Crynodeb

  • 32 yn rhagor o farwolaethau yng Nghymru gan ddod â'r cyfanswm i 495

  • Triniaeth arbrofol ar gyfer cleifion coronafeirws yn 'llygedyn o obaith'

  • Ehangu cymorth iechyd meddwl i bob gweithiwr iechyd

  1. 32 marwolaeth a 286 achos newyddwedi ei gyhoeddi 14:04 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 32 o bobl gafodd brawf positif am coronafeirws wedi marw yng Nghymru yn ystod y 24 awr diwethaf.

    Mae 286 o achosion newydd wedi profi'n bositif hefyd, ond y dybiaeth yw fod y gwir ffigwr o nifer y bobl sydd wedi eu heintio'n llawer uwch.

    Dim ond pan mae marwolaethau'n cael eu cofrestru'n swyddogol mae modd penderfynu ar gyfanswm y niferoedd o farwolaethau Covid-19, ac fe all y broses gymryd hyd at bythefnos.

    Mae'r ffigyrau hynny wedyn yn cael eu casglu a'u cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Cyhoeddus.

  2. Adnabod y symptomauwedi ei gyhoeddi 14:01 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Os ydych yn credu eich bod â symptomau coronafeirws, mae modd deall mwy am y feirws drwy ddefnyddio y traciwr a nodir isod.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Ffigyrau newydd y Swyddfa Ystadegauwedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Yn ôl ffigyrau yr ONS roedd naw o bob 10 person a fu farw yng Nghymru a Lloegr ym mis Mawrth o haint coronafeirws â chyflwr iechyd arall.

    Fe wnaeth y Swyddfa Ystadegau astudio 4,000 o achosion lle roedd cyfeiriad at coronafeirws ar y dystysgrif marwolaeth.

    Y cyflyrau iechyd mwyaf cyffredin oedd iechyd y galon, dementia a salwch anadlol.

  4. Angen cyflenwadau newydd PPE 'wythnos nesaf'wedi ei gyhoeddi 13:23 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd angen i'r Gwasanaeth Iechyd dderbyn cyflenwadau newydd o gyfarpar diogelwch PPE i weithwyr iechyd "yn yr wythnos nesaf" i ailgyflenwi stoc.

    Dyna oedd rhybudd pennaeth y GIG Dr Andrew Goodall ddydd Iau, yn ystod diweddariad dyddiol y llywodraeth.

    Esboniodd fod mwy o gyfarpar PPE yn cael ei ddosbarthu nag erioed, ond bod penaethiaid y gwasanaeth iechyd yn parhau i geisio sicrhau fod modd ailgyflenwi stoc.

    Dywedodd: "Mae'r ffordd y mae'n cael ei ddefnyddio ar draws Cymru'n ffactor gan fod yn rhaid i ni barhau i sicrhau fod rhai eitemau ar gael yn fwy nag eraill.

    "Mae eitemau eraill yr ydym yn gwybod fod digon o gyflenwad ohonynt ar gael am amser hir i ddod ar yr adeg yma", ychwanegodd.

    Dywedodd fod y Gwasanaeth Iechyd yn gweithio gyda rhwydweithiau cyflenwi presennol, cynhyrchwyr deunyddiau o Gymru a rhwydweithiau cyflenwi ar draws y DU i helpu rheoli'r stoc.

  5. Galw ar bobl i barhau i ddefnyddio'r Gwasanaeth Iechydwedi ei gyhoeddi 13:05 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Yn ystod y gynhadledd ddyddiol i'r wasg, dywedodd Dr Andrew Goodall y dylai pawb sydd yn dioddef o salwch ag sydd heb symptomau Covid-19 barhau i ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd.

    Dywedodd: "I rieni, os yw eich plant ddim yn dda fe ddylech chi chwilio am gymorth.

    "Os oes gennych chi boen dannedd brys fe ddylech chi alw eich deintydd. Os oes gennych chi bryder am eich iechyd ac nad yw'n diflannu yna fe ddylech chi ffonio eich meddygfa.

    "Neu os ydych chi neu aelod o'ch teulu'n ddifrifol wael, fe ddylech chi ddeialu 999 neu fynd i'r adran frys agosaf."

