Crynodeb

  • 4,930 o achosion Covid-19 yng Nghymru bellach a 351 wedi marw

  • Teyrngedau i nyrs o ardal Caerdydd sydd wedi marw o coronafeirws

  • Cynghorydd yn beirniadu "fandaliaid" am baentio ar adeilad ym Mhwllheli

  • Rhybudd fod y dirwyon presennol am dorri cyfyngiadau coronafeirws ddim yn ddigonol

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 17:00 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    A dyna ni ar y llif byw am heddiw - gallwch chi barhau i ddarllen prif straeon y dydd ar coronafeirws a mwy wefan BBC Cymru Fyw.

    Fe fyddwn ni yn ôl unwaith efo 'fory gyda'r diweddaraf i chi ar y pandemig yng Nghymru a thu hwnt.

    Am y tro, mwynhewch eich prynhawn.

  2. Cerdd am aros adrefwedi ei gyhoeddi 16:57 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020

    Twitter

    Diolch i Ysgol Plasmawr am drydar y gerdd hon am aros adref - ydych chi wedi gweld cynigion eraill ar yr un thema?

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Cefnogaeth yn sgil pryderon am drais yn y cartrefwedi ei gyhoeddi 16:49 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020

    Twitter

    Mae Swyddfa Cymru wedi trydar am gymorth i'r rheiny sydd yn poeni ynghylch trais yn y cartref yn ystod y cyfnod yma.

    Cafodd pryderon eu codi ddechrau'r wythnos ynglŷn â chynnydd yn nifer yr achosion o gam-drin domestig wrth i bobl orfod aros yn eu cartrefi yn sgil y cyfyngiadau coronafeirws.

    Yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth y DU mae'r Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel wedi dweud y bydd "rhywle saff" yn cael ei ddarparu i bobl sydd yn ceisio dianc o drais o'r fath er gwaetha'r cyfyngiadau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Nyrs wedi marw o Covid-19wedi ei gyhoeddi 16:35 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi dweud bod un o'u nyrsys, Gareth Roberts, wedi marw o coronafeirws.

    Yn eu teyrnged maen nhw'n ei ddisgrifio fel dyn "poblogaidd ac hoffus" ac y bydd "colled fawr ar ei ôl".

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. 'Cwm bach later'wedi ei gyhoeddi 16:23 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020

    Twitter

    Mae llawer o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn hwyl gydag addasu hen bosteri twristaidd o Gymru - ond y tro yma, annog pobl i beidio dod yma.

    Mae 'na sawl esiampl dyfeisgar ar yr hashnod #dontvisitwaleschallenge - o 'Gower Way' i 'LandudNO'.

    Allwch chi feddwl am rai sy'n gweithio yn y Gymraeg?

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Y neges yn glir ym Mhen Llŷnwedi ei gyhoeddi 16:10 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020

    Mae'r ddwy neges yma wedi bod ymhlith y rhai mwyaf amlwg dros y dyddiau a'r wythnosau diwethaf - a dyma nhw i'w gweld eto ym Mhen Llŷn heddiw.

    Llangwnnadl
    Penllech
  7. Ble mae'r achosion yng Nghymru?wedi ei gyhoeddi 15:54 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020

    Mae 'na achosion o coronafeirws ym mhob rhan o Gymru bellach, ond mae rhai ardaloedd yn parhau i'w chael hi'n waeth na'i gilydd.

    Yn naturiol mae nifer yr achosion yn parhau ar eu huchaf o gwmpas ardaloedd poblog yn y de.

    Ond mae'r lliwiau ar y map hefyd yn dangos fod cyfradd yr achosion hefyd yn uwch yn yr ardaloedd hynny, gyda Chasnewydd yn ei chael hi waethaf o hyd ac ardaloedd o gwmpas Caerdydd ddim yn bell ar ei hôl hi.

    map yn dangos achosion Covid-19
  8. Nifer y marwolaethau ar ei uchaf ond unwedi ei gyhoeddi 15:48 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020

    Fel y gwelwch chi o'r graff, y ffigwr dyddiol heddiw o 36 marwolaeth yw'r ail uchaf 'dyn ni wedi gweld yng Nghymru ers i'r pandemig ddechrau.

