Crynodeb

  • 813 o bobl wedi marw â Covid-19 yng Nghymru meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru

  • Y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod dros 1,000 wedi marw â Covid-19 erbyn 17 Ebrill

  • Pryder y gallai pobl ddatblygu arferion yfed trwm o ganlyniad i yfed tra'n ynysu gartref

  • Bron i 500 o garcharorion yng Nghymru wedi eu hamau o gael coronafeirws

  • Ysgolion am gael eu hailagor "yn raddol" pan fo'r cyfyngiadau'n cael eu llacio

  1. Canolfan brawfwedi ei gyhoeddi 14:47 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020

    Dyma luniau mwyaf diweddar o'r ganolfan brofi gyrru-trwodd fydd yn agor yn Llandudno yfory er mwyn profi gweithwyr allweddol yng ngogledd Cymru sydd â symptomau Covid-19.

    Fe fydd staff y GIG, y gwasanaethau brys a chartrefi gofal yn cael eu profi yno.

    Bydd angen apwyntiad i yrru i'r safle a chael prawf.

    canolfan
    canolfa
  2. Pobl Yr Alban yn cael cyngor i orchuddio eu hwynebauwedi ei gyhoeddi 14:38 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020

    Mae Prif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon wedi cynghori pobl i wisgo gorchudd dros eu hwynebau pan yn gadael eu cartrefi.

    Dywedodd bod y dystiolaeth yn wan a fyddai'n gwneud gwahaniaeth, ac felly nad yw'r cyngor yn orfodol.

    Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud y dylid gwisgo gorchudd dim ond os oes gan berson symptomau neu os ydyn nhw'n gofalu am rywun sy'n cael eu hamau o fod â'r feirws.

    Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething nad oes cynlluniau i gyflwyno cyngor o'r fath yma.

    GorchuddFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Dros 1,000 wedi marw yng Nghymru â coronafeirwswedi ei gyhoeddi 14:25 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020

    Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau hefyd yn cynnwys marwolaethau mewn cartrefi gofal.

    Read More
  4. Cwestiynu ble mae'r offer gafodd ei addowedi ei gyhoeddi 14:14 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020

    ITV Cymru

    Mae newyddion ITV Cymru yn adrodd bod Llywodraeth Cymru'n dod dan bwysau cynyddol gan y gwrthbleidiau ynglŷn â nifer y gwyntiedyddion - ventilators - sydd wedi cael ei sicrhau i'r GIG yma.

    Yn gynharach yn y mis dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething eu bod yn prynu 1,000 o wyntiedyddion newydd, i'w hychwanegu at y 415 oedd eisoes yn ysbytai Cymru.

    Ond mewn ymateb ysgrifenedig i'r Ceidwadwyr datgelwyd mai 171 o wyntiedyddion sydd wedi'u gyrru i'r byrddau iechyd, a bod 60 arall yn cael eu cadw gan GIG Cymru yn ganolog.

    Mae'r Ceidwadwyr yn cwestiynu ble mae gweddill yr offer a gafodd ei addo, dolen allanol, tra bod Plaid Cymru'n dweud bod Cymru yn cael ei thrin yn annheg gan gynllun ar draws y DU, am mai dim ond 31 o wyntiedyddion sydd wedi dod yma o'r cynllun hwnnw.

    VentilatorFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. 17 arall wedi marw yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 14:00 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi y bu farw 17 person â coronafeirws yn y 24 awr ddiwethaf, gan ddod â'r cyfanswm i 813.

    Cafodd 232 o achosion newydd eu cadarnhau hefyd, gan olygu bod 9,512 o bobl wedi cael prawf positif am Covid-19 yng Nghymru.

    Does dim gwybodaeth eto pryd y bydd y 31 marwolaeth ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda oedd heb gael eu hadrodd yn gywir yn cael eu cofnodi yn ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru.