    Ychwanegodd Dr Goodall: "Tra bod llawer o ddigwyddiadau o ddydd i ddydd ddim yn cael eu cynnal, rydym yn sylweddoli na all rhai materion meddygol na gofal aros."

    Dywedodd ein bod yn "gweithio mewn cyfnod rhyfedd" ac fe all gymryd ychydig yn hirach nag arfer i dderbyn y gwasanaethau hyn.

  6. 'Pobl ddim yn gofyn am gymorth at afiechydon eraill'wedi ei gyhoeddi 12:58 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Ychwanegodd Dr Goodall ei fod yn poeni nad yw pobl yn gofyn am gymorth meddygol ar gyfer afiechydon na sy'n gysylltiedig â COVID-19.

    "Mae rhai pobl yn aros yn rhy hir am asesiad a thriniaeth frys," meddai.

    "Ry'n yn deall bod yna amharu ar rai gwasanaethau ond ry'n am bwysleisio'r neges bod gwasanaethau brys ac angenrheidiol dal ar gael.

    Dywedodd bod 60% yn llai o bobl wedi cael triniaeth mewn adrannau damweiniau ac achosion brys o gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

    "Mae nifer yr ambiwlansys sy'n cyrraedd adrannau damweiniau ac achosion brys wedi gostwng 20% ac mae 35% yn llai o dderbyniadau brys yn ein ysbytai," ychwanegodd.

  7. Hanner y gwelyau critigol yn parhau'n wagwedi ei gyhoeddi 12:51 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Yn ôl pennaeth y GIG yng Nghymru, Dr Andrew Goodall, mae ysbytai wedi gallu cynyddu capasiti gofal critigol i 399 o welyau yr wythnos yma.

    Wrth siarad yn ystod diweddariad dyddiol Llywodraeth Cymru, dywedodd Dr Goodall fod tua 49% o welyau gofal critigol yn wag ac ar gael i gleifion ar hyn o bryd,

    Mae un o bob tri gwely yn cael ei ddefnyddio gan bobl sydd â coronafirws ar hyn o bryd meddai.

    Ychwanegodd fod y pwysau mwyaf ar welyau gofal critigol yn parhau yn ardal y de ddwyrain.

    "Rydym yn parhau i ddatblygu a chomisiynu gwelyau ychwanegol ledled Cymru i sicrhau ein bod mor barod â phosibl ar gyfer unrhyw gynnydd dros yr wythnosau nesaf".

    Dywedodd fod tua 46% o welyau ysbyty acíwt - tua 3,100 i gyd - yn wag.

    AG
  8. Teyrnged i nyrs fu farwwedi ei gyhoeddi 12:28 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi rhoi teyrnged i nyrs fu farw ar ôl profi’n bositif am coronafeirws.

    Mewn datganiad, dywedodd y bwrdd iechyd:

    "Yn drist iawn, bu farw Andy ar yr Uned Gofal Critigol ddydd Mercher 15 Ebrill ar ôl profi’n bositif am COVID-19.

    "Roedd Andy, 57, wedi gweithio yn Ysbyty Maelor Wrecsam ers bron i 40 mlynedd ac roedd gan ei gydweithwyr feddwl mawr ohono".

    Disgrifiodd ei chwaer, Maria Molloy, ei brawd fel "dyn caredig" oedd wedi rhoi ei fywyd i’w broffesiwn, ac roedd ganddo "wên ar ei wyneb bob amser".

    Dywedodd: “Roedd Andy wrth ei fodd yn gweithio yn y Maelor, ei gydweithwyr oedd ei deulu arall.

    “Roedd ganddo natur garedig iawn ac roedd yn rhoi eraill yn gyntaf bob amser. Roedd bob amser yn chwerthin a gwenu, roedd yn ddyn mor dda.

    “Mae ei golli wedi’n llorio ond hoffem ddiolch i’r tîm Gofal Critigol a wnaeth eu gorau glas dros Andy, ac yn fwy na dim, oedd yno iddo ar y diwedd un. Byddwn yn ddiolchgar iddynt am byth.”

    Mae merch 17 oed Andy, Emily Treble, hefyd wedi mynegi ei thristwch gan ddweud y bydd colled fawr ar ôl ei thad.

    Dywedodd: “Roedd yn ddyn mor hyfryd, rydw i’n falch o’i alw’n dad i mi. Mae wedi fy helpu drwy gymaint ac mae wedi bod yno i mi bob amser."

