Amserlen: Effaith haint coronafeirws yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 20:54 Amser Safonol Greenwich+1 29 Mehefin 2020
Ers yr achos cyntaf o Covid-19 yng Nghymru, mae'r effaith ar fywydau pobl wedi cynyddu.
Read MoreHeddluoedd Cymru yn annog y cyhoedd i lynu at y canllawiau ar benwythnos Gŵyl y Banc
Cyhoeddi cyllid ar gyfer y ffermwyr llaeth yng Nghymru sydd wedi dioddef waethaf
1,099 o bobl wedi marw yng Nghymru ar ôl cael prawf positif
11,121 wedi profi'n bositif am Covid-19 yma bellach
Y cyfyngiadau yn parhau, ond mân newidiadau wedi'u cyhoeddi ddydd Gwener
Ers yr achos cyntaf o Covid-19 yng Nghymru, mae'r effaith ar fywydau pobl wedi cynyddu.
Read MoreA dyna ni am heddiw o Gymru. Byddwn ni'n dychwelyd eto bore fory i ddod â'r diweddaraf i chi am y pandemig.
Tan hynny, hwyl fawr i chi a byddwch yn saff.
Mae'r ysgrifennydd trafnidiaeth Grant Shapps wedi cyhoeddi pecyn gwerth £2bn i roi beicio a cherdded wrth galon polisi trafnidiaeth Llywodraeth y DU.
Dywed fod yna "raglen uchelgeisiol" i baratoi'r rhwydwaith trafnidiaeth ar gyfer y "rôl hanfodol" y bydd yn ei chwarae wrth i'r DU symud i gam nesaf y pandemig.
Mae'r llywodraeth, meddai, yn gobeithio cyhoeddi cynllun beicio cenedlaethol ym mis Mehefin i helpu i ddyblu nifer y bobl sy'n beicio a chynyddu cerdded erbyn 2025.
Bydd yr angen i gynnal pellter cymdeithasol yn golygu na all y system drafnidiaeth gyhoeddus fynd yn ôl i'r arfer, meddai.
Ychwanegodd y bydd angen i gymaint mwy o bobl gerdded a beicio i gael y DU yn ôl i'r gwaith ac atal ffyrdd rhag cloi gyda cheir.
Dywed Shapps fod hyn hefyd yn cyflwyno cyfle i bobl ddod yn fwy heini a gwella eu hiechyd corfforol a meddyliol.
Mae 346 o bobl eraill yn y DU wedi marw ar ôl profi’n bositif am coronafeirws, gan fynd â chyfanswm y marwolaethau a gofnodwyd - am 17:00 ddydd Gwener - i 31,587.
Syrthiodd nifer y profion dyddiol islaw targed 100,000 ysgrifennydd iechyd y DU, Matt Hancock, am y seithfed diwrnod yn olynol.
Dywedodd yr ysgrifennydd trafnidiaeth Grant Shapps fod 96,878 o brofion wedi'u cynnal yn y 24 awr i 09:00 ddydd Sadwrn, i lawr o 97,029 y diwrnod cynt.
Llywodraeth Cymru
Gall pobl yrru i ganolfannau garddio "yn lleol" o ddydd Llun, ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â'r canllawiau pellter cymdeithasol 2m, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau.
Yn gynharach heddiw roedd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Arfon Jones wedi cwestiynu os oedd y llywodraeth yn ystyried ymweld â chanolfannau o’r fath yn “deithio hanfodol”.
Roedd hyn ar ôl newidiadau yn y cyfyngiadau yng Nghymru a fydd yn gweld rhai canolfannau garddio yn cael ailagor yr wythnos nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Fel y dywedodd y prif weinidog ddoe, bydd rhai addasiadau bach iawn yn cael eu gwneud i’r rheoliadau presennol o ddydd Llun a fydd yn caniatáu i bobl deithio’n lleol i ganolfannau garddio ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion pellhau corfforol."
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog y cyhoedd i lawrlwytho ap newydd sy'n helpu pobl i gadw cofnod o symptomau.
Dywed y corff fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r ap, sydd ar gael i'w lawrlwytho yma: covid.joinzoe.com, dolen allanol
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bydd ffermwyr llaeth sydd wedi colli mwy na 25% o'u hincwm yn gallu gwneud cais am hyd at £10,000.
Read Moregolwg360
Mae golwg360 yn adrodd ar sylwadau Prif Weinidog Cymru, dolen allanol, a ddywedodd bore 'ma ei fod yn disgwyl y bydd pedair gwlad y Deyrnas Unedig yn gweithredu’n debyg iawn i’w gilydd wrth lacio’r cyfyngiadau coronafeirws.
Roedd Mark Drakeford eisoes wedi