  6. Cymorth i ofalwyr ifancwedi ei gyhoeddi 13:48 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Mae pryder nad yw gofalwyr ifanc, rhai ohonynt yn blant, yn cael digon o seibiant, oherwydd pwysau ychwanegol yn ystod y pandemig yn ôl Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.

    Ond dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Dr Sally Holland fod yna gymorth ar gael.

    "Cyn yr argyfwng roedden nhw yn mynd i grwpiau gofalwyr ifanc, grwpiau yn yr ysgol neu'r coleg, ond hefyd gydag elusen fel YMCA neu Barnado's," meddai Dr Holland wrth raglen Post Cyntaf Radio Cymru.

    "Rydw i wedi cysylltu gyda rhai o'r grwpiau hyn i weld beth maen nhw yn medru gwneud i helpu plant sy'n ofalwyr.

    "Rydw i yn falch o ddweud eu bod nhw wedi creu corau a siarad ar Zoom, wedi bod mewn cysylltiad gyda'r plant un wrth un."

    Ifanc
  7. Hywel Dda wedi tangofnodi marwolaethauwedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020

    Cafodd 31 o farwolaethau coronafeirws yng ngorllewin Cymru ddim eu cynnwys yn ystadegau Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething.

    Mae'r ffigyrau diweddaraf yn nodi fod pump o farwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n cynnwys siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phenfro.

    Yr wythnos ddiwethaf daeth i'r amlwg fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod yn tangofnodi nifer y marwolaethau.

    Dywedodd Mr Gething fod y teuluoedd wedi cael gwybod ond ei bod yn holl bwysig fod systemau cyfrif yn gyfredol.

    Ychwanegodd y byddai'r holl fyrddau iechyd yng Nghymru nawr yn defnyddio'r un systemau gan olygu "byddai’r ffigyrau heddiw ac yfory, y rhai mwyaf diweddar".

    coronafeirwsFfynhonnell y llun, bbc
  8. Strydoedd tawel yn ergyd i werthwyr Big Issuewedi ei gyhoeddi 13:16 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020

    Mae Kelvin Lloyd wedi gorfod rhoi'r gorau i werthu'r cylchgrawn ar strydoedd Caernarfon.

    Read More
  9. Problemau pobl ag anhwylder bwytawedi ei gyhoeddi 13:04 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020

    Dros Ginio
    BBC Radio Cymru

    Bydd rhaglen Dros Ginio BBC Radio Cymru yn trafod problemau sy'n wynebu pobl ag anhwylder bwyta yn ystod yr argyfwng presennol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Pryder bod pobl sy'n wael ddim yn gofyn am gymorthwedi ei gyhoeddi 12:58 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Vaughan Gething wrth y gynhadledd bod "marwolaethau roedd modd eu hosgoi" wedi digwydd yng Nghymru am nad yw pobl yn adrodd pan fo ganddyn nhw anghenion gofal brys.

    Dywedodd nad yw'r GIG yn gweld cymaint o ataliadau ar y galon neu strociau â'r arfer.

    Pwysleisiodd y Gweinidog Iechyd bod y gwasanaeth iechyd ar agor i "anghenion gofal brys".

    Dywedodd ei fod yn bryderus bod pobl ddim yn galw am gymorth yn ddigon cynnar, o bosib am fod ganddyn nhw bryder mynd i ysbytai.

  11. Disgwyl cyflenwad PPE gyrraedd maes awyrwedi ei gyhoeddi 12:53 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Gething ei fod yn disgwyl i hediad gyrraedd maes awyr Caerdydd pnawn 'ma, fydd yn cludo nifer sylweddol o offer PPE.

    Roedd 200,000 o ynau meddygol sy'n gallu gwrthsefyll hylif ar fwrdd yr awyren o Cambodia, meddai.

    "Hwn yw'r cyntaf o ddau hediad rydym yn ei ddisgwyl yr wythnos hon, a bydd hyn yn helpu cryfhau'r stoc o ynau meddygol yng Nghymru.