    Dywedodd David Bevan, Rheolwr Theatr yn Ysbyty Maelor Wrecsam:

    “Roedd Andy yn gydweithiwr annwyl iawn ac yn ffrind i ni gyd. Mae ei farwolaeth wedi gadael bwlch yn ei deulu theatr a bydd gan bawb hiraeth amdano. Roedd Andy yn aelod gofalgar, trugarog o’r tîm, oedd yn gweithio’n galed bob amser ac roedd ganddo synnwyr digrifwch oedd yn ein cyffwrdd i gyd.

    Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Simon Dean a’r Cadeirydd Mark Polin: “Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu, ffrindiau a chydweithwyr Andy ar yr adeg hynod drist yma. Mae pob marwolaeth o COVID-19 yn ddinistriol, ond pan fo’n gydweithiwr, mae hyd yn oed yn fwy ingol.

    “Roedd Andy yn falch o weithio i’r Gwasanaeth Iechyd a rhoddodd ei yrfa i ofalu am eraill. Roedd wedi gweithio yn y Maelor am bron i 40 mlynedd ac roedd ei gydweithwyr yn meddwl y byd ohono, ac yn ei ddisgrifio fel dyn gofalgar, tosturiol, a oedd yn gweithio’n galed.”

    TeyrngedFfynhonnell y llun, Llun teulu
  9. Cynhadledd Llywodraeth Cymru ar fin cychwynwedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Prif Weithredwr y GIG, Andrew Goodall, fydd yn siarad yng nghynadledd Llywodraeth Cymru yn y man.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Rhybudd dau gynghorydd sydd â'r feirwswedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Cyngor Sir Penfro

    Mae dau o gynghorwyr Sir Benfro sydd â haint coronafeirws yn annog pobl i ufuddhau i gyfyngiadau y llywodraeth ac aros adref.

    Mae Thomas ac Alison Tudor yn gweithio i'r GIG yn y sir.

    Mae'r ddau wedi cael prawf positif o COVID-19 ac wedi dioddef symptomau o'r haint yn ystod y pythefnos diwethaf.

  11. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 12:07 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Twitter

    Dywed Heddlu'r Gogledd fod cerbyd a threlar gafodd eu defnyddio i rybuddio ymwelwyr i beidio a dod i'r Bala i hunan ynysu fis diwethaf wedi eu dwyn.

    Cafodd y cerbyd a'r trelar gryn sylw ar y pryd, wedi i rywrai ysgrifennu neges di flewyn ar dafod ar eu hochr.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. 'Rhowch ryddid i blant Barcelona'wedi ei gyhoeddi 11:55 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Mae maer Barcelona wedi galw ar y llywodraeth i "roi rhyddid i blant y ddinas".

    Mae cyfyngiadau wedi bod mewn grym yn Sbaen ers 14 Mawrth a does dim hawl gan y plant i adael y cartref.

    Mewn neges Facebook, dywedodd Ada Colau, ei bod hi fel rhieni eraill yn bryderus am "iechyd seicolegol ac emosiynol" ei phlant.

    Ada ColauFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Newyddion o fyd y campauwedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Twitter

    Ychydig iawn o chwaraeon sydd wedi ei gynnal yn ystod yr wythnosau diwethaf o achos gwaharddiadau Covid-19.

    Yn y byd seiclo roedd ansicrwydd am gynnal y Tour De France eleni, ond wedi'r cyhoeddiad na fydd y ras yn mynd yn ei blaen am y tro, mae'r Cymro Geraint Thomas wedi croesawu'r newyddion.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Sêl bendith i beiriant anadlu o Frychdynwedi ei gyhoeddi 11:41 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Twitter

    Mae cynhyrchwyr peiriannau anadlu ym Mrychdyn, sydd yn paratoi cyfarpar newydd ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd, yn dweud fod eu peiriannau wedi derbyn sêl bendith y rheoleiddwyr.

