Crynodeb

  • 4,073 o achosion Covid-19 yng Nghymru bellach a 245 wedi marw

  • Bu farw 33 o bobl yn y 24 awr diwethaf yma - y nifer dyddiol uchaf ers i'r pandemig ddechrau

  • Hosbisau ac elusennau yn ymbil am arian er mwyn cadw i fynd

  1. Galwad i atal angladdau gan gyn-ACwedi ei gyhoeddi 08:16 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    Fe ddylai Llywodraeth Cymru ystyried stopio angladdau yn ystod yr argyfwng coronafeirws, yn ôl swyddog sy'n arwain gwasanaethau di-grefydd.

    Fe ddywedodd Lorraine Barrett, cyn aelod Cynulliad ac aelod o'r Dyneiddwyr, fod cyfyngu ar nifer y galarwyr mewn angladdau yn achosi poen pellach i deuluoedd.

    angladdFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Bore da a chroesowedi ei gyhoeddi 08:12 Amser Safonol Greenwich+1 8 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae'n fore Mercher, 8 Ebrill a dyma'n llif byw arbennig gyda'r holl newyddion diweddaraf am y pandemig coronfeirws yng Nghymru a thu hwnt.

    Fe fyddwn ni yma gydol y dydd gyda phytiau o'r straeon pwysig a'r ffigyrau diweddaraf.

    Bore da i chi!