'Hyd at 20% yn cario'r feirws heb symptomau'wedi ei gyhoeddi 10:43 Amser Safonol Greenwich+1 5 Mai 2020
Gall tua 20% o bobl Cymru sydd wedi'u heintio â Covid-19 fod yn ei gario heb fod â symptomau, yn ôl gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor.
Mae tîm dan arweiniad yr Athro Davey Jones o'r Ysgol Gwyddorau Naturiol wedi bod yn cofnodi'r feirws trwy'r system trin carthion, yn y gobaith o allu adnabod rhybuddion cynnar cyn y don nesaf o achosion.
Hyd yma, meddai, mae nifer y gronynnau Covid-19 yn y carthion mewn dŵr gwastraff "yn wirioneddol uchel yng ngogledd-ddwyrain Cymru a'r de-ddwyrain, sy'n awgrymu bod nifer fawr o achosion ar hyn o bryd".
Ond mae'r niferoedd "yn wirioneddol isel" mewn rhannau eraill o ogledd Cymru, "sy'n awgrymu bod bron dim Covid-19 o blith y boblogaeth."