Crynodeb

  • 925 o bobl yng Nghymru wedi marw gyda coronafeirws

  • Dim ailagor tan fydd pobl 'yn teimlo'n saff' medd y prif weinidog

  • 300 o Gymry wedi cofrestru am dreialon i ganfod cyffur Covid-19

  • Sesiwn Fawr Dolgellau yw'r digwyddiad mawr diweddaraf i gael ei ganslo

  1. Karma?wedi ei gyhoeddi 14:41 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mai 2020

    Wales Online

    WalesOnline sy'n adrodd am bobl aeth yn sownd yn tywod...

    Cyn i chi deimlo gormod drostyn nhw, roedden nhw wedi gyrru o Henffordd i Ddinbych-y-pysgod yn Sir Benfro i wersylla!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Targedau ailgylchu yn 'heriol' ar hyn o brydwedi ei gyhoeddi 14:33 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mai 2020

    Caerdydd yn llosgi gwastraff ailgylchu, a siroedd eraill yn gweld cynnydd ym maint y gwastraff.

    Read More
  3. Dyddiad cau grantiau i weithwyr creadigol yn agosauwedi ei gyhoeddi 14:22 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mai 2020

    Cyngor Celfyddydau Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Newid ein ffordd o fyw?wedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mai 2020

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

    Yn yr erthygl yma ar wefan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae'r anthropolegydd Dr Luci Attala yn ystyried y posibilrwydd na fydd bywyd byth run fath ar ddiwedd y pandemig coronafeirws.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Cofnodi 17 yn rhagor o farwolaethauwedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mai 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod wedi cofnodi 17 yn rhagor o farwolaethau pobl gyda coronafeirws yng Nghymru.

    Bellach mae cyfanswm o 925 wedi marw yma, ond gallai'r gwir ffigwr fod yn uwch na hynny.

    Cofnodwyd bod 160 o achosion newydd o Covid-19 wedi eu cadarnhau yng Nghymru ond, unwaith eto, gallai'r gwir ffigwr fod yn uwch.

    Hyd yma mae 9,972 o bobl wedi cael cadarnhad eu bod wedi'u heintio gyda coronafeirws yma.

  6. Taliad ychwanegol o £500 i weithwyr gofal Cymruwedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mai 2020

    Y Prif Weinidog hefyd yn dweud fod yn rhaid i'r cyhoedd deimlo'n saff cyn gallu ailagor cyfleusterau.

    Read More
  7. Rhybudd wedi dyblu nifer yr achosion ym Mônwedi ei gyhoeddi 13:41 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mai 2020

    Cyngor Ynys Môn

    Daeth rhybudd gan Gyngor Sir Ynys Môn wedi i nifer yr achosion o Covid-19 a gofnodwyd ar yr ynys ddyblu mewn pythefnos.

    Ar 17 Ebrill roedd 39 o achosion yno, ond erbyn ddoe roedd y ffigwr yn 81.

    Dywedodd cyngor yr ynys na ddylai pobl gael eu temptio i dorri rheolau, a bod y cynnydd yn rhybudd i bobl beidio llaesu dwylo.

  8. Coch, gwyn a gwyrdd!wedi ei gyhoeddi 13:32 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mai 2020

    Urdd Gobaith Cymru

    Mae’n anodd osgoi fflyd o bostiadau gan enwogion, a phobl a phlant o bob oed a yn gwisgo lliwiau’r Urdd ar Ddiwrnod Coch Gwyn a Gwyrdd yr Urdd heddiw.

    Bwriad y diwrnod yw codi arian ar gyfer Llamau, prif elusen ddigartrefedd Cymru ar gyfer pobl ifanc a merched mewn sefyllfaoedd bregus.

    A hithau ddim ond yn ganol bore mae tudalen JustGiving yr ymgyrch wedi cyrraedd bron i 80% o’r darged a chefnogaeth anhygoel gan gynnwys y gantores Elin Fflur.

    elin fflurFfynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
  9. Mwy yn marw mewn ardaloedd difreintiedigwedi ei gyhoeddi 13:15 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mai 2020

    Mae'r ystadegau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod cyfrany bobl sy'n marw gya coronafeirws yn uwch yn yr ardaloedd lleiaf breintiedig yng Nghymru.

