Beirniadu system brofi haint coronafeirws yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 14:25 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yng nghyfarfod llawn y Senedd mae beirniadaeth eto ar strategaeth brofi Llywodraeth Cymru wrth iddyn nhw gael gwared â'r nod o gynnal 5,000 o brofion erbyn canol Ebrill.
Mae arweinydd grŵp y Ceidwadwyr, Paul Davies, yn gofyn "pam bod Llywodraeth Cymru wedi methu cwrdd â'r gofynion profi tra bod arweinydd Plaid Cymru, Adam Price yn dweud "ni yw'r unig genedl sydd ddim wedi gweld sefydlu labordy ar raddfa eang i ddelio â'r pandemig".
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, wrth ACau "y bydd mwy o brofion ar gael yng Nghymru erbyn diwedd yr wythnos".
Dywedodd hefyd ei fod yn credu "y bydd mwy o bobl yn cymryd y profion wrth i'r broses gyfeirio gael ei symleiddio".
Dywedodd ei fod yn cydnabod bod y system wedi bod yn fiwrocrataidd gan fod "cael y person iawn o'r gweithle i'r ganolfan brofi, yn y drefn iawn ac ar yr amser iawn yn golygu gwaith trefnu".