Crynodeb

  • 32 yn rhagor o farwolaethau yng Nghymru gan ddod â'r cyfanswm i 495

  • Triniaeth arbrofol ar gyfer cleifion coronafeirws yn 'llygedyn o obaith'

  • Ehangu cymorth iechyd meddwl i bob gweithiwr iechyd

  1. Dyn o'r gogledd yn sownd ym Mheriwwedi ei gyhoeddi 10:40 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Mae teulu dyn o Wrecsam oedd i fod i ddychwelyd o Beriw ddoe wedi dweud fod yr awdurdodau wedi anghofio amdano.

    Mae Alex Foulkes wedi ei gadw yn ei ystafell am 23 awr y dydd yng ngwesty Pariwana yn Cusco ers 15 Mawrth wedi i 160 o'r gwesteion yno gael eu rhoi dan gwarantîn.

    Roedd disgwyl y byddai'n hedfan o Cusco i Lima ag yna adref i'r DU, ond dywed ei rieni fod awyren filwrol oedd i fod i'w gludo ag eraill i Lima o Cusco wedi gwrthod eu derbyn ar yr hediad.

    Mewn neges ar Facebook, dywedodd ei fam, Gill: "Maen nhw'n dal i aros...maen nhw wedi cael eu anghofio ac rydym mewn gwewyr llwyr."

    CuscoFfynhonnell y llun, Andy Young
    Disgrifiad o’r llun,

    Strydoedd gweigion Cusco

  2. Cyfle i gael cynnyrch o Gymruwedi ei gyhoeddi 10:31 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Twitter

    Mae gwybodaeth isod ynglyn â sut mae cefnogi siopau lleol a chael cynnyrch o Gymru yn ystod cyfyngiadau haint coronafeirws.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. PPE i Gymru - rhagor am alwad Adam Pricewedi ei gyhoeddi 10:20 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    2/2

    Ychwanegodd Mr Price: "Mae gan y comisiwn y gallu yn y sefyllfaoedd hyn i ddechrau proses o ymchwiliad, a gorfodi llywodraeth San Steffan i godi'r gorchymyn yma i beidio gwerthu i gartrefi gofal yng Nghymru.

    "Dwi hefyd yn ymbil ar Lywodraeth Cymru i wneud yr un peth â Gogledd Iwerddon, drwy sicrhau ein bod ni'n archwilio pob cyfle posib i gael cyfarpar fewn, oherwydd mae'r pwysau am gynyddu wrth i'r stociau sydd ganddom ni ar hyn o bryd erydu.

    "Mae Gogledd Iwerddon eisoes wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda China, mae'r drws ar agor i ni yng Nghymru, felly beth am ei ddefnyddio?"

  4. PPE i Gymru - galw am ymyrraeth o Ewropwedi ei gyhoeddi 10:20 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    1/2

    Mae arweinydd Plaid Cymru wedi galw am ymyrraeth gan y Comisiwn Ewropeaidd i fynd i'r afael a gwerthiant offer diogelu iechyd PPE o fewn y DU.

    Mae cryn ddadlau wedi bod dros y dyddiau diwethaf, gydag awgrym fod rhai cwmniau Prydeinig yn ffafrio dosbarthu'r offer PPE i fyrddau iechyd yn Lloegr, cyn Cymru a'r Alban.

    Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf fore dydd Iau, dywedodd Adam Price:

    "Ry' ni'n gofyn i'r Comisiwn Ewropeaidd ymyrryd i ddweud wrth Llywodraeth San Steffan i beidio ag atal y saith prif ddarparydd ar gyfer cyfarpar gwarchodol ar gyfer gweithwyr y sector gofal yng Nghymru, rhag medru debyn archebion oddi wrthyn nhw.

    "Yn y cyfnod trosiannol ry' ni dal yn dod o dan fframwaith cyfreithiol yr UE, a ma' 'na reol eithaf sylfaenol bo' chi ddim yn gallu atal llif cynnyrch ar draws ffiniau - ac mae hynny'n wir hefyd o ran ffiniau o fewn gwladwriaethau.

    "Felly dy' chi methu atal cynnyrch rhag cael ei werthu yng Nghymru, sydd yn cael ei werthu yn Lloegr."

  5. Cymorth i gysgodwyr Ceredigionwedi ei gyhoeddi 10:11 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Tri chwmni'n cynhyrchu 'scrubs' i'r GIGwedi ei gyhoeddi 09:55 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Mae'r gwaith o gynhyrchu dillad meddygol, neu 'scrubs' ar gyfer y GIG ar fin cychwyn mewn tri safle ledled Cymru.

    Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Lee Waters fod y llywodraeth wedi cymryd camau ar unwaith i sicrhau ffabrig pwrpasol o fewn y DU, wedi i gadwyni cyflenwi o'r dwyrain pell ddod i ben yn ddisymwth yn gynharach eleni o achos Covid-19.

    Mae Elite Clothing Solutions yng Nglyn Ebwy, Blaenau Gwent, cwmni Brodwaith ar Ynys Môn a Worka Worka, yn Rhuthun, Sir Ddinbych yn paratoi i gynhyrchu'r dillad ar ran y llywodraeth.

    ScrubsFfynhonnell y llun, Reuters
  7. Angen egluro mwy i'r plant?wedi ei gyhoeddi 09:48 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Twitter

    Ydi'r plant yn gofyn nifer o gwestiynau am haint coronafeirws? Dyma un adnodd all fod o ddefnydd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Cymorth i bysgotwyr - ymateb y llywodraethwedi ei gyhoeddi 09:34 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    2/2

    "Be 'da ni eisiau rŵan ydi strategaeth yn y tymor hir inni gael ryw fath o farchnadoedd yn ôl inni gael gwerthu ein cynnyrch inni droi arian eto", meddai Sion Williams.

    "Mae o'n boen mawr inni. Roeddwn i'n siarad efo amryw o fy nghyd-bysgotwyr ac mae pawb yn poeni'n arw."

    Mae pysgotwyr Cymru fel arfer yn gwneud mwyafrif eu hincwm yn ystod y Gwanwyn a dechrau'r Haf gyda rhai, fel Sion yn allforio i bedwar ban byd.

    "Dwi'n allforio i dair marchnad, yr un yn Ewrop, yn Asia ac yma yng Nghymru a Phrydain ond bellach mae nhw gyd wedi dod i stop".

    Wrth ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd y Gweinidog Lesley Griffiths mai mesur tymor byr oedd y grantiau.

    Dywedodd fod angen i Gymru "ddod allan o'r cyfnod hwn" a gwneud yn siŵr fod y sector yn gallu ailgydio ynddi.

    Mae modd i bysgotwyr wneud cais am y grantiau drwy wefan Taliadau Gwledig Cymru, Llywodraeth Cymru.

  9. Angen cymorth i ddiogelu'r diwydiant pysgotawedi ei gyhoeddi 09:34 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    1/2

    Mae angen "strategaeth hir dymor" i ddiogelu'r diwydiant pysgota yn ôl llefarydd ar ran y Gymdeithas Bysgota yma yng Nghymru. Daw sylw Sion Williams wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi pecyn ariannol gwerth hyd at £10,000 i helpu rhai o bysgotwyr Cymru.

    Bwriad y grant yw cynnig cefnogaeth i bysgotwyr; nifer ohonynt fydd heb dderbyn nawdd o gynlluniau'r Llywodraeth sydd eisoes yn bodoli. Yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths mae'n "anodd dweud be fydd yr effaith hir dymor ar y diwydiant".

    Mae oddeutu 850 o bobl yn pysgota oddi ar arfordiroedd Cymru gyda 460 o gychod wedi eu cofrestru. Bydd y grantiau yn cael eu clustnodi yn ôl maint cychod. Er bod y grantiau yn cael eu croesawu mae 'na alw o hyd am gynlluniau mwy parhaol.

    Pysgota
    Disgrifiad o’r llun,

    Sion Williams

  10. Llun sy'n dod â gwênwedi ei gyhoeddi 09:21 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Merched y Wawr

    Bob dydd mae Merched y Wawr yn rhoi llun ar eu cyfrif trydar - llun sy'n dod â gwên - medd Tegwen Morris, y Gyfarwyddwraig Genedlaethol a dyma un heddiw ...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Dim teithio ond os yn angenrheidiol mae newidiadauwedi ei gyhoeddi 09:15 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Twitter

    Y cyngor yw peidio teithio os nag oes rhaid ond os yw'r daith yn angenrheidiol mae newidiadau i amserlenni ar draws Cymru.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Ehangu llinell gymorth iechyd meddwlwedi ei gyhoeddi 09:08 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae parafeddygon a nyrsys sydd wedi ymddeol yn cael eu recriwtio er mwyn ehangu llinell gymorth iechyd meddwl ar gyfer gweithwyr rheng flaen GIG Cymru, wrth i'r pryder am eu hiechyd meddwl gynyddu.

