Dim targedau newydd ar brofion coronafeirwswedi ei gyhoeddi 19:35 Amser Safonol Greenwich+1 20 Ebrill 2020
Mark Drakeford hefyd yn edrych ar dynhau'r rheolau o amgylch pobl ag ail gartrefi yng Nghymru.
Read MoreNaw person arall wedi marw o Covid-19 yng Nghymru, gan ddod â'r cyfanswm i 584
Gwyddonwyr yng Nghymru'n datblygu prawf newydd am coronafeirws
Galw am wneud mwy i warchod lleiafrifoedd ethnig rhag yr haint
Teyrnged i barafeddyg o Abertawe, Gerallt Davies, sydd wedi marw
Mark Drakeford hefyd yn edrych ar dynhau'r rheolau o amgylch pobl ag ail gartrefi yng Nghymru.
Read MoreBBC Cymru Fyw
A dyna ni ar y llif byw am heddiw - i'ch atgoffa chi o brif benawdau'r dydd:
Fe fyddwn ni 'nôl fory gyda rhagor o'r newyddion diweddaraf i chi am y pandemig coronafeirws ond am y tro, noswaith dda i chi.
Arwr annisgwyl yn codi calonnau ar un o stadau tai Y Bala yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Read MoreMae rheolwr cyffredinol Rheilffordd Llangollen wedi dweud fod angen codi tua £250,000 er mwyn cynnal costau'r busnes er eu bod nhw ar gau ar hyn o bryd oherwydd coronafeirws.
Dywedodd Liz McGuinness fod 35 o staff wedi cael eu rhoi ar gynllun saib y llywodraeth, ond bod costau ychwanegol yn parhau.
Ychwanegodd ei bod yn gobeithio y byddan nhw'n cael ailagor erbyn yr haf os fydd rhai cyfyngiadau'n cael eu codi erbyn hynny.
S4C
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yng nghynhadledd i'r wasg Llywodraeth y DU y prynhawn 'ma, mae'r Canghellor Rishi Sunak wedi bod yn ateb cwestiynau ar PPE.
Dywedodd bod y llywodraeth yn parhau i geisio sicrhau rhagor o offer, gyda mwy wedi cyrraedd o Myanmar heddiw ond problemau o hyd gyda llwyth oedd i fod i gyrraedd o Dwrci.
Ond dywedodd Mr Sunak ei bod hi'n "glir iawn" na fydd y cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu codi yn fuan, a bod y rhagolygon economaidd yn parhau i edrych yn "heriol".
Mynnodd fodd bynnag nad oedd y llywodraeth wedi bod yn rhy araf i ganslo digwyddiadau chwaraeon mawr pan oedd hi'n dechrau dod yn amlwg fod y feirws yn ymledu.
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi bod yn rhoi teyrnged i'w haelod cyntaf i farw o Covid-19.
Roedd Gerallt Davies yn barafeddyg yng ngorsaf Cwmbwrla yn Abertawe.
Dywedodd Jason Killens, prif weithredwr y Gwasanaeth Ambiwlans, fod yna golled fawr ar ei ôl.
Fe wnaeth Mr Davies ymuno â'r gwasanaeth yn 1994, gan dderbyn anrhydedd MBE yn 2019 am ei wasanaeth wrth ddarparu gwasanaethau cymorth cyntaf yng Nghymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae staff wedi bod yn rhoi cymeradwyaeth wrth i'r claf cyntaf adael Ysbyty Gwynedd ym Mangor ar ôl derbyn triniaeth yn yr uned gofal ddwys ar ôl diagnosis o Covid-19.
Fe fydd Brian Davies, 69, o Gaergybi yn cael dychwelyd adref ar ôl bod yn yr ysbyty ers 30 Mawrth.
Dywedodd y gyrrwr tacsi ei fod nawr yn bwriadu trefnu gweithgareddau codi arian yn y dyfodol er mwyn diolch i'r rhai wnaeth ofalu amdano.
"Byddaf o hyd yn ddiolchgar i staff Ysbyty Gwynedd, maen nhw wedi achub fy mywyd."
