Crynodeb

  • 18 yn rhagor o bobl â coronafeirws wedi marw yng Nghymru, gan ddod â'r cyfanswm i 369

  • 367 o achosion newydd wedi'u cadarnhau - cyfanswm o 5,297 bellach

  • "Ffordd bell i fynd" cyn llacio'r cyfyngiadau ar symud a chymdeithasu, medd y Prif Weinidog

  • Boris Johnson wedi gadael yr ysbyty, ond ni fydd yn dychwelyd i'w waith am y tro

  1. Arestio dyn ar ôl torri cyfyngiadau coronafeirws am y chweched trowedi ei gyhoeddi 10:16 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    Mae dyn 18 oed wedi’i arestio ar ôl torri'r cyfyngiadau coronafeirws am y chweched tro.

    Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys mai ef oedd y person cyntaf yn ardal i gael ei arestio am achosi niwsans cyhoeddus o ran y cyfyngiadau.

    Cafodd y dyn, o Lwynhendy ei arestio ar ôl cael dirwy bum gwaith o'r blaen am dorri amodau tebyg.

    Dywedodd yr heddlu ei fod wedi bod yn gyrru o gwmpas gyda "diystyrwch llwyr i'r gyfraith ac i iechyd a lles" eraill.

    heddluFfynhonnell y llun, bbc
  2. Drakeford: 'Diolch am aros adref a helpu achub bywydau'wedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    Mae Prif Weinidog Cymru wedi diolch i bobl am aros yn eu cartrefi dros benwythnos y Pasg.

    Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn gwybod bod aros gartref am amser hir yn "anodd" a bod pobl yn "gwneud aberth bob dydd".

    Ond ychwanegodd bod arwyddion bod y cyfyngiadau'n gwneud gwahaniaeth.

    Rhybuddiodd hefyd bod y llywodraeth yn cymryd camau i atal y lleiafrif sy'n torri'r rheolau.

    drakeford
  3. Bore da!wedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich+1 12 Ebrill 2020

    Bore da, a chroeso i'r llif byw heddiw.

    Mi fyddwn ni yma drwy'r dydd i ddod â'r newyddion diweddaraf i chi am sefyllfa'r coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt.