'Trafodaethau rheolaidd gyda'r heddlu'wedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich+1 11 Ebrill 2020
Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi ymateb i bryderon Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys ynglŷn â'r dirwyon "annigonol" i bobl sy'n torri'r rheolau coronafeirws.
Dywedodd llefarydd: "Bydd pedwar llywodraeth y DU yn adolygu'r cyfyngiadau wythnos nesaf, yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf. Os bydd angen newidiadau pellach, byddwn yn gwneud newidiadau.
"Mae'r mwyafrif llethol o bobl yn dilyn y rheolau ac yn aros cartref ac rydym yn diolch iddynt am eu cydweithrediad a'u cymorth.
"Rydyn ni'n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r heddlu – os ydyn nhw'n dweud bod angen mwy o bwerau arnyn nhw, byddan nhw'n eu cael.
"Os nad yw'r cosbau'n ddigonol, byddwn yn edrych arnynt eto.”