Crynodeb

  • 8 yn rhagor o farwolaethu yng Nghymru gyda Covid-19 gan fynd â'r cyfanswm i 796

  • Disgwyl adroddiad am fethiant bwrdd iechyd y gogledd i adrodd nifer y marwolaethau yn gywir

  • Heddluoedd Cymru'n 'anobeithio' o weld ymwelwyr yn dod i gerdded ar fynyddoedd Cymru

  1. Marwolaethau Powyswedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020

    Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cyhoeddi ei fod wedi cyrraedd y trothwy i adrodd nifer y marwolaethau gyda Covid-19.

    O ganlyniad fe wnaeth y bwrdd adrodd saith o farwolaethau Covid-19 yn y rhanbarth o ganlyniad i'r pandemig hyd at ddoe.

    Dyw'r byrddau iechyd - o ganlyniad i reolau diogelwch data - ddim wedi cyhoeddi niferoedd tan iddyn nhw gyrraedd y trothwy oedd wedi ei osod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

  2. Heddlu'n 'anobeithio' wrth weld ymwelwyr yn Eryriwedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020

    Lluoedd heddlu'r gogledd a'r de wedi gorfod hebrwng ymwelwyr am adref o Gymru dros y penwythnos.

    Read More
  3. 8 yn rhagor o farwolaethauwedi ei gyhoeddi 13:54 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 8 yn rhagor o farwolaethau wedi eu hadrodd iddyn nhw gyda coronafeirws. Fe ddaw hynny â'r cyfanswm o farwolaethau yng Nghymru i 796.

    Nid yw marwolaethau yn y gymuned neu mewn cartrefi gofal o reidrwydd yn cael eu cynnwys yn y rhif yma, ac felly mae'r nifer go iawn yn debyg o fod yn uwch.

    Yn ogystal fel gafodd 203 o achosion newydd o Covid-19 eu cadarnhau yng Nghymru.

    Mae cyfanswm yr achosion yng Nghymru bellach yn 9,280, ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cydnabod bod y gwir nifer yn debygol o fod yn llawer uwch.

  4. Pawb 'â gwahanol ffyrdd o ymdopi'wedi ei gyhoeddi 13:42 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020

    Blog amserol gan y meddyg teulu Catrin Elis Williams ar gyfer cylchgrawn Barn.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Diwedd neges twitter
  5. Mynwentydd Rhondda Cynon Taf i ailagorwedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020

    Cyngor Rhondda Cynon Taf

    Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cadarnhau y bydd ei fynwentydd yn ailagor ddydd Mawrth.

    Ond mae'n pwysleisio'r angen i bobl ddilyn y cyngor i gadw dau fetr ar wahân wrth ymweld â nhw.

    Fe wnaeth Cyngor Caerdydd ailagor pedair mynwent ddydd Sadwrn.

  6. System wahanol Betsi wedi achosi 'gwall' ffigyrauwedi ei gyhoeddi 13:29 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020

    "Anghysondeb" mewn dull adrodd achosion marwolaethau Covid-19 yn gyfrifol am ddryswch yn y gogledd.

    Read More
  7. Lleiafrif bachwedi ei gyhoeddi 13:16 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Pwysleisiodd Mr Drakeford mai canran fechan iawn o bobl sydd ddim yn derbyn y rheolau.

    Ond mynnodd hefyd y bydd yr heddlu yn gweithredu'r rheolau ac y dylai pawb felly aros adre.

  8. Delio gydag ymwelwyrwedi ei gyhoeddi 13:13 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford bod heddluoedd Cymru wedi gweld mwy o bobl yn teithio dros y penwythnos, ond bod y rhan fwyaf o hynny mewn ardaloedd trefol yn hytrach na gwledig.

    "Mae'r neges gen i yn glir - peidiwch neud e. Mae pobl sy'n teithio ymao Loegr yn creu problemau i ni ac i chi.

    "Rwy'n gweithio gyda'r DU i geisio cael un set o reolau i bawb... dwi eisiau osgoi gorfod cael rheolau gwahanol yma yng Nghymru, ond rhaid i bawb ufuddhau i'r rheolau."

