Crynodeb

  • 41 o farwolaethau ddydd Sul gan ddod â'r cyfanswm i 575, a 334 achos positif arall wedi eu cofnodi

  • System brofi Covid-19 yng Nghymru ddim wedi bod yn 'ddigon da' medd y Prif Weinidog

  • Dynes o Aberystwyth yn poeni na fydd ei thad, sydd mewn cartref gofal, yn ei hadnabod wedi i'r cyfyngiadau ddod i ben

  • Cannoedd yn gwnïo gwisgoedd i helpu'r GIG

  1. Nos dawedi ei gyhoeddi 17:05 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    A dyna ni gan dîm y llif byw ar ddydd Sul.

    Heddiw cadarnhad bod 41 yn rhagor o farwolaethau yn Nghymru ac mae nifer marwolaethau y rhai sydd wedi cael prawf Covid-19 positif bellach yn 575.

    Ddydd Sul hefyd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn dweud nad yw'r system brofi yng Nghymru wedi bod yn ddigon da.

    Y newyddion diweddaraf ar wefan Cymru Fyw ac fe fydd y llif newyddion byw yn ôl bore fory.

    Tan hynny - nos da a diolch am ddarllen.

  2. 'Stori dorcalonnus y tu ôl i bob ystadegyn'wedi ei gyhoeddi 16:58 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    Yng nghynhadledd y wasg llywodraeth San Steffan, dywedodd yr ysgrifennydd addysg, Gavin Williamson, bod nifer y marwolaethau yn y DU o'r sawl a gafodd brawf Covid-19 positif yn 16,060.

    Dros nos roedd nifer y marwolaethau yn 596.

    "Tu ôl i bob ystadegyn mae yna stori dorcalonnus," ychwanegodd.

    Dywedodd hefyd na allai roi dyddiad pryd y byddai ysgolion Lloegr yn agor - rhaid i nifer y marwolaethau a nifer yr achosion o haint coronafeirws ostwng cyn llacio'r un cyfyngiad, meddai.

  3. 'System brofi Covid-19 yng Nghymru ddim yn ddigon da'wedi ei gyhoeddi 16:41 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dyw'r system i brofi am coronafeirws yng Nghymru ddim wedi bod yn "ddigon da" medd y Prif Weinidog.

    Wrth amlinellu sut y bydd y broses yn cael ei "symleiddio" dywedodd Mark Drakeford na fydd y llywodraeth yn cyrraedd ei tharged o 5,000 o brofion y dydd erbyn canol mis Ebrill.

    Dyna oedd yr addewid gwreiddiol roddwyd nôl ym mis Mawrth.

    Y capasiti dyddiol ar hyn o bryd yw 1,300 y diwrnod.

    Ond mae data diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos mai dim ond 783 o brofion gafodd eu gwneud ddydd Gwener.

    Mae'r ffigyrau dyddiol yn gyson wedi bod o dan 1,000 ac mae Mr Gething wedi cyfaddef nad ydyn nhw wedi gallu "cwrdd â'r nod."

    Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Teyrngedau i ddau weithiwr gofal iechydwedi ei gyhoeddi 16:24 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i ddau weithiwr oedd yn gweithio yn y sector gofal iechyd yng Nghymru - y ddau wedi marw wedi iddyn nhw gael triniaeth ar gyfer haint coronafeirws.

    Dywedodd Prifysgol Abertawe bod Brian Mfula yn ddarlithydd "ysbrydoledig, cynnes a hael". Roedd e'n darlithio i ddarpar nyrsys ym maes iechyd meddwl.

    Dywedodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe bod Jenelyn Carter yn gynorthwy-wraig gofal iechyd "ofalus a chariadus" - roedd hi'n gweithio yn Ysbyty Treforys.

    Roedd Brian Mfula a Jenelyn Carter yn gweithio yn ardal AbertaweFfynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe/GIG Bae Abertawe
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Brian Mfula a Jenelyn Carter yn gweithio yn ardal Abertawe

  5. Nifer yr achosion fesul awdurdod lleolwedi ei gyhoeddi 16:03 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae'r map isod yn dangos nifer yr achosion o haint coronafeirws fesul awdurdod lleol.

    Nifer yr achosion fesul awdurdod lleol
    Disgrifiad o’r llun,

    Nifer yr achosion fesul awdurdod lleol

  6. 'Ydi mae'n iawn i boeni'wedi ei gyhoeddi 15:40 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    Twitter

    Cyngor amserol wrth siarad gyda'r plant ...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Golwg fanylach ar y ffigyrauwedi ei gyhoeddi 15:21 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 575 o bobl yng Nghymru wedi marw wedi iddynt gael prawf positif coronafeirws.

