Mygydau yn gyhoeddus?wedi ei gyhoeddi 13:51 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mai 2020
Llywodraeth Cymru
Wrth ateb cwestiwn am wisgo mygydau yn gyhoeddus fel rhan o lacio unrhyw gyfyngiadau yn y dyfodol, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn disgwyl cyngor ffurfiol llawn gan y prif swyddog meddygol.
Ond ychwanegodd Mr Drakeford: "Dydyn ni ddim yn son am y math o fwgwd sy'n cael ei wisgo mewn ysbyty.
"Dydyn ni'n sicr ddim am ddilyn llwybr lle bydd aelodau o'r cyhoedd yn cystadlu gyda'r gwasanaeth iechyd amfygydau sydd eu hangen mewn ysbyty, ond bod dim tystiolaeth am eu defnydd yn y gymuned.
"Ry'n ni'n son fan hyn am orchudd i'r wyneb, nid rhai clinigol."