Pryder mewn marchnadoedd am ddiffyg cymorth ariannolwedi ei gyhoeddi 14:09 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mai 2020
Mae masnachwyr mewn marchnadoedd dan do yn ofni y bydd llawer ohonyn nhw yn mynd allan o fusnes.
Bu'n rhaid eu cau fel rhan o'r mesurau i geisio atal lledaeniad y coronafeirws a hynny gan nad ydyn nhw wedi gallu hawlio grant cymorth fel siopau ar y stryd fawr.
Mae masnachwyr yng Ngheredigion a Sir Benfro wedi cysylltu â BBC Cymru i ddweud eu bod yn poeni am eu dyfodol.
Mae'r masnachwyr wedi bod yn ceisio cael grant o £10,000 ar gyfer busnesau sy'n derbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach.
Ond, maen nhw'n dweud bod y broses yn rhy gymhleth, ac nad ydyn nhw'n gallu cael eu hasesu'n unigol am ardrethi busnes i fedru prosesu'r cais.