    nifer y marwolaethau
  9. Nifer yr achosion yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 15:42 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020

    Dyma'r graff yn dangos nifer yr achosion newydd o coronafeirws yng Nghymru heddiw o'i gymharu â'r dyddiau diwethaf.

    nifer achosion coronafeirws
  10. Her seiclo 36 awr i Geraint Thomaswedi ei gyhoeddi 15:16 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020

    Facebook

    Mae Geraint Thomas wedi dweud ei fod yn gobeithio codi arian i'r gwasanaeth iechyd wrth seiclo 36 awr dros gyfnod o dridiau.

    Mewn neges ar Facebook, dolen allanol dywedodd y byddai'n beicio am 12 awr y dydd o 07:30 ar ddydd Mercher, Iau a Gwener ar ei feic o adref, gan herio pobl eraill i ymuno ag ef.

    "Fel pawb arall ar draws y wlad, rydw i wedi fy syfrdanu gan waith caled y GIG ar hyn o bryd," meddai.

    "Felly i ddangos fy nghefnogaeth a cheisio codi 'chydig o arian, dwi'n gwneud yr unig beth dwi'n gwybod sut i wneud a neidio ar fy meic."

    Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. 917 o farwolaethau ar draws y DUwedi ei gyhoeddi 15:02 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020

    Mae'r ffigyrau diweddaraf heddiw ar gyfer y DU gyfan yn dangos 917 yn rhagor o farwolaethau coronafeirws, gan ddod â'r cyfanswm i 9,875.

    Mae hynny ychydig yn is na'r ffigwr cyfatebol ddoe o 980, sef yr uchaf hyd yn hyn.

    Ar draws y DU mae 78,991 o bobl wedi profi'n bositif ar gyfer Covid-19.

    staff iechyd gyda masgiauFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. 'Rhaid cadw i'r rheolau pellter cymdeithasol'wedi ei gyhoeddi 14:47 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Wrth gyhoeddi'r ffigyrau diweddaraf, dywedodd Dr Chris Williams o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae Coronafeirws Newydd (COVID-19) ym mhob rhan o Gymru yn awr.

    "Y cam gweithredu unigol pwysicaf y gallwn ni i gyd ei gymryd er mwyn brwydro yn erbyn coronafeirws yw aros gartref er mwyn gwarchod y GIG ac achub bywydau.

    "Rydyn ni eisiau diolch i bob un person ledled Cymru am wneud eu rhan i helpu i arafu lledaeniad y feirws.

    "Rydyn ni’n gwybod bod aros gartref yn gallu bod yn anodd, yn enwedig pan mae’r tywydd mor braf, ond rhaid i aelodau’r cyhoedd gadw at y rheolau cadw pellter cymdeithasol ar gyfer aros gartref, ac oddi wrth bobl eraill, sydd wedi’u cyflwyno gan Lywodraeth y DU a Chymru."

  13. 36 yn rhagor o farwolaethau Covid-19wedi ei gyhoeddi 14:41 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 36 o bobl yn rhagor wedi marw o coronafeirws, gan ddod â'r cyfanswm yng Nghymru i 351.

    Maen nhw hefyd wedi cadarnhau 340 achos newydd, gan olygu bod y cyfanswm swyddogol bellach fyny i 4,930.

    Ond mae nifer yr achosion mewn gwirionedd yn debygol o fod llawer yn uwch, gan nad ydy pawb yn cael eu profi am yr haint ar hyn o bryd.

  14. Llety graffiti 'yn cael ei ddefnyddio gan weithwyr allweddol'wedi ei gyhoeddi 14:24 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae Heddlu'r Gogledd wedi dweud fod y llety gwyliau gafodd ei fandaleiddio ym Mhwllheli yn cael eu defnyddio gan "weithwyr allweddol" yn hytrach na thwristiaid.

    Cafodd adeilad yn y dref ei baentio gyda'r geiriau 'Go Home' cyn cael ei sgwrio ffwrdd gan bobl leol.

    Mewn datganiad dywedodd yr heddlu fod y gweithwyr yn gwneud "cyfraniad allweddol" i'r pandemig coronafeirws, gan alw eto ar bobl i beidio cymryd y gyfraith i'w dwylo'u hunain.