    Fe fydd y peiriant anadlu cyntaf i gael ei gynhyrchu gan gonsortiwm sydd yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Airbus a Siemens yn cael ei anfon i ysbyty yn fuan iawn medd llefarydd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Meddyliwch cyn rhannu neu newid gwybodaeth ar-lein...wedi ei gyhoeddi 11:37 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Yn dilyn y rhybudd heddiw ynghylch nifer "digynsail" o sgamiau yn ymwneud â'r coronafeirws, dyma un enghraifft yn ardal Heddlu'r Gogledd...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Lletya gweithwyr NHS ym Mhwllheliwedi ei gyhoeddi 11:31 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Mae parc gwyliau ger Pwllheli ymhlith lleoedd sy'n darparu llety dros dro i nyrsys y GIG yn ystod haint coronafeirws.

    Cwmni Haven sydd biau Hafan y Môr ac ar hyn o bryd mae staff sy'n gweithio yn ysbyty Bryn Beryl yn aros yno.

    Dywedodd llefarydd eu bod yn gwneud trefniadau i ddarparu llety pellach i weithwyr y GIG.

  17. Sut mae bod yn slic ar Skype?wedi ei gyhoeddi 11:24 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    BBC Radio Cymru

    Un o'r pynciau a fydd yn cael sylw Dros Ginio ddydd Iau am 13:00. Sylw hefyd i ryddid y wasg gyda Gwenda Richards a'r diweddaraf o bwyllgor COBRA.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Gwirfoddoli yn y gorllewin - rhagor:wedi ei gyhoeddi 11:05 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Cyngor Sir Gaerfyrddin

    2/2

    Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Mae'n hyfryd gweld cynifer o bobl yn gwirfoddoli i helpu yn ystod y pandemig coronafeirws.

    "Rydym yn ddiolchgar iawn i bob un sydd wedi cynnig ein helpu i sefydlu'r ysbytai maes hanfodol hyn ar gyfer y GIG, ac mae ysbryd cymunedol pobl wedi fy llorio.

    "Dyma beth mae SirGâredig yn ei feddwl, sef helpu ein gilydd a bod yn garedig, yn enwedig ar adegau anodd.

    "Felly os hoffech chi wirfoddoli, cofrestrwch gyda ni, ac os oes angen help neu gefnogaeth arnoch chi mewn unrhyw ffordd, rhowch wybod i ni.

    "Drwy weithio gyda'n gilydd, fe ddown ni drwyddi."

    Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Rydym mor ddiolchgar i'r holl wirfoddolwyr a busnesau sydd am helpu'r GIG ac awdurdodau lleol. Heb y gefnogaeth hon ni fyddai'n bosibl i ni gyflawni cymaint mewn cyn lleied o amser. Diolch am gefnogi eich GIG. Gyda'n gilydd fe wnawn lwyddo."

  19. Cannoedd yn gwirfoddoli yn y gorllewinwedi ei gyhoeddi 11:03 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Cyngor Sir Gaerfyrddin

    1/2

    Mae mwy na 360 o bobl wedi gwirfoddoli i helpu i osod celfi a chyfarpar ym mhedwar ysbyty maes Sir Gaerfyrddin.

    Mae'r cyngor lleol yn troi canolfannau hamdden Caerfyrddin a Llanelli, Canolfan Selwyn Samuel, ac ysgubor Parc y Scarlets yn Llanelli, yn ysbytai dros dro i ddarparu gwelyau ychwanegol ar gyfer y GIG.

    Cwta 24 awr ar ôl i'r apêl am wirfoddolwyr gael ei gwneud, roedd mwy na 360 o bobl wedi cynnig cynorthwyo.

    Mae'r gwirfoddolwyr wedi cael eu rhannu rhwng y pedwar safle a byddant yn helpu i ddadlwytho danfoniadau, a dadbacio a gosod celfi a chyfarpar medd y cyngor.

    Mae'r cyngor hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi meysydd gwasanaeth critigol eraill, felly os ydych yn unigolyn, yn fusnes neu'n sefydliad sy'n gallu estyn llaw, ymunwch â'n rhwydwaith o wirfoddolwyr ar ein llwyfan ar-lein newydd Connect2Carmarthenshire.

    Ei nod yw cysylltu pobl sy'n cynnig cymorth â'r rhai sydd angen cymorth, fel rhan o'n hymgyrch SirGâredig – Rhannu Caredigrwydd Sir Gâr.

    GwirfoddolwyrFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Gaerfyrddin
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwirfoddolwyr yng Nghanolfan Selwyn Samuel, Llanelli

  20. Cyngor ar sut i gadw'n brysurwedi ei gyhoeddi 10:49 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020