    "Mae disgwyl hediad arall o China yn ddiweddarach yr wythnos hon, gyda 460,000 o ynau."

  12. Modd cynnal 2,000 o brofion pob dyddwedi ei gyhoeddi 12:51 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd wrth y gynhadledd bod modd cynnal dros 2,000 o brofion y diwrnod yng Nghymru bellach.

    Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud yn wreiddiol eu bod yn gobeithio gallu cynnal 5,000 o brofion y dydd erbyn canol Ebrill, cyn cefnu ar y targed hwnnw.

    Ychwanegodd y bydd modd i weithwyr allweddol archebu lle ar-lein i gael prawf yng Nghaerdydd a Chasnewydd o ddydd Iau ymlaen.

    "Bydd slotiau'n cael eu blaenoriaethu i staff iechyd a gofal, a chwmnïau sy'n cyflogi llawer o weithwyr ble mae perygl o golli gwasanaeth hanfodol," meddai.

    Ychwanegodd y bydd system debyg yn cael ei gyflwyno yn y gogledd a'r gorllewin cyn hir, ac y bydd profion gartref yn cael eu darparu ar ôl hynny.

  13. Gweinidog yn talu teyrngedwedi ei gyhoeddi 12:47 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Fe wnaeth Vaughan Gething hefyd roi teyrnged i weithwyr iechyd a gweithwyr gofal sydd wedi marw yn ystod y pandemig.

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd ei fod wedi nodi munud o dawelwch am 11:00 heddiw ar gyfer "pawb a fu farw yn ystod y pandemig ond yn enwedig y rhai hynny a fu farw wrth ofalu am eraill".

    Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cynllun ariannol er mwyn cefnogi teuluoedd gweithwyr rheng flaen - yn enwedig gweithwyr iechyd a gofal, pe bai nhw wedi marw o coronafierws.

    "Bydd cyfanswm o £60,000 ar gael. Bydd hyn yn ychwanegol, ac nid yn lle unrhyw daliadau pensiwn arall," meddai.

    "Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn mynd peth o'r ffordd i gynnig tawelwch meddwl i anwyliaid."

    Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
  14. Dwy ganolfan brofi newydd yn agor yr wythnos honwedi ei gyhoeddi 12:44 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yng nghynhadledd y llywodraeth y bydd canolfan brofi gyrru-trwodd yn agor yn Llandudno yfory er mwyn profi gweithwyr allweddol yng ngogledd Cymru sydd â symptomau Covid-19.

    Dywedodd y bydd staff y GIG, y gwasanaethau brys a chartrefi gofal yn cael eu profi yno.

    "Fe fyddan nhw'n gallu cael apwyntiad i yrru i'r safle a chael prawf heb adael eu cerbydau," meddai'r Gweinidog Iechyd.

    Ychwanegodd y bydd canolfan debyg yn cael ei hagor ar faes y sioe yng Nghaerfyrddin ddydd Iau, a'u bod yn parhau i geisio cynyddu nifer y profion yng Ngheredigion, Sir Benfro a Phowys.

  15. Cynhadledd ddyddiol y llywodraeth ymhen 10 munudwedi ei gyhoeddi 12:20 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. Gofal wrth geisio gwaredu sbwrielwedi ei gyhoeddi 12:14 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020

    Cyngor Sir Gaerfyrddin

    Mae cyngor sir yn rhybuddio trigolion i fod yn wyliadwrus wrth dderbyn cynigion gan unigolion sy'n honni bod yn fusnesau gwaredu gwastraff yn ystod y cyfyngiadau presennol.

    Dywed Cyngor Sir Gâr mai dyletswydd yr unigolyn sy'n defnyddio busnesau o'r fath yw cysylltu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn sicrhau eu bod wedi cofrestri.