    Roedd yr amrywiaeth yn eang, gyda 44.6 o farwolaethau am bob 100,000 person yn yr ardaloedd lleiaf breintiedig ond dim ond 23.2 yn yr ardaloedd mwy llewyrchus.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Y gorllewin a'r gogledd heb gyrraedd y copa?wedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford: "Ry'n ni'n ystyried pob rhan o Gymru wrth gwrs, ac ry'n ni'n meddwl am ardaloedd yn benodol mewn lle sydd efallai heb gyrraedd y brig.

    "Dwi ddim yn sicr os fydd 'peak' yn dod yn y gogledd a'r gorllewin - ni wedi cyrraedd sefyllfa lle mae'n bosib na fydd peak yn digwydd yn yr un ffordd ag y gwnaeth e yn y de ddwyrain.

    "Ni wedi cyrraedd pwynt lle ni'n cynllunio ar gyfer pob rhan o'r wlad."

  11. Cynyddu triniaethau arferolwedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth ateb cwestiwn amdrin cleifion sydd ddim gyda coronafeirws, dywedodd Mr Drakeford: "Rwy'n awyddus i weld y Gwasanaeth Iechyd yn troi at y gwaith arferol o drin clefydau eraill.

    "Mae'r wir ein bod wedi llwyddo i ddod drwy'r cyfnod cyntaf yma o coronafeirws heb i'r GIG gael ei orlethu, ond mae'n bwysig ein bod yn sicr bod y gallu yn dal yn y system i ddelio gyda Covid-19 yn y dyfodol cyn y gall pethau fynd yn ôl i fel oedden nhw."

  12. Cyfyngiadau 'ddim yn datod'wedi ei gyhoeddi 12:51 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Gofynnodd Mark Hutchings o BBC 5Live i Mr Drakeford a oedd y ffaith bod mwy o bobl ar y palmentydd a'r ffyrdd yn arwydd fod y cyfyngiadau yn datod eu hunain cyn iddyn nhw gael ei codi.

    Atebodd Mr Drakeford: "Na.. mae'r adroddiadau yr ydw i'n eu cael gan heddluoedd yn dweud bod peth treulio ar yr ymylon, ond yn sicr dydyn nhw ddim yn datod."

  13. Eglurhad am brofion mewn cartrefi gofalwedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mark Drakeford: "Mewn mwy na hanner y cartrefi gofal yng Nghymru, does neb - staff na thrigolion - yn dangos unrhyw symptomau, a'r cyngor sydd gennym yw nad yw cynnal profion yno yn ddefnydd da o adnoddau.

    "Mewn cartrefi lle maerhai yn dangos symptomau a rhai ddim, mae yna bwrpas i gynnal profion, ac rydym yn gwneud hynny."

  14. Profion i ddodwedi ei gyhoeddi 12:42 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Dywedodd Mr Drakeford y byddai mwy o brofion coronafeirws yn cael eu gwneud wrth symud ymlaen i'r cam nesaf tuag at godi gwaharddiadau.

    Dywedodd ei fod wedi gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru i lunio cynllun ar gyfer profion ac olrhain cysylltiadau pobl sydd gyda'r feirws.

  15. Galw am beidio trethu'r taliadwedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Aeth Mr Drakeford ymlaen i alw ar lywodraeth y DU i beidio mynnu treth ar y taliad ychwanegol, gan olygu y byddai gweithwyr gofal yn cael cadw'r swm cyfan.

    Ychwanegodd: "Rydym yn annog llywodraeth y DU a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi i wneud eithriad yn yr amgylchiadau wirioneddol neilltuol yma."

  16. Taliad ychwanegol i weithwyr gofalwedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Bydd Llywodraeth Cymru'n talu am daliad ychwanegol o £500 i bob gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru, medd Mr Drakeford.

    Bydd y taliad ar gael i tua 64,600 o weithwyr mewn cartrefi gofal a gofalwyr cymdeithasol eraill ar draws Cymru.

    Dywedodd Mr Drakeford: "Mae degau o filoedd o bobl sy'n gweithio yn y maes gofal cymdeithasol yn gofalu am y bobl mwyaf bregus yn ein cymunedau... yn aml mewn amgylchiadau heriol.

    "Rwyf am iddyn nhw wybod ein bod yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod eu gwaith."

    drakeford
  17. Yn fyw nawr....wedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Am 12:30 i fod yn fanwl....wedi ei gyhoeddi 12:16 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Sut mae'r wasg yn ymdrin â datganoli yng nghyfnod coronafeirws?wedi ei gyhoeddi 12:08 Amser Safonol Greenwich+1 1 Mai 2020

    Dr Ifan Morgan Jones sy'n trafod datganoli, democratiaeth a'r wasg

    Read More