BBC Radio Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Fe wnaeth chwaraewr bacbib ganu alawon Myfanwy, Cwm Rhondda a Pererin Wyf cyn y seremoni i agor Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm Principality, Caerdydd yn gynharach ddydd Llun.
Cafodd Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ei addasu yn ysbyty gyda 2,000 o wlâu er mwyn ysgafnu’r baich ar y gwasanaeth iechyd yn ystod argyfwng coronafeirws.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cyngor Sir Penfro
Dywed Cyngor Sir Penfro eu bod yn dal i dderbyn adroddiadau o bobl yn teithio i dai haf yn yr ardal.
Mae'r canllawiau yn glir, meddai llefarydd, sef bod yn rhaid i bobl aros yn eu prif gartref, ac nad yw teithio ar gyfer gwyliau neu i ail gartrefi yn cael ei ystyried yn daith angenrheidiol.
Dros gyfnod Gŵyl y Pasg fe wnaeth yr heddlu a swyddogion y cyngor stopio 1,660 o gerbydau gan roi 39 rhybudd o ddirwy i'r rhai oedd wedi gadael eu cartrefi heb reswm digonol.
Dywedodd llefarydd fod swyddogion yn parhau i gadw llygad ar y ffyrdd ddydd a nos.
Dywed Trafnidiaeth Cymru fod staff wedi bod yn gweithio 24 awr y dydd i sicrhau bod trenau'n cael eu glanhau'n drylwyr gan sicrhau "diogelwch a llesiant y gweithwyr allweddol sy'n defnyddio ei wasanaethau.
Dywedodd llefarydd fod glanhawyr ychwanegol wedi cael eu cyflogi ar gyfer y shifftiau dydd a nos mewn depos trenau ledled rhwydwaith Cymru a'r Gororau.
"Rydyn ni'n defnyddio cynnyrch glanhau gwrth-feirysol sy'n diogelu am saith diwrnod, ac rydyn ni'n glanhau trenau'n drwyadl o leiaf bob 24 awr, ac rydyn ni'n glanhau pwyntiau cyswllt amlwg yn rheolaidd fel byrddau, handlenni ac unrhyw le lle mae pobl yn rhoi eu dwylo'n rheolaidd."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae arweinydd grŵp Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, wedi bod yn cyfarfod gyda chynrychiolwyr o Downing Street y bore 'ma.
Mae'n pwysleisio y dylai holl wledydd y DU gytuno cyn llacio neu ddileu'r cyfyngiadau ar symudiadau oherwydd COVID-19.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae ysbyty mwyaf Cymru wedi cael ei agor yn swyddogol gan y Tywysog Charles.
Cafodd Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ei addasu yn ysbyty gyda 2,000 o wlâu er mwyn ysgafnu’r baich ar y gwasanaeth iechyd yn ystod argyfwng coronafeirws.
Mae Ysbyty Calon y Ddraig yn cynnwys adnoddau peledr-X symudol a sganwyr CT.
golwg360
Mae Golwg360 yn adrodd fod Llywodraeth y DU wedi cadarnhau eu bod nhw’n ystyried cynnal munud o dawelwch i gofio gweithwyr y gwasanaeth iechyd sydd wedi marw o’r coronafeirws, dolen allanol.
Mae’n dilyn ymgyrch gan yr arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer, i roi teyrnged a chydnabod aberth gweithwyr iechyd yn ystod y pandemig.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Sut mae'r celloedd yn mynd i mewn i'r corff ac yn achosi'r symptomau
Read MoreIechyd Cyhoeddus Cymru
Mae NAW marwolaeth arall wedi eu hadrodd i Iechyd Cyhoeddus Cymru o bobl sydd wedi profi'n bositif am COVID-19 - mae cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru bellach yn 584.
Mae'r ffigwr yn cynnwys marwolaethau mewn ysbytai, ond does dim sicrwydd a ydyn nhw'n cynnwys marwolaethau yn y gymuned, neu cartrefi gofal. Mae gwir nifer y marwolaethau yng Nghymru yn uwch.
Yn ogystal daeth cadarnhad bod 276 o achosion newydd o coronafeirws wedi eu cofnodi yng Nghymru gan fynd a'r cyfanswm i 7,546.