    "Os deuir o hyd i dystiolaeth sy'n cysylltu gwastraff tipio anghyfreithlon ag eiddo gellid erlyn y preswylydd am beidio â sicrhau bod ei wastraff yn cael ei waredu'n briodol," meddai llefarydd ar ran y cyngor.

    gwastraffgFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Datblygu stystem newydd i lanhau ambiwlansys yn sydynwedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020

    Prifysgol Abertawe

    Mae system i lanhau ambiwlansys sy'n cael eu defnyddio i gludo cleifion sy'n cael eu hamau o fod â coronafeirws wedi cael ei ddatblygu gan wyddonwyr mewn llai na phythefnos.

    Mae glanhau'r cerbydau yn gallu cymryd 45 munud a gall fod yn beryglus i'r rheiny sy'n gwneud y gwaith.

    Ond mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi datblygu system newydd sy'n gostwng yr amser glanhau i 20 munud.

    Mae'r system yn defnyddio nwyon, sy'n gallu glanhau pob twll a chornel o'r cerbyd.

    AmbiwlansFfynhonnell y llun, Prifysgol Abertawe
  18. Angen 'strwythur i'r diwrnod' i osgoi yfed mwywedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020

    Mae yna bryder y gallai pobl ddatblygu arferion yfed trwm "hirdymor" o ganlyniad i yfed tra'n ynysu gartref, yn ôl un elusen.

    Daeth Meg Payne, 23 oed o Gaerdydd, i'r casgliad bod angen iddi "strwythuro ei diwrnod" ar ôl sylweddoli ei bod hi'n yfed ar ddiwrnodau na fyddai'n ei wneud fel arfer.

    "Mi wnes i sylweddoli bod edrych ymlaen at ddiod ar ddiwedd y dydd yn rhywbeth yr oeddwn i'n ei wneud yn fwy aml," meddai.

    Er nad yw hi'n yfed yn drwm nag yn aml fel arfer, mae'n dweud ers iddi fod ar saib o'r gwaith trwy gynllun cadw swyddi Llywodraeth y DU, mae "diflastod" wedi cyfrannu at newid yn ei harferion yfed.

    Disgrifiad,

    Pryder am effaith gor-yfed tra'n hunan ynysu gartref

  19. Dau frawd wedi marw o fewn oriau i'w gilyddwedi ei gyhoeddi 11:39 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020

    South Wales Argus

    Mae'r South Wales Argus yn adrodd stori dau frawd o Gasnewydd a fu farw o fewn oriau i'w gilydd., dolen allanol

    Bu farw Ghulam Abbas, 59 a Raza Abbas, 54, yn uned gofal dwys Ysbyty Brenhinol Gwent ar 21 Ebrill ar ôl cael prawf positif am Covid-19.

  20. Geni babi mewn cyfnod mor ansicrwedi ei gyhoeddi 11:26 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020

    Mae'n gyfnod heriol i bawb, ond i'r rheiny sy'n disgwyl neu newydd gael babi, mae yna heriau unigryw.

    O dan y cyfyngiadau cymdeithasol presennol, mae'n rhaid i fenywod beichiog fynd i'w hapwyntiadau cyn yr enedigaeth ar eu pen eu hunain.

    A phan mae'r amser yn dod i'r fam fynd mewn i'r ysbyty, dyw'r partner ddim yn cael aros gyda nhw trwy gydol eu hamser yno.

    Cafodd mab Matthew Guy a'i bartner Claire ei eni ar yr ail ddiwrnod wedi i'r cyfyngiadau cymdeithasol ddechrau.

    I Matthew, sy'n byw yn Nottingham ond sydd o Ddeiniolen yng Ngwynedd yn wreiddiol, mae'r cyfnod ers genedigaeth Osian ar 24 Mawrth wedi bod yn chwerw-felys.

    Disgrifiad,

    'Mae'n drist achos does neb yn cael dod i weld o'