Crynodeb

  • 18 yn rhagor o bobl â coronafeirws wedi marw yng Nghymru, gan ddod â'r cyfanswm i 369

  • 367 o achosion newydd wedi'u cadarnhau - cyfanswm o 5,297 bellach

  • "Ffordd bell i fynd" cyn llacio'r cyfyngiadau ar symud a chymdeithasu, medd y Prif Weinidog

  • Boris Johnson wedi gadael yr ysbyty, ond ni fydd yn dychwelyd i'w waith am y tro

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 17:02 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    A dyna ni ar y llif byw am heddiw - gallwch chi barhau i ddarllen prif straeon y dydd ar coronafeirws a mwy wefan BBC Cymru Fyw.

    Fe fyddwn ni yn ôl unwaith eto 'fory gyda'r diweddaraf i chi ar y pandemig yng Nghymru a thu hwnt.

    Am y tro, mwynhewch eich prynhawn.

  2. 'Arhoswch adre': Apêl gan deulu menyw fu farw â Covid-19wedi ei gyhoeddi 16:34 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    "Rai misoedd yn ôl, fydden i byth wedi dychmygu y byddai Covid-19 yn cyrraedd Cymru - heb sôn am bentre' bach Efailwen - ac yn cipio ein mam oddi wrthon ni."

    Geiriau torcalonnus wrth i ardal Crymych a thu hwnt gael ei llorio gan y newyddion am farwolaeth un o heolion wyth y gymuned.

    Yn 59 oed, roedd Undeg Lewis yn wraig, yn fam i dri o blant, yn ferch, chwaer a modryb.

    A than yr wythnosau diwethaf, roedd hi'n gweithio yn garej Siop y Frenni, Crymych.

    Roedd hi hefyd yn glerc Cyngor Cymuned Crymych ac yn ysgrifennydd papur bro Y Cardi Bach.

    undegFfynhonnell y llun, bbc
  3. Nifer y bobl sydd wedi marw yn y DU dros 10,000wedi ei gyhoeddi 16:11 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    Mae nifer y bobl sydd wedi marw yn yr ysbyty ar ôl dal coronafirws yn y DU wedi pasio 10,000, ar ôl i 737 o bobl farw dros y 24 awr diwethaf.

  4. Prinder offer yn 'lladd' staff rheng flaen, medd undebwedi ei gyhoeddi 15:57 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    Mae prinder offer diogelwch personol yn "lladd" staff rheng flaen, yn ôl undeb llafur.

    Dywed undeb Unsain Cymru fod un o'i aelodau wedi marw ar ôl cael ei heintio â Covid-19 - cymhorthydd gofal iechyd yn ne ddwyrain Cymru oedd yn fam i ddwy ferch ifanc. .

    Mae'r undeb yn gofyn i Lywodraeth Cymru i gadarnhau lefelau stoc ac amserlen danfon offer "ar frys".

    Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio i sicrhau'r offer cywir fel bod pobl yn gallu cwblhau eu gwaith yn ddiogel.

  5. Senedd y DU i gyfarfod 'yn ddigidol'wedi ei gyhoeddi 15:35 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    Bydd y Senedd y DU yn dychwelyd "yn ddigidol" ar 21 Ebrill i drafod mesurau coronafirws, awdurdodi gwariant ac i ddeddfu.

    Dywedodd llefarydd ar ran arweinydd Tŷ'r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg fod "datrysiadau technolegol" yn cymryd lle ar gyfer yr wythnos nesaf.

    Daw y newydd ar ôl i arweinydd Llafur Syr Keir Starmer ddweud bod yn rhaid i ASau allu gwneud penderfyniadau a dwyn y llywodraeth i gyfrif.

    Yn gynharach yn y mis, fe honnodd Cynulliad Cymru mai nhw oedd y sefydliad democrataidd mawr cyntaf yn y DU i gwrdd o bell.

    senedd
  6. Y sefyllfa â'r ystadegau yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 15:15 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    map
    achosion
    marwolaethau
  7. Yr heddlu yn stopio partiwedi ei gyhoeddi 14:55 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Dywed yr heddlu eu bod wedi gorfod atal parti ym Mhenycae, ger Wrecsam, yn ystod yr oriau mân, er gwaethaf cyfyngiadau yn sgil y coronafeirws.

    “Roedd y preswylydd wedi gwahodd nifer o westeion ac roeddent wedi ymddwyn yn ymosodol tuag at swyddogion,” meddai’r datganiad.

    “Bydd yr unigolion yn ymddangos yn y llys yn y dyfodol.”

    Mewn digwyddiad ar wahân, daeth swyddogion o hyd i dri grŵp o gymdogion yn eistedd o amgylch tân yn ardal y Rhos gerllaw.

  8. 18 yn fwy wedi marwwedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod 18 yn fwy o bobl wedi marw yng Nghymru ar ôl cael diagnosis o Covid-19.

    Mae hyn golygu bod cyfanswm o 369 o bobl bellach wedi marw.

    Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 367 o achosion newydd wedi’u cadarnhau, gan ddod â’r cyfanswm i 5,297, er bod disgwyl i’r nifer yma fod yn uwch gan nad yw pawb yn cael eu profi.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Y gwaith o baratoi'r stadiwm yn parhauwedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Boris Johnson wedi gadael yr ysbytywedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    Mae Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, wedi’i ryddhau o’r ysbyty, ond ni fydd yn dychwelyd i’w waith yn syth.

  11. Gweithiwr cymorth canser yn marw ar ôl profi'n bositif am coronafirwswedi ei gyhoeddi 13:25 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    Mae Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wedi cadarnhau fod gweithiwr gofal iechyd mewn ysbyty canser yng Nghaerdydd wedi marw ar ôl cael coronafirws.

