Crynodeb

  • 41 o farwolaethau ddydd Sul gan ddod â'r cyfanswm i 575, a 334 achos positif arall wedi eu cofnodi

  • System brofi Covid-19 yng Nghymru ddim wedi bod yn 'ddigon da' medd y Prif Weinidog

  • Dynes o Aberystwyth yn poeni na fydd ei thad, sydd mewn cartref gofal, yn ei hadnabod wedi i'r cyfyngiadau ddod i ben

  • Cannoedd yn gwnïo gwisgoedd i helpu'r GIG

  1. Cofiwch ofyn am help meddygolwedi ei gyhoeddi 10:36 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn bwysig cael asesiad neu driniaeth feddygol os ydych yn poeni am gyflwr eich iechyd neu aelod o'r teulu - does dim rhaid i'r salwch fod yn gysylltiedig â covid-19.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Wedi adnabod y llais?wedi ei gyhoeddi 10:17 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    BBC Radio Cymru

    Wedi adnabod y llais? Bydd y Parchedig Cen Llwyd yn cyflwyno'r oedfa am 12 ar Radio Cymru.

    Ac ydi mae e yn ei sliperi ond yn ei eiriau fe "ddim yn ei byjamas"!.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Cynlluniau i gael mwy o brofionwedi ei gyhoeddi 10:08 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    Hefyd heddiw y gweinidog iechyd yn amlinellu ei gynlluniau i gael "gwared â biwrocratiaeth" o system brofi coronafeirws Cymru.

    Mae Vaughan Gething eisiau gweld "cynnydd cyflym" mewn profion ar gyfer gweithwyr allweddol.

    Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi llwyddo i gyrraedd ei tharged o brofi 5,000 o bobl y dydd erbyn canol Ebrill ac maent wedi cael eu beirniadu yn chwyrn am hynny.

    Dangosodd data Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Gwener mai 783 o brofion gafodd eu gwneud ar y diwrnod hynny. Cyhoeddi newidiadau.

    Mae'r ffigyrau dyddiol yn gyson wedi bod o dan 1,000 ac mae Mr Gething wedi cyfaddef nad ydyn nhw wedi gallu "cwrdd â'r nod".

    vaughan gethingFfynhonnell y llun, bbc
  4. Dim llythyr i deulu Macsenwedi ei gyhoeddi 09:55 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    Ein prif stori ni'r bore 'ma yw cwpl sydd yn ofalwyr llawn amser i'w mab, am fod ganddo gyflwr genetig prin, yn cwestiynu pam nad ydyn nhw wedi derbyn llythyr 'amddiffyn' gan Lywodraeth Cymru.

    Mae cyflwr Macsen, sydd yn wyth oed, yn achosi epilepsi a symptomau tebyg i barlys yr ymennydd.

    Er bod tua 80,000 o lythyrau wedi eu hanfon i'r bobl fwyaf bregus yng Nghymru yn eu rhybuddio i hunan ynysu am 12 wythnos i amddiffyn eu hunain, dyw Matthew a Lisa Williams o bentref Y Gellifedw yn Abertawe ddim wedi derbyn y llythyr.

    Dywed Mrs Williams ei bod hi'n "annealladwy" nad ydyn nhw wedi cael llythyr.

    Yn ôl Llywodraeth Cymru mae gan feddygfa'r cwpl yr awdurdod i roi llythyrau 'amddiffyn' i gleifion.

    teulu Macsen
  5. Bore dawedi ei gyhoeddi 09:55 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae'n fore Sul, 19 Ebrill, a dyma'n llif byw arbennig a fydd yn dod â'r newyddion diweddaraf am y pandemig coronfeirws yng Nghymru a thu hwnt.

    Bore da i chi!