rhithwir.

    Dyma esboniodd Llywydd y Cynulliad Elin Jones wrth siarad ar raglen Dros Ginio ar Radio Cymru heddiw.

    “Mae 'na ddiddordeb i weld sut i ni wedi mynd ati i gynnal senedd o'r math yma ac felly mae'n bosib y gwelwn ni rhai o'r seneddau yn dilyn y patrwn neu'n dysgu oddi wrthym ni yma yng Nghymru,” esboniodd wrth Vaughan Roderick.

  6. Nifer dyddiol uchaf o farwolaethauwedi ei gyhoeddi 14:33 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    Dyma'n graph dyddiol o nifer y marwolaethau yng Nghymru gyda Covid-19.

    Bu farw 33 o bobl yn y 24 awr diwethaf - y nifer dyddiol uchaf hyd yma ers i'r pandemig ddod i Gymru.

    marwolaethau
  7. Digon o beiriannau anadlu?wedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Mae Adam Price yn gofyn a fydd gan Gymru ddigon o beiriannau anadlu i gwrdd â'r gofyn.

    Mae'r Prif Weinidog yn dweud ei bod hi'n anodd gwybod faint fydd eu hangen gan nad oes modd gwybod yn iawn pryd fydd yr haint yn taro Cymru waethaf ond hyd yma dywed ei fod yn hyderus bod y llywodraeth yn gwneud ei gorau i baratoi ar gyfer y cyfnod hwnnw.

    adam priceFfynhonnell y llun, bbc
  8. 'Arhoswch adre ar benwythnos y Pasg'wedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Mae Arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Paul Davies, yn gofyn am sut mae sicrhau y cyfyngiadau ar benwythnos y Pasg.

    Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn ateb gan ddweud bod "arhoswch adref yn golygu chi" ac yn cadarnhau nad yw taith i ail gartref yn angenrheidiol.

    Dywed hefyd y bydd plismyn ar ffyrdd Cymru yn cadw golwg ar y sefyllfa.

    paul daviesFfynhonnell y llun, bbc
  9. 33 yn fwy wedi marw gyda coronafeirwswedi ei gyhoeddi 14:02 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi fod 33 o bobl wedi marw gyda coronafeirws yn y 24 awr diwethaf.

    Dyma'r nifer uchaf o farwolaethau mewn diwrnod ers dechrau'r pandemig yma, ac mae hynny'n golygu fod cyfanswm o 245 o bobl wedi marw gyda'r haint yng Nghymru.

    Dywedodd Dr Giri Shankar hefyd fod 284 o achosion newydd o Covid-19 wedi'u cofnodi yng Nghymru gan fynd â'r cyfanswm yma i 4,073.

    Ychwanegodd fod y gwir nifer o achsion yn debyg o fod yn uwch na hynny.

  10. Y Prif Weinidog yn cadarnhau y bydd y cyfyngiadau presennol yn parhauwedi ei gyhoeddi 13:48 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Yn ystod y cyfarfod llawn rhithiol, y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cadarnhau nifer yr achosion hyd yma ac yn dweud bod nifer y marwolaethau yn 212.

    Mae e'n cydymdeimlo â phob teulu ac yn dymuno'n dda i'r Prif Weinidog Boris Johnson a hefyd i Alun Davies AC sy'n cael triniaeth yn yr ysbyty.

    Mae e'n cadarnhau y bydd y cyfyngiadau presennol yn parhau er mwyn diogelu pobl Cymru.

    senedd rithiolFfynhonnell y llun, bbc
  11. 'Arwyddion' gobeithiolwedi ei gyhoeddi 13:29 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Rhestrau blaenoriaethu ar gael i archfarchnadoeddwedi ei gyhoeddi 13:14 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    O ran cyflenwi bwyd i bobl yn eu cartrefi, dywedodd Ms James fod gan yr archfarchnadoedd, erbyn hyn, y wybodaeth sydd ei angen i flaenoriaethu pobl fregus.

    Roedd rhai cwsmeriaid wedi mynegi rhwystredigaeth nad oedd proses o'r fath ar gael yng Nghymru er mwyn helpu rhai sy'n methu gadael eu cartrefi.