    Bu farw Donna Campbell, gweithiwr iechyd yn Ysbyty Felindre yn yr Eglwys Newydd, yn Ysbyty Athrofaol Cymru ddydd Gwener gyda Covid-19.

    Dywedodd ymddiriedolaeth y GIG fod staff yr ysbyty “yn hollol dorcalonnus”.

    nyrs
  12. Rhybudd gan yr heddluwedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Neges Pasg Archesgob Cymru’n crybwyll “cwmwl salwch a gofid”wedi ei gyhoeddi 12:53 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    golwg360

    Mae Golwg 360 wedi sôn fod Archesgob Cymru John Davies yn crybwyll “cwmwl salwch a gofid” yn ei neges Pasg flynyddol., dolen allanol

    Mae’n dweud bod rhaid wynebu’r tywyllwch yr adeg hon o’r flwyddyn, gan ddweud bod y cwmwl “dros nifer o wledydd, cymunedau a theuluoedd”.

    Ond mae’n galw hefyd am ddod o hyd i “gariad a goleuni” yn y gweithgarwch caredig o’n cwmpas yn sgil y coronafeirws.

    esgob
  14. Hanner tîm adran damweiniau ac achosion brys wedi profi'n bositif am y coronafeirwswedi ei gyhoeddi 12:34 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    Mae Dr Tim Rogerson sy'n ymgynghorydd yn adran damweiniau ac achosion brys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi recordio fideo wrth hunan-ynysu gartref ar ôl dal coronafeirws.

    Mae wedi dweud fod tua hanner yr ymgynghorwyr damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Gwent wedi profi yn bositif am y feirws, yn ogystal â chanran debyg o'r tîm nyrsio, sy'n achosi her wrth staffio'r adran.

    Mae hefyd wedi annog pawb i aros adref dros benwythnos Gŵyl y Banc.

    "Bydd yr hyn y mae pobl yn ei wneud y penwythnos hwn yn cael effaith ar ein gallu yn ein adrannau gofal dwys ymhen pythefnos," meddai.

    "Bydd yn cael effaith ar staff fydd yn cael eu peryglu ac yn agored i coronafirws ymhen ychydig wythnosau, ac yn y pen draw, bydd yn effeithio ar allu'r system ysbytai gyfan."

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
  15. Tudalen rhannu tips coginio Merched y Wawr yn denu miloeddwedi ei gyhoeddi 12:11 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    Mae tudalen Facebook coginio sydd wedi ei sefydlu yn sgil y coronafeirws gan fudiad Merched y Wawr wedi denu 11,000 o ddilynwyr - nifer ohonynt o dramor.

    Syniad Gwerfyl Eidda Roberts, aelod o staff y mudiad, oedd y dudalen ac mae pobl yn rhannu lluniau o'r hyn maen nhw'n ei bobi - cacenni pen-blwydd a'u prydau am y diwrnod.

    merched y wawrFfynhonnell y llun, Merched y Wawr
  16. Dafydd Elis-Thomas ddim am geisio adennill ei seddwedi ei gyhoeddi 11:47 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud na fydd yn ceisio adennill ei sedd yn y Cynulliad ar gyfer etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn etholiad nesa'r Cynulliad yn 2021.

    Ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul gofynnodd y cyflwynydd i'r Arglwydd Elis-Thomas a oedd wedi gwneud penderfyniad ar sefyll yn Nwyfor Meirionydd yn 2021.

    "Yr ateb answyddogol ydy 'mod i wedi gweld gwerth yn y cyfnod yma o weithio mewn ffordd wahanol.

    "Mae 'na fwy i fod yn ddinesydd da na bod yn wleidydd etholedig am fwy na 40 mlynedd.

    Mae wedi bod yn aelod Cynulliad ers iddo gael ei sefydlu yn 1999, a bu'n Llywydd rhwng 1999 a 2011.

    Cyn hynny bu'n aelod Seneddol rhwng 1974 ac 1992, ac roedd yn arweinydd ar Blaid Cymru rhwng 1984 ac 1991.

    Dafydd
  17. Safleoedd gwersylla wedi cauwedi ei gyhoeddi 11:08 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    Traffig Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Nyrs 'poblogaidd a hoffus' wedi marw â coronafeirwswedi ei gyhoeddi 10:53 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cadarnhau bod un o'u nyrsys wedi marw ar ôl cael coronafeirws.

    Yn eu teyrnged maen nhw'n disgrifio Gareth Robert fel dyn "poblogaidd a hoffus", gan ddweud y bydd "colled fawr ar ei ôl".

    Bu farw yn Ysbyty Tywysog Charles, Merthyr Tudful ar ôl cael prawf Covid-19 positif.

    nyrsFfynhonnell y llun, BWRDD IECHYD PRIFYSGOL CAERDYDD A'R FRO
  19. Sut mae myfyrwyr o dramor yn ymdopi â'r pandemig Covid-19?wedi ei gyhoeddi 10:36 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    "Er y baswn i'n caru bod gyda fy nheulu, ar hyn o bryd mae'n well i mi aros."

    I Jia Wei Lee, doedd y penderfyniad i hunan-ynysu yn Nhrefforest yn hytrach na dychwelyd i Malaysia ddim yn un hawdd.

    Yn ogystal ag ysgrifennu ei thraethawd hir, mae'r myfyriwr blwyddyn olaf ym Mhrifysgol De Cymru wedi dechrau recordio fideos hwyl a defnyddiol ar ei thudalen Facebook.

    myfyrwyr