Diolch byth am Batmanwedi ei gyhoeddi 10:11 Amser Safonol Greenwich+1 20 Ebrill 2020
Mae cwpl o'r Bala wedi bod yn gwneud eu gorau i godi calonnau a rhoi gwen ar wynebau pobl yn ystod argyfwng Covid-19.
Mae anturiaeth Wayne Evans a'i bartner Ceri Owen yn cynnwys ymweld â thai pobl mewn gwisg Batman er mwyn difyrru’r plant ieuengaf. Yn ogystal â chodi arian mae nhw hefyd wedi dechrau blog nosweithiol i helpu pobl "anghofio am eu pryderon".
Dywedodd Ceri Owen: "Mae o'n frawychus beth sydd yn digwydd i bawb a phawb yn sownd yn y tŷ a gofid i bawb.
"Dyma benderfynu rhoi blog i fyny... y fideo cynta i siarad am y lockdown ac os oes unrhyw un ishe siarad am y pryder, unrhyw beth gallwn ni neud i helpu o fewn ein gallu yna byddwn ni yna."
Ychwanegodd fod yr ymateb wedi bod yn anhgoel.
"Fe ddoth y Batman wedyn, a meddwl am y plant, mae'n anodd i'r plant dy' nhw ddim yn dallt beth sydd yn mynd ymlaen.
"Mae o'n neis ofnadwy y petha positif allan o hyn i gyd, stopio i siarad, a cardiau hyd yn oed yn dod i ni i ddiolch i ni am godi calonnau.

Wayne Evans a Ceri Owen