    Mae'r archfarchnadoedd wedi cael gafael ar bas-data ar gyfer 1.5miliwn o bobl fregus yn Lloegr ers peth amser.

    Dywedodd Ms James fod y wybodaeth yna nawr ar gael ar gyfer Cymru ond rhybuddiodd y byddai'r galw yn uchel ac y byddai rhai dal yn ei chael yn anodd sicrhau archebion.

    cynhadledd
  13. Rhith sesiwn seneddol ar fin dechrauwedi ei gyhoeddi 13:14 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Am 13:30 bydd rhith sesiwn seneddol y Cynulliad yn cael ei chynnal i drafod materion yn ymwneud â COVID-19.

    Bydd y ‘Senedd frys’ yn galw ar lai o Aelodau’r Cynulliad.

    Y pleidiau gwleidyddol a’r Aelodau annibynnol sydd yn penderfynu pwy fydd yn cymryd rhan yn y cyfarfod.

    Mae rheolau’r Cynulliad, wedi newid ac yn awr dim ond pedwar Aelod Cynulliad sydd eu hangen i bleidleisiau yn y Cyfarfod Llawn fod yn ddilys.

    cynulliadFfynhonnell y llun, bbc
  14. Rheolau gweithle: Heddlu yn "gam olaf"wedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    Yn ôl Ms James yr heddlu oedd y "cam olaf" yn unig yn y broses o sicrhau fod pobl yn y gweithle yn cadw pellter o ddau fetr o'i gilydd.

    Dywedodd na fyddai'r llywodraeth yn gofyn i'r heddlu ymddwyn fel arolygwyr ffatrïoedd - yn wahanol i awgrym gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones,

    Ychwanegodd y dylai unrhyw un sy'n bryderus o ran eu gwaith gysylltu yn gyntaf a'u cyflogwr, ac yna eu hundeb llafur os ydynt yn aelod.

    "Yr heddlu yw'r cam olaf yn unig yn y broses yn erbyn cyflogwyr sy'n benderfynol o dorri rheolau."

  15. Mesurau cyfyngu: 'Rhai problemau'wedi ei gyhoeddi 12:49 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    Dywedodd Ms James fod pobl wedi bod "yn dda iawn" wrth ufuddhau'r rheolau ond fod yna rhai problemau wedi bod.

    "Yn y gogledd mae adroddiadau o bobl yn ymweld â thai haf, sydd wedi corddi pobl leol."

    Ychwanegodd fod problemau yn y canolbarth gyda gyrwyr beic modur. Yn y de dywedodd fod yr heddlu wedi ymateb i sawl digwyddiad "gan gynnwys gorfod mynd i barti pen-blwydd plentyn a gêm bêl-droed".

  16. Coronafeirws: Mesurau i barhauwedi ei gyhoeddi 12:40 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    Yn y cynhadledd dyddiol i'r wasg dywed llywodraeth Cymru y bydd y cyfyngiadau presennol yn parhau mewn grym yr wythnos nesaf.

    Dywedodd Julie James gweinidog tai a llywodraeth leol fod y mesurau er mwyn achub y gwasanaeth iechyd ac achub bywydau.

    Galwodd ar bobl i barhau i gadw at y mesurau ac i gadw pellter o ddau fetr oddi wrth ei gilydd dros gyfnod Gwyliau'r Pasg.

    julie james
  17. Diweddariad dyddiol yn fywwedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Ymhen ychydig funudau.....wedi ei gyhoeddi 12:15 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Parcio am ddim i weithwyr iechydwedi ei gyhoeddi 11:59 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    Mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu gyda phob cyngor yng Nghymru er mwyn ceisio sicrhau fod gan weithwyr gofal iechyd lefydd i barcio am ddim yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

    Mae'r cynllun yn weithredol ymho maes parcio sy'n eiddo i'r awdurdodau lleol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Anodd cael gwybodaeth ddibynadwy?wedi ei gyhoeddi 11:47 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Mae'n gyfnod anodd wrth geisio hel gwybodaeth am coronafeirws, felly mae'r Cynulliad wedi llunio tudalen bwrpasol ar eu gwefan lle gallwch weld y wybodaeth swyddogol mewn un lle.