    Mae'r nifer yn cynnwys marwolaethau mewn ysbytai ac o bosib rhai marwolaethau a gofnodwyd yn y gymuned - ee mewn cartrefi gofal.

    Mae'r nifer mwyaf o farwolaethau - 195 - wedi bod yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan sy'n trin cleifion o Flaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Torfaen a sir Fynwy.

    Yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro mae nifer y marwolaethau yn 137 ac yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg mae'r nifer yn 136.

    Nifer y marwolaethau yng Nghymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Nifer y marwolaethau yng Nghymru

    Nifer yr achosion newydd yng Nghymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Nifer yr achosion newydd yng Nghymru

  8. Croeso gofalus i gynllun ariannu digartrefeddwedi ei gyhoeddi 15:03 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    Ers cyfyngiadau haint coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £10m i gynghorau sir i gynnig llety dros dro i bobl ddigartref.

    Ond er yn croesawu'r cynlluniau hynny, mae elusennau yn poeni y gallai pobl fod nôl yn cysgu ar y strydoedd pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio.

    Ond dywedodd Andrew Templeton, prif weithredwr elusen YMCA yn y brifddinas, bod y pandemig wedi creu problemau ychwanegol gan fod yna brinder staff a gwasanaethau ymarferol.

    "Fel ag i unrhyw un, mae lockdown measures yn galed ac mae'r effaith ar iechyd pobl wrth i'r amser fynd ymlaen yn fwyfwy difrifol," meddai.

    "Does dim laundrette 'da ni ac mae pethau syml fel golchi dillad yn anodd.

    "Mae'n rhaid cael mwy o services cymunedol i gadw pobl gyda ni... os oes dim byd i 'neud ma' nhw'n mynd i fynd allan ar y stryd a dyna le mae'r broblem yn mynd i fod."

    digartrefeddFfynhonnell y llun, bbc
  9. Effaith canslo arholiadau ar ddisgyblionwedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    Mae @Senedd Ymchwil wedi dadansoddi effaith y penderfyniad i ganslo arholiadau ar ddisgyblion ac mae'r casgliad i'w weld isod.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. 41 yn rhagor wedi marw yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 14:09 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae pedwar deg un yn rhagor o bobl a gafodd brawf covid-19 positif yng Nghymru wedi marw - ac mae'r cyfanswm bellach yn 575.

    Mae'r ffigwr dyddiol a gafodd ei gyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys marwolaethau mewn ysbytai ac o bosib yn y gymuned a chartrefi gofal.

    Mae 334 o bobl yn rhagor wedi cael prawf coronafeirws positif - gan ddod â'r cyfanswm i 7,270 er mae'n debyg bod y nifer gwirioneddol yn uwch gad nad yw pawb yn cael eu profi.

  11. Gwnïo gwisgoedd i'r gweithwyr iechydwedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae athrawes tecstilau wedi llwyddo i recriwtio dros 200 o wirfoddolwyr i wnïo gwisgoedd i'r gweithwyr iechyd yn sgil y coronafeirws.

    Cafodd Nia Clements sydd yn byw ym mhentref Creigiau ger Caerdydd y syniad ar ôl cael sgwrs gydag un o'i phlant.

    "Tua tair wythnos yn ôl, wrth siarad â Megan Clements fy merch hynaf sy'n 25 oed - ma' hi yn 'respiratory Physio' yn Ysbyty Queens yn Nottingham - wrth sgwrsio 'da hi dros FaceTime, fe ddywedodd ei bod hi yn gweld fod niferoedd y PPE yn isel, yn enwedig pan ei bod hi 'on call' yn ystod y nos," meddai.

    Penderfynodd gysylltu gyda Llywodraeth Cymru er mwy cynnig helpu gan feddwl bod y sefyllfa yn debyg yma.

    O fewn diwrnod cafodd alwad ffôn yn derbyn ac fe aeth ati i chwilio am wirfoddolwyr.

    Cafodd ymateb "anhygoel o bob rhan o Gymru" ar ôl bod ar Facebook meddai.

    scrubsFfynhonnell y llun, Lucy Grace
  12. Sylwadau'r Gweinidog Addysgwedi ei gyhoeddi 13:24 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    Mae cryn drafodaeth wedi bod yn ystod y bore am ailagor ysgolion - dyma sylwadau y Gweinidog Addysg ar ei chyfrif twitter yn gynharach.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Arian i hosbisauwedi ei gyhoeddi 13:01 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r gweinidog iechyd wedi cyhoeddi bod hosbisau yng Nghymru i dderbyn £6.3m yn rhagor o arian wrth i nifer o siopau orfod cau a digwyddiadau codi arian gael eu canslo.

    Dywedodd Vaughan Gething: "Rwy'n hynod falch gallu cyhoeddi y gefnogaeth yma i hosbisau yn ystod y cyfnod anodd hwn."