  9. Cofiwch am Dros Ginio am... wel, nawr!wedi ei gyhoeddi 13:00 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020

    BBC Radio Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Adroddiad erbyn diwedd y dyddwedi ei gyhoeddi 12:49 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Fe gafodd nifer y marwolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei gam-adrodd am fis.

    Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi gofyn am adroddiad ar y mater, a dywedodd ei fod yn disgwyl i'r adroddiad fod ar ei ddesg erbyn diwedd y dydd heddiw.

    Ni wnaeth gadarnhau a fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi er fod Plaid Cymru wedi galw am hynny.

  11. 'Rhaid i lywodraeth y DU gamu i'r adwy'wedi ei gyhoeddi 12:46 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ateb cwestiwn am fusnesau mawr fel Tata yn mynd i drafferthion ariannol, dywedodd Mr Drakeford:

    "Mae Llywodraeth Cymru wastad wedi cynnig cymorth ymarferol pan mae angen yn y meysydd yma.

    "Ond oherwydd natur global yr argyfwng yma, rwyf o'r farn bod angen i lywodraeth y DU gamu i'r adwy y tro hwn.

    "Os oes problemau gyda safleoedd penodol y cwmniau yma yng Nghymru, yna fe fyddwn ni'n ystyried sut i helpu, ond pan ydych chi'n son am gwmni angen £500bn mae'n fater gwahanol."

  12. 'Angen cyflenwad cartref'wedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    "Dros y penwythnos fe wnaethon ni dderbyn cyflenwad o 10m o fasgiau o China...rydym hefyd wedi cael cynnig caredig o fasgiau o lysgenhadaeth Fietnam.

    "Ond mae angen meithrin cyflenwad o Gymru hefyd."

  13. 'Digon o PPE yng Nghymru'wedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Y prif weinidog Mark Drakeford sy'n arwain y gynhadledd newyddion heddiw, ac fe ddechreuodd drwy son am offer diogelwch personol.

    "Hyd yma ry'n ni wedi darparu mwy na 56m darn o PPE i'n Gwasanaeth Iechyd ac i awdurdodau lleol i ddosbarthu i lefydd gofal cymdeithasol ar draws Cymru.

    "Ry'n ni wedi bod yn ffodus bod digon o PPE yng Nghymru ond mae dau eitem - masgiau a gynau sy'n rhwystro hylif - sydd o dan y pwysau mwyaf."

    md
  14. Yn fyw nawr....wedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Gwybodaeth ddefnyddiol i weithwyr gofal cymdeithasolwedi ei gyhoeddi 12:13 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Defnydd newydd i adeilad prifysgolwedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020

    Y Cambrian News sy'n adrodd bod un o adeiladau Prifysgol Aberystwyth wedi cael ei addasu er mwyn ei ddefnyddio fel canolfan sgrinio i weithwyr iechyd a gofal, ac fel canolfan glinigol at ddefnydd meddygon teulu.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. Bydd y gynhadledd am 12:30wedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Ffyrdd y gogledd yn ddistawwedi ei gyhoeddi 11:43 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Galw i godi cyflogau gweithwyr iechydwedi ei gyhoeddi 11:34 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020

    Mae cynghorau undebau llafur Caerdydd, Abertawe a Chaerffili'n galw am roi 10% o godiad cyflog yn syth i bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd, cartrefi gofal a gwasanaethau rheng flaen eraill.

    Maen nhw hefyd yn ategu'r galw o sawl cyfeiriad i'r gweithwyr hyn gael offer diogelwch personol addas a phrofion Covid-19.

    Mewn deiseb ar-lein, mae'r undebau'n dadlau fod cyflogau gweithwyr iechyd a gofal "wedi gostwng hyd at 23% o'u cyflogau mewn termau real ers 2010 ac yn gweithio dan amodau annioddefwl heb PPE addas a phrofi annigonol".

  20. Ailddechrau torri gwairwedi ei gyhoeddi 11:23 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020

    Cyngor Sir Penfro

    Bydd Cyngor Sir Benfro yn ailddechrau torri'r gwair ar ei eiddo o ddechrau mis nesaf.

    Cafodd y gwaith ei atal dros dro ym mis Mawrth yn dilyn cyfarwyddiadau a gyflwynwyd ar gyfer y pandemig coronafeirws.