Atal beicio'n destun ffraewedi ei gyhoeddi 11:11 Amser Safonol Greenwich+1 27 Ebrill 2020
Mae ysgrifennydd clwb beicio yn y gogledd wedi anfon llythyr at y Prif Weinidog – Mark Drakeford - ar ol iddo gyhoeddi canllawiau newydd yn dweud na ddylai neb seiclo yn bell o'u cartrefi.
Yn y llythyr, mae Dafydd Hughes o Glwb Beicio Egni yng Nghaernarfon yn dweud bod y canllawiau newydd yn warthus.
Yn ôl llywodraeth Cymru dyw seiclo'n bell o'r ty ddim yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol dros adael cartref.
Dwedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru, “Mae’r canllawiau’n nodi’n glir y caniateir beicio i’r gwaith, ac mewn gwirionedd rydym am annog pobl i deithio mewn ffyrdd sydd o fudd i’w hiechyd a’r amgylchedd. Ond ar adeg pan mae ein gwasanaethau brys dan bwysau enfawr, mae'n bwysig bod pobl yn cymryd pa gamau bynnag y gallan nhw i leihau'r risg o ddamweiniau ac ymarfer corff mor agos i'w cartref â phosib.”