  14. Y diweddaraf am hyfforddwyr a chwaraewyr rygbiwedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    Chwaraeon BBC Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Dysgu gwersiwedi ei gyhoeddi 12:31 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    Mae gweinidog yn llywodraeth San Steffan, Michael Gove, wedi dweud ar raglen Andrew Marr fod "pob llywodraeth yn gwneud camgymeriadau gan gynnwys un ni'n hunain".

    Dywedodd: "Ry'n ni'n dysgu a gwella bob dydd.

    "Yn y dyfodol bydd yna gyfle i ni edrych yn ôl ac i ddysgu gwersi dwys o hyn."

    Daw ei sylwadau wedi i lywodraeth San Steffan gael ei chyhuddo o fod yn araf yn ymateb i argyfwng coronafeirws.

  16. Yr un yw'r neges ...wedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Os yn mynd allan i wneud ymarfer corff - y neges o hyd yw gwneud hynny'n lleol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. 'Proses graddol fydd agor ysgolion'wedi ei gyhoeddi 11:43 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth gael ei holi ar BBC Politics Wales dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y bydd y cyfyngiadau yn dod i ben fesul cam.

    Gallai rhai busnesau agor, meddai, yn dilyn cyngor arbenigol.

    Dywedodd y gallai mesurau sydd wedi cael eu cyflwyno gan archfarchnadoedd gael eu hymestyn.

    Wrth siarad am ysgolion dywedodd bod y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn "gweithio ar gynllun sut mae ailagor ysgolion".

    "Byddwn yn gwneud hynny pan fydd tystiolaeth feddygol yn dweud wrthym ei bod yn ddiogel - proses graddol fydd hynny wedi ei seilio ar dystiolaeth."

  18. Beth yw hyd 2 fetr?wedi ei gyhoeddi 11:31 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

    Ydi pawb yn gwybod beth yw hyd 2 fetr? Dyma ganllaw defnyddiol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. 'A fydd Dad yn 'nabod fi tro nesa?'wedi ei gyhoeddi 11:12 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    BBC Radio Cymru

    Ar raglen Bwrw Golwg ddydd Sul am 12.30 bydd Alison Morgans o Aberystwyth yn rhannu ei phrofiadau.

    Mae tad Alison yn un o breswylwyr cartref Hafan y Waun yn y dre - cartref lle mae y mwyafrif o'r 90 preswyliwyr yn byw gyda dementia.

    Dywedodd Alison Morgans ei bod yn hynod o falch bod ei thad, Dai Davies, yn cael gofal da a'i fod yn hapus.

    Er hynny ag yntau yn byw gyda dementia mae'n poeni na fydd e'n ei hadnabod hi y tro nesaf y bydd y ddau'n cyfarfod.

    "Be sy'n gofidio fi mwy nawr," meddai, "yw beth fydd yn digwydd nesaf.

    'Fydd e'n nabod fi?'

    "Fydd e wedi anghofio pwy ydw i? Ro'n i'n arfer mynd ato fe am ryw awr, bump neu chwech gwaith yr wythnos a weithiau fydden i'n gorfod ei atgoffa pwy o'n i.

    "Dyw e ddim yn gwybod be sy'n digwydd. Mae e'n hapus yn ei fyd ei hunan a dyna sy'n cadw fi fynd ar hyn o bryd ond ma' sbel nawr ers i fi weld e a thybed fydd e'n 'nabod fi tro nesaf?"

    Mae'n canmol staff y cartref yn fawr a'u hymdrechion i gadw mewn cysylltiad ond dywed ei bod yn ysu am i'r cyfnod ddod i ben yn fuan.

    Y stori yn llawn ar Bwrw Golwg am 12.30

    Disgrifiad,

    Julie Thomas yn cysuro Dai Davies, tad Alison, yng nghartref Hafan y Waun yn Aberystwyth

  20. Gwisgo masg?wedi ei gyhoeddi 10:55 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    Plaid Cymru

    Dywed arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, y gallai olrhain ac ynysu pobl sy'n dod i gysylltiad â phobl sydd wedi cael prawf positif o Covid-19 atal yr haint rhag lledu.

    Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement, Radio Wales dywedodd bod yn rhaid hyfforddi pobl i wneud hyn a bod yn rhaid edrych eto ar gyngor Sefydliad Iechyd y Byd ar wisgo masgiau - "mae'n ymddangos bod y cyngor yn newid ac mae'n rhaid i ni gynllunio nawr sut mae darparu'r masgiau i bobl Cymru," meddai.

    Mae maer Llundain, Sadiq Khan, wedi dweud y dylai gwisgo masg yn y ddinas fod yn orfodol ac mae wedi galw ar lywodraeth y DU i newid eu cyngor ar y mater.

    adam priceFfynhonnell y llun, Getty Images