Amserlen: Effaith haint coronafeirws yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 20:54 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mehefin 2020
Ers yr achos cyntaf o Covid-19 yng Nghymru, mae'r effaith ar fywydau pobl wedi cynyddu.
Read More14 yn rhagor o farwolaethau i fynd â'r cyfanswm i 997
195 achos newydd wedi'u cadarnhau - mae 10,524 yng Nghymru bellach
Adfer triniaethau canser wedi bod yn rhy araf
Busnesau bach yn arallgyfeirio ar mwyn goroesi
Ers yr achos cyntaf o Covid-19 yng Nghymru, mae'r effaith ar fywydau pobl wedi cynyddu.
Read MoreDyna'r cyfan o'r llif byw am heddiw.
Fe fyddwn ni'n dychwelyd bore fory, ac fe allwch weld unrhyw straeon perthnasol ar ein hafan yn y cyfamser.
Diolch am ddarllen, a hwyl fawr am y tro.
Wrth ymhelaethu, dywedodd Ms Taj o'r TUC bod y "dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg nawr yn eithaf clir" bod gweithwyr du, Asiaidd a chefndiroedd ethnig eraill (BAME) wedi cael eu "heffeithio’n anghymesur”.
“Dy’n ni’n gwybod mai dyna’r achos mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn benodol, ond mae yna hefyd bryderon eraill ynglŷn â menywod beichiog a gweithwyr anabl hefyd.
"Felly mae gwir angen i ni sicrhau bod cyflogwyr i gyd yn cynnal asesiadau risg priodol a'u bod nhw’n sicrhau eu bod nhw’n gweithio’n ymarferol hefyd.”
Mae'r corff sy'n cynrychioli undebau llafur wedi dweud bod angen mynd ati'n raddol a fesul sector wrth ailagor yr economi.
Yn ôl Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, does dim modd ailagor popeth ar unwaith "heb gynllun go iawn" ac heb fod fesul un.
Dywedodd bod angen i gyflogwyr gynnal asesiadau risg i amddiffyn grwpiau a phobl penodol wrth iddyn nhw ddychwelyd i'r gweithle.
Ychwanegodd Ms Taj bod TUC Cymru yn parhau i dderbyn "nifer" o gwynion ynglŷn â rheolau ymbellhau cymdeithasol yn y gweithle.
Cyngor Sir Ddinbych
Mae bron i 200 o wirfoddolwyr wedi cynnig eu cefnogaeth i Gyngor Sir Ddinbych yn ystod cyfnod y coronafeirws.
Dywedodd llefarydd fod y pandemig wedi rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau.
Bydd angen y mwyafrif o wirfoddolwyr o fewn gwasanaethau cymorth cymunedol y cyngor gyda gwaith gofal, golchi, glanhau, casglu presgripsiynau, siopa, helpu gyda phrydau bwyd, helpu pobl gydag ymarfer corff a hobïau ysgafn, a galwadau ffôn cyfeillgar a rheolaidd.
Mae nifer y bobl sydd wedi marw ar ôl profi'n bositif gyda coronafeirws yn y DU wedi cynyddu 288 i 28,734.
Mae'r ffigwr yn cynnwys marwolaethau mewn ysbytai, cartrefi gofal ac yn y gymuned.
Mae Ysgrifennydd Iechyd y DU, Matt Hancock, wedi bod yn rhoi mwy o wybodaeth am ap newydd i ddilyn achosion o'r coronafeirws.
Dywedodd y bydd yr ap yn cael ei dreialu ar Ynys Wyth o yfory cyn ei ehangu.
Yn gynharach heddiw, dywedodd Prif Weinidog Cymru ei fod wedi cydweithio i ddatblygu'r ap, ond bod peth gwaith i'w wneud cyn ei gyflwyno.
Cyngor Sir Ddinbych
Mae ‘Diolch y Fawr GIG, Thank You NHS’ wedi cael ei beintio ar y ffyrdd i gyfeiriad Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Cafodd y gwaith ei gyflawni gan Gyngor Sir Ddinbych, gyda chefnogaeth y contractwyr K T L Contracting o Lanbedr Dyffryn Clwyd ac L & R Roadlines o Ellesmere Port.
Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones o gabinet y cyngor: “Roedd y cyngor eisiau dweud diolch mawr i weithwyr y GIG yn Ysbyty Glan Clwyd ar ran trigolion y sir."
