Gwneud mygydau PPE o offer dringo yn Llanberiswedi ei gyhoeddi 10:58 Amser Safonol Greenwich+1 22 Ebrill 2020
Ar ôl gweld cwymp enfawr yn eu harchebion, cwmni DMM yn troi at gynhyrchu masgiau i ysbytai.
Read More8,124 o achosion wedi'u cadarnhau yng Nghymru, a 624 wedi marw gyda Covid-19
Galw am wneud teithio i ail gartrefi yn anghyfreithlon
Merch i ddyn o Abersoch fu farw gyda coronafeirws yn erfyn ar bobl i gadw draw
Ar ôl gweld cwymp enfawr yn eu harchebion, cwmni DMM yn troi at gynhyrchu masgiau i ysbytai.
Read MoreMae grŵp o feddygon wedi ysgrifennu llythyr agored at brif weinidog Cymru yn galw arno i wneud y defnydd o ail gatref yn anghyfreithlon yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Yn y llythyr at Mark Drakeford, maen nhw'n dweud: "Mae twristiaeth a'r defnydd o dai haf yn golygu mwy o deithio diangen i ardaloedd gwledig, sy'n cynyddu'r boblogaeth ac felly'n rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau brys ac iechyd lleol."
Aiff y llythyr ymlaen i ddweud fod teithio diangen o'r fath yn "debygol iawn" o gynyddu presenoldeb coronfeirws mewn ardaloedd gwledig ac nad yw'r rheolau presennol yn ddigonol i warchod cefn gwlad Cymru yn erbyn peryglon Covid-19 a'r peryglon o dwristiaeth a defnyddio ail gartrefi.
golwg360
"Wrth i’r sôn ddechrau o ddifri am ffyrdd o godi’r cyfyngiadau a llacio rheolau’r feirws, mae angen yn fwy nag erioed i Lywodraeth Cymru weithredu’n gadarn," meddai Dylan Iorwerth yn ei flog diweddaraf ar wefan golwg360.
Mae un o arall o'r ysbytai dros dro sy'n cael eu sefydlu i ddelio gyda'r argyfwng coronafeirws yn barod i dderbyn cleifion.
Y tro hwn, yr ysbyty a sefydlwyd yn neuadd ymarfer Parc y Scarlets yn Llanelli sydd dan sylw, a dyma'r llun cyntaf o'r ysbyty gorffenedig.
Mae merch dyn o Wynedd, fu farw gyda coronafeirws, yn erfyn ar bobl i beidio â theithio'n ddiangen.
Read MoreMae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi apelio am fwy o bobl sydd wedi ymddeol o'r gwasanaethau iechyd a gofal i ddychwelyd i weithio yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'n ymddangos fod rhai yn defnyddio cyfyngiadau coronafeirws i dipio sbwriel yn anghyfreithlon.
Dyma adroddiad Elen Wyn ar Newyddion neithiwr...
Post Cyntaf
BBC Radio Cymru
Ers i'r cyfyngiadau ddod i rym mae 'na awgrym bod yna gynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr unigolion sydd wedi cysylltu gyda chyfreithwyr i lunio ewyllys.
Ymhlith y cyfreithwyr sydd wedi gweld rhagor o waith yn y maes yma yn yr wythnosau diwethaf mae Nerys Thomas o gwmni Harrison Clark Rickerbys yng Nghaerdydd: "Byddwn i yn tybio, yn ystod yr wythnosau diwethaf ein bod ni wedi gweld cynnydd o rywle rhwng 40% i 50% yn nifer yr ewyllysiau yr ydy'n ni wedi bod yn paratoi, ac mae hynny yn gynnydd sylweddol a dweud y lleiaf," meddai ar raglen y Post Cyntaf heddiw.
"Mae pobl sy'n cysylltu gyda ni yn gyffredinol syrthio mewn i un o ddau grŵp. Y grŵp cyntaf yw'r rhai hynny sydd wedi bod yn sâl neu sydd ag aelodau eu teuluoedd neu eu ffrindiau neu gyd-weithwyr sydd wedi bod yn sâl gyda'r feirws. Maen nhw yn poeni ac am roi trefn ar bethau.
"A'r ail grŵp yw'r bobl hynny sydd adre, ddim yn gweithio ar hyn o bryd, a'n dweud bod gwneud ewyllys wedi bod ar y rhestr o ran pethau i'w gwneud ers tro."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Teulu bachgen â ffibrosis systig yn "falch ofnadwy" bod cyngor wedi cau llwybr troed ar eu fferm.
Read MoreEfallai bod yr ysgolion ar gau, ond mae gwersi o hyd diolch i BBC Cymru.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Radio Wales
Mae ymgynghorydd gofal dwys yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn "ysu" i gael dychwelyd i'w waith y bore 'ma.
Bu Dr Venkat Sundaram yn sownd yn India ers i'r cyfyngiadau ddod i rym wedi iddo fod yno yn delio gydag argyfwng teuluol.
Dywedodd wrth Radio Wales y byddai'n "galed dros ben" yn yr ysbyty, ond ei fod yn edrych ymlaen at ddychwelyd.
Rhag ofn eich bod wedi methu ein hadroddiad neithiwr, bydd CPD Y Rhyl yn cael ei ddirwyn i ben oherwydd problemau ariannol yn sgil yr argyfwng coronafeirws.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ymgymerwyr yn dweud bod angen mwy o offer diogelwch os ydyn nhw am barhau i gynnig gwasanaeth.
Read MoreLlywodraeth Cymru
Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi y bydd arian ar gael i gynghorau barhau i ddarparu prydau i blant tra bod eu hysgolion ar gau.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dynes a gollodd ei thad a'i mab o fewn ychydig wythnosau yn erfyn ar bobl i gadw draw o'i hardal.
Read MoreBBC Cymru Fyw
Croeso i'n llif byw ar fore Mercher, 22 Ebrill.
Fe gewch chi bopeth sydd angen ei wybod am coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt ar y llif rhwng nawr a diwedd y prynhawn... arhoswch gyda ni.
Bore da iawn i chi gyd.