    "O'n patrolau ni gallwn ddweud bod mwyafrif helaeth y llety gwyliau ddim yn cael eu defnyddio gan dwristiaid, ond yn hytrach gan bobl leol," meddai'r llu.

    Ychwanegodd y datganiad: "Gofynnwch i'ch hunain sut fyddech chi'n teimlo petaech chi'n dychwelyd i hyn ar ôl shifft hir o gadw'r gymuned yn saff."

    graffiti PwllheliFfynhonnell y llun, Gareth Williams
    Disgrifiad o’r llun,

    Y graffiti sydd bellach wedi ei lanhau

  15. Gostyngiad cyflog o 25% i staff y Gweilchwedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020

    Gweilch

    Mae'r pandemig coronafeirws yn parhau i effeithio ar y byd chwaraeon, gyda'r Gweilch ymhlith y diweddaraf i gyhoeddi y bydd staff y rhanbarth yn gorfod cymryd gostyngiad cyflog o 25%.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Llonyddwch ym Mae Trearddurwedi ei gyhoeddi 13:52 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020

    Twitter

    Dyma'r olygfa ym Mae Trearddur yn gynharach heddiw - mae'n ymddangos fod y bobl yno wedi bod yn dilyn y canllawiau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Ap tracio symptomauwedi ei gyhoeddi 13:37 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020

    Dim cynhadledd i'r wasg heddiw, ond mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi parhau i rannu cyngor am coronafeirws ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys annog pobl i gofrestru gydag ap sy'n cadw cofnod o symptomau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. 'Gwerthfawrogi' ymarfer corff unwaith y dyddwedi ei gyhoeddi 13:22 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020

    Capital FM
    Capital FM

    Er bod y cyfyngiadau coronafeirws yn gallu teimlo'n rhwystredig i rai, mae un o sêr rygbi Cymru yn dweud y dylen ni fod yn ddiolchgar am beth 'dyn ni'n dal i gael gwneud.

    Mae Jamie Roberts, sydd wedi astudio i fod yn feddyg, bellach wedi dychwelyd o Dde Affrica er mwyn helpu'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru yn ystod y pandemig.

    Ac mae'n dweud y dylen ni deimlo'n lwcus ein bod ni dal yn cael mynd allan i wneud ymarfer corff unwaith y dydd - gan fod ei gyd-chwaraewyr gyda'r Stormers ddim yn cael gwneud hynny bellach.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Yr heddlu allan ger Bangorwedi ei gyhoeddi 13:09 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae lluoedd heddlu ar draws Cymru allan unwaith eto'r penwythnos yma i sicrhau bod pobl yn dilyn y cyfyngiadau teithio yn ystod y pandemig coronafeirws.

    Dyma swyddogion y gogledd allan ger Bangor yn stopio ceir er mwyn sicrhau eu bod nhw ond yn teithio os ydy o'n angenrheidiol.

    heddlu allan ger Bangor
  20. Graffiti ar ail dai ym Mhwllheliwedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020

    Mae cynghorydd o Bwllheli wedi dweud bod ganddo "gywilydd i ddod o'r dref" ar ôl deffro i weld y geiriau "Go Home" wedi eu peintio dros ail dai ym Mhwllheli.

    Yn ôl y cynghorydd Hefin Underwood, roedd y weithred yn "fandaliaeth" ac mae o a thrigolion eraill bellach wedi paentio dros y graffiti.

    Dywedodd Mr Underwood fod yr ardal "angen twristiaid" ond ddim "ar hyn o bryd".

    "Mae 'na fusnesau mawr a bach sy'n ddibynnol ar y gwaith sy'n dod yn sgil ail dai a thwristiaid," meddai.

    "Pe bai hyn yn digwydd i Gymry yn Lloegr, be fasa ni'n deud? Nid dyma'r ffordd ymlaen."

    Mae BBC Cymru yn deall bod yr heddlu wedi ymweld â'r safle, ac wedi cael cais am ymateb.

    fandaliaeth ail daiFfynhonnell y llun, Gareth Williams