Crynodeb

  • 886 o bobl wedi marw â Covid-19 yng Nghymru gyda 73 yn rhagor yn cael eu cofnodi dydd Mercher

  • Cymru ddim am ehangu profion coronafeirws mewn cartrefi gofal

  • Y cyn brif weinidog Gordon Brown i gynorthwyo gydag adferiad economaidd Cymru

  1. Colled enfawr i Airbuswedi ei gyhoeddi 08:21 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Mae cwmni awyrennau Airbus wedi adrodd colled o €481m yn chwarter cyntaf eleni wrth i effaith y pandemig daro'r diwydiant.

    Yn yr un cyfnod y llynedd fe wnaeth y cwmni elw o €40m.

    Ddydd Llun cyhoeddodd Airbus eu bod am roi 3,200 o'i weithwyr yn eu ffatri ym Mrychdyn, Sir y Fflint ar seibiant cyflog oherwydd Covid-19.

    airbus
  2. Galw ar rieni i barhau i frechu eu plantwedi ei gyhoeddi 08:15 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    Prif stori Cymru Fyw y bore 'ma....

    Mae 'na rybudd bod angen i rieni sicrhau bod eu plant yn parhau i gael brechiadau angenrheidiol yn ystod y pandemig coronafeirws, er mwyn atal heintiau eraill rhag lledaenu.

    Darllenwch fwy yma.

    mam a babi
  3. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:12 Amser Safonol Greenwich+1 29 Ebrill 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae'n fore Mercher, 29 Ebrill a chroeso i'n llif byw ni.

    Yma fe gewch chi'r holl bytiau newyddion - a chrynodeb o'r prif straeon - am coronafeirws yng Nghymru a thu hwnt gydol y dydd.

    Bore da iawn i chi.