    Dim ond meddygon oedd a chyfle i alw'r llinell gymorth tan nawr, ond bellach gall nyrsys, parafeddygon, ffisiotherapyddion, myfyrwyr a gweithwyr rheng flaen eraill yn cynnwys staff gweinyddol gael mynediad i'r gwasanaeth.

    Yn ôl pennaeth gwasanaethau lles un o fyrddau iechyd Cymru, mae meddygon yn wynebu straen aruthrol, yn cynnwys gwneud penderfyniadau moesol anodd tu hwnt wrth ddelio a'r argyfwng coronafeirws.

    Hyd yma, mae dros 2,000 o gyn-feddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd eraill wedi ailymuno â'r GIG i helpu trin cleifion coronafeirws.

    Mae Llywodraeth Cymru'n rhoi £1m ychwanegol i'r cynllun Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol.

    nyrsFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Gall gweithwyr iechyd rheng flaen ddioddef PTSD yn sgil y pandemig, medd arbenigwyr

  13. 'Rhaid profi'n barhaus'wedi ei gyhoeddi 08:52 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Plaid Cymru

    Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf roedd Adam Price - arweinydd Plaid Cymru yn feirniadol o fethiant llywodraethau Cymru a'r DU i gynnal digon o brofion.

    Dywedodd mai camgymeriad oedd gwyro oddi wrth benderfyniad Sefydliad Iechyd y Byd o brofi, brofi, brofi ynghanol Mawrth.

    Mae'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio cynyddu nifer y profion ond mae'n beirniadu'r ffaith na chyrhaeddwyd y targed o 5,000 prawf y dydd erbyn canol Ebrill.

    Mae'n ychwanegu mai profi parhaus sydd wedi llwyddo i atal marwolaethau mewn gwledydd eraill.

  14. Yr ysgolion i gynnig cyngor cwnselawedi ei gyhoeddi 08:41 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Gweinidog Addysg am bwysleisio bod ysgolion Cymru yn gallu cynnig gwasanaeth cwnsela wrth i'r cyfyngiadau barhau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Yr un yw'r neges ...wedi ei gyhoeddi 08:24 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Traffig Cymru

    Mae Traffig Cymru yn dymuno gweld ffyrdd gwag eto heddiw.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Twyll ar gynnyddwedi ei gyhoeddi 08:11 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r awdurdodau yng Nghymru yn delio gyda nifer "digynsail" o sgamiau wrth i dwyllwyr geisio manteisio ar ymlediad coronafeirws, yn ôl asiantaeth Safonau Masnach.

    Ymhlith y sgamiau'n ymwneud â COVID-19 mae gwasanaethau siopa twyllodrus a thwyllwyr yn honni bod angen archwilio tanciau dŵr am y feirws er mwyn cael mynediad at dai.

    Dywedodd Safonau Masnach Cymru bod mathau newydd o sgamiau - rhai wyneb yn wyneb ac ar-lein - yn ymddangos bob dydd.

    Mae pryder y bydd twyllwyr yn manteisio wrth i fwy o bobl sy'n hŷn neu'n agored i niwed droi at y weFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae pryder y bydd twyllwyr yn manteisio wrth i fwy o bobl sy'n hŷn neu'n agored i niwed droi at y we

  17. Cyfle i ffonio Post Cyntafwedi ei gyhoeddi 08:04 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â busnes neu iechyd mae cyfle i'w gofyn mewn rhifyn estynedig o'r Post Cyntaf rhwng 8:30 a 9:00.

    Ffoniwch 03703 500500

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Treialu triniaeth arbrofol ar gyfer coronafeirwswedi ei gyhoeddi 07:59 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    Ein prif stori bore 'ma yw bod ysbyty yng Nghymru sy'n treialu triniaeth arbrofol ar gyfer cleifion coronafeirws wedi'i disgrifio fel "llygedyn o obaith."

    Y nod yw cynnig plasma o waed cleifion sydd wedi gwella'n llwyr i'r sawl sy'n dioddef yn ddifrifol.

    Gall y gwrthgyrff yn yr hylif eu helpu i frwydro yn erbyn yr haint.

    Gobaith Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd yw dechrau cynnig y driniaeth fel rhan o astudiaeth ymchwil o fewn mis.

    plasmaFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Bore dawedi ei gyhoeddi 07:58 Amser Safonol Greenwich+1 16 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae'n ddydd Iau, 16 Ebrill. Croeso i'n llif byw dyddiol.

    Gydol y dydd fe gewch chi'r holl bytiau newyddion diweddaraf am coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt.

    Bore da i chi.