Staff ysbyty yn cofio'r rhai fu farwwedi ei gyhoeddi 11:17 Amser Safonol Greenwich+1 28 Ebrill 2020
Staff yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin yn nodi munud o dawelwch i'r gweithwyr allweddol fu farw o ganlyniad i Covid-19.
813 o bobl wedi marw â Covid-19 yng Nghymru meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod dros 1,000 wedi marw â Covid-19 erbyn 17 Ebrill
Pryder y gallai pobl ddatblygu arferion yfed trwm o ganlyniad i yfed tra'n ynysu gartref
Bron i 500 o garcharorion yng Nghymru wedi eu hamau o gael coronafeirws
Ysgolion am gael eu hailagor "yn raddol" pan fo'r cyfyngiadau'n cael eu llacio
Staff yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin yn nodi munud o dawelwch i'r gweithwyr allweddol fu farw o ganlyniad i Covid-19.
Mae munud o dawelwch wedi cael ei gynnal ledled y DU i gofio'r gweithwyr allweddol sydd wedi marw â coronafeirws.
Mae dros 100 o staff iechyd a gofal wedi marw ar ôl cael y feirws, ynghyd â nifer o weithwyr allweddol arall fel ym maes trafnidiaeth.
Mae 21,092 o bobl wedi marw yn ysbytai'r DU gyda'r feirws - 796 o'r rheiny yng Nghymru.
Cyngor Rhondda Cynon Taf
Mae mynwentydd yn Rhondda Cynon Taf wedi ailagor i'r cyhoedd ddydd Mawrth.
Dywedodd llefarydd eu bod yn disgwyl i ymwelwyr ufuddhau gyda'r rheolau ynglŷn â chadw pellter cymdeithasol oddi wrth ei gilydd.
Heddlu Dyfed Powys
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Plaid Cymru
Mae strategaeth Llywodraeth Cymru i godi'r cyfyngiadau ar fywyd pob dydd yn "wallus", yn ôl Plaid Cymru.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Gwener y gallai'r cyfyngiadau gael eu llacio mewn camau, wrth iddo gyhoeddi cynllun y llywodraeth.
Ond dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price nad yw'r cynllun yn ystyried sut mae gwledydd eraill wedi llacio'r cyfyngiadau, a bod dim manylion ar sut y byddai mwy o brofion yn cael eu cynnal.
Ychwanegodd Mr Price nad oes unrhyw dargedau ar gyfer faint o brofion mae'r llywodraeth yn gobeithio eu cynnal.
"Does fawr ddim manylion, dim cyfeiriad at sut y bydd yr isadeiledd sydd ei angen i lacio'r cyfyngiadau yn cael ei wireddu, a dim data ar ble ydyn ni yn yr epidemig na sut mae disgwyl i bethau ddatblygu dros y misoedd nesaf," meddai.
Swyddfa Ystadegau Gwladol
Mae dros 1,000 o farwolaethau sy'n ymwneud â coronafeirws wedi bod yng Nghymru bellach, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Yn ôl eu data nhw y ffigwr oedd 1,016 o farwolaethau ar 17 Ebrill - sy'n uwch na ffigwr Iechyd Cyhoeddus Cymru am ei fod yn cynnwys marwolaethau gartref, mewn hosbisau a chartrefi gofal.
Bryd hynny, roedd ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dweud mai 623 oedd wedi marw â'r haint yma.
Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnwys pobl sy'n cael eu hamau o fod â Covid-19, ond na chafodd eu profi.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bethan Lewis
Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru
Bydd ysgolion yn cael eu hailagor "yn raddol" pan mae cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu llacio, yn ôl y Gweinidog Addysg Kirsty Williams.
Wrth amlinellu pum egwyddor i benderfynu pryd ac ym mha ffordd y byddai hynny'n digwydd, does dim disgwyl iddi nodi amserlen ar gyfer unrhyw newidiadau.
Dywedodd Ms Williams nad oedd hi'n disgwyl i ysgolion agor yn sydyn "i bob disgybl, o bob blwyddyn, drwy'r wythnos".
Mae ysgolion wedi bod ar gau i'r rhan fwyaf o blant ers dros fis, ond mae rhai wedi aros ar agor i roi gofal i blant gweithwyr hanfodol a disgyblion bregus.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Yn ôl data gafodd ei gyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Llun, mae cyfanswm o 796 o bobl yng Nghymru wedi marw gyda coronafeirws.
Roedd y data yn dangos fod 203 o achosion newydd wedi eu cadarnhau, gan olygu fod cyfanswm o 9,280 o achosion wedi eu cadarnhau yma.
Mae'r gwir ffigwr yn debygol o fod yn uwch gan fod yna nifer sydd â symptomau ddim yn cael eu profi.
S4C
Mewn ymdrech i gefnogi elusennau a chwmnïau sy’n gwneud "gwaith arwrol" yn ystod argyfwng coronafeirws, mae S4C yn bwriadu rhannu newyddion am eu hymdrechion ar y sianel.
Maen nhw'n cynnig gofod hysbysebu am ddim i elusennau sydd wedi eu lleoli, neu’n gweithredu ar lefel Cymreig ac yn cynnig cymorth i bobl yn ystod yr argyfwng.
Mae'r sianel hefyd yn cynnig cyfraddau gostyngedig i gwmnïau yng Nghymru er mwyn hyrwyddo eu hymdrechion yn erbyn Covid-19.
Dywedodd prif weithredwr S4C, Owen Evans y bydd "10% o’n munudau hysbysebu dyddiol ar gael er mwyn tynnu sylw at y gwaith pwysig mae’r elusennau a chwmnïau yma’n ei wneud".
Mae un carcharor wedi marw ac mae bron i 500 yng Nghymru naill ai wedi cael coronafeirws, neu'n cael eu hamau o fod wedi cael yr haint - gyda chwech angen triniaeth ysbyty, yn ôl adroddiad swyddogol.
Mae dadansoddiad o'r ffigyrau - sy'n edrych ar Gymru a Lloegr, gafodd ei gomisiynu gan bennaeth y gwasanaeth carchardai - wedi canfod bod chwarter yr holl achosion sydd wedi cael eu cadarnhau yng Nghymru.
Mae hynny er mai dim ond 6% o boblogaeth y carchardai oedd yn cael eu cadw yng Nghymru ddiwedd mis Mawrth.
Yr wythnos ddiwethaf roedd Yr Almaen yn obeithiol ei fod yn amser i godi'r rhai o'r cyfyngiadau ar fywyd pob dydd, gyda rhai siopau'n ailagor a rhai myfyrwyr yn dychwelyd i'r 'stafell ddosbarth.
Ond heddiw mae swyddogion yno'n rhybuddio bod yr haint ar gynnydd unwaith eto.
Yn y 24 awr ddiwethaf cafodd 163 o farwolaethau â Covid-19 a 1,144 o achosion newydd eu cofnodi.
Prin y byddai myfyrwyr meddygol blwyddyn olaf - rhyw ychydig fisoedd yn ôl - wedi dychmygu'r her sy'n wynebu nifer ohonyn nhw ar hyn o bryd.
Mae Eli Wyatt, 23, yn un o'r 240 o fyfyrwyr meddygaeth blwyddyn olaf o Brifysgol Caerdydd sydd wedi dewis gwneud lleoliadau mewn ysbytai ledled Cymru.
Byddan nhw'n graddio'n gynnar, mewn ychydig o fisoedd, fel bod modd iddyn nhw ddechrau eu blwyddyn gyntaf fel meddygon iau a pharhau i helpu i fynd i'r afael â'r feirws ar y rheng flaen.
Dewisodd Eli wneud lleoliad yn Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych.
Mae hi wedi symud i ffwrdd o'i theulu yn Ynysgynwraidd, Sir Fynwy ac mae hi bellach yn byw ar safle'r ysbyty.
Llywodraeth Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bydd munud o dawelwch yn cael ei gynnal ledled y DU yn ddiweddarach y bore 'ma i gofio'r gweithwyr allweddol sydd wedi marw â coronafeirws.
Bydd Prif Weinidog y DU Boris Johnson, wnaeth ddychwelyd i'w waith ddoe, yn ymuno yn y deyrnged am 11:00.
Mae dros 100 o staff iechyd a gofal wedi marw ar ôl cael y feirws, ynghyd â nifer o weithwyr allweddol arall fel ym maes trafnidiaeth.
Mae 21,092 o bobl wedi marw yn ysbytai'r DU gyda'r feirws - 796 o'r rheiny yng Nghymru.
Mae yna bryder y gallai pobl ddatblygu arferion yfed trwm "hirdymor" o ganlyniad i yfed tra'n ynysu gartref, yn ôl un elusen.
Dywedodd Andrew Misell, cyfarwyddwr Cymru elusen Alcohol Change UK y dylai pobl oedi a meddwl am faint a pha mor aml y maen nhw'n ei yfed.
Mae gwaith ymchwil gafodd ei gomisiynu ar ran yr elusen yn awgrymu bod dros chwarter yr oedolion yng Nghymru sy'n yfed alcohol wedi cynyddu faint maen nhw'n ei yfed.
Ond mae'r gwaith ymchwil hefyd yn awgrymu fod dros un ymhob tri wedi lleihau neu stopio yfed alcohol yn llwyr.
Ym mis Mawrth roedd yna naid o 31% mewn gwerthiant alcohol, sydd yn llawer uwch na gwerthiant cyffredinol mewn archfarchnadoedd.
Croeso i'n llif byw ar fore Mawrth, 28 Ebrill.
Yma fe gewch chi'r holl newyddion diweddaraf am yr argyfwng coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt.
Bore da iawn i chi.