Mae dyn gafodd driniaeth ysbyty am wyth wythnos ar gyfer y coronafeirws wedi dweud iddo gael ei "achub o'r dibyn" gan staff y GIG.
Scott Howell o Wyllie ger y Coed Duon oedd y claf cyntaf i gael ei drin yn adran gofal dwys Ysbyty Brenhinol Gwent ym mis Mawrth.
Cafodd ei roi mewn coma a dywedodd ei fod yn cofio ei freuddwydion yn glir, ond dim o'r gofal.
Stopiodd ei galon ddwywaith yn ystod y cyfnod, ac mae'n dweud ei fod wedi "ail-asesu bywyd".
"Fe wnaethon nhw fwy nag achub fy mywyd, mae wedi newid fy mywyd oherwydd dyw'r pethau bach ddim yn bwysig nawr."
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Erbyn hyn mae tua 97,000 o bobl yng Nghymru wedi derbyn llythyr yn dweud eu bod mewn grŵp risg uchel gyda chyngor i hunan ynysu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi anfon bron i 91,000 o lythyron, gyda meddygon teulu wedi anfon 6,000 yn ychwanegol at y rhestr hon.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r 14,000 o lythyron cafodd eu hanfon i'r cyfeiriadau anghywir wedi cael eu hail anfon i'r cyfeiriadau cywir erbyn hyn.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Dywed Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod y gwaith ar dri ysbyty maes ar gyfer y gogledd yn mynd rhagddo'n dda.
Yn ôl Dr Chris Stockport, maen nhw ar fin symud gwlâu i'r safleoedd yn Venue Cymru Llandudno, Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy a Phrifysgol Bangor.
"Mae'r modelu presennol yn awgrymu na fydd angen yr ysbytai am rhai wythnosau.
"Mae hyn oherwydd y mesurau rydym wedi cymryd i gynyddu'r capasiti yn yr ysbytai arferol ac oherwydd bod y cyhoedd yn y gogledd yn dilyn y canllawiau i gadw ar wahân."
Cyngor Abertawe
Mae athrawon yn ardal Abertawe wedi llwyddo i gynhyrchu miloedd o offer diogelwch PPE ar gyfer gweithwyr rheng-flaen.
Bu ysgolion yn defnyddio offer eu hunain i gynhyrchu gwahanol nwyddau ar gyfer ysbytai, cartrefi gofal, gweithwyr cymdeithasol ac eraill.
Erbyn diwedd yr wythnos hon maen nhw'n disgwyl bod wedi cynhyrchu dros 20,000 o eitemau.
Ymhlith yr ysgolion oedd yn cymryd rhan mae Ysgol Bryn Tawe, Ysgol y Gŵyr, Tre-gŵyr, Bishopston, Treforys Bishop Vaughan, Penyrheol, Birchgrove, Cefn Hengoed, Pontarddulais a Dwr Y Felin (Castell-nedd).
golwg360
Dywed Golwg360 fod y lluoedd arfog wedi sefydlu 92 uned symudol, dolen allanol er mwyn cefnogi’r ymdrech i gynnal profion Covid-19 ar weithwyr rheng flaen.
Dywed y wefan fod timau milwrol wedi cael eu hanfon i Landudno yn Sir Conwy, Dunoon yn yr Alban yn ogystal â Doncaster, Plymouth, Blackpool, Caerwrangon a Hull.
Pryder bod pobl yn defnyddio cyfyngiadau coronafeirws i yrru oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon.
Read MoreMae Ysbyty Nightingale yn Llundain wedi derbyn eu cleifion olaf - am y tro beth bynnag.
Mae'r BBC yn deall bod llai na 20 o gleifion yn cael triniaeth yno ac unwaith iddynt adael fel fydd yr ysbyty gyda 4,000 o wlâu yn cael ei ddefnyddio fe ysbyty wrth gefn.
Fe fydd staff a pheth o'r adnoddau yn cael ei ddosbarthu i ysbytai a chanolfannau eraill.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod wedi cofnodi 14 yn rhagor o farwolaeth pobl oedd gyda'r coronafeirws yng Nghymru gan fynd â'r cyfanswm i 997.
Maen nhw'n cydnabod bod y gwir ffigwr yn debygol o fod yn llawer uwch.
Yn ogystal fe gafodd 195 o achosion newydd o Covid-19 eu cadarnhau yng Nghymru.
Mae 10,524 achos wedi eu cadarnhau bellach yng Nghymru, ond unwaith eto mae'r gwir ffigwr yn debygol o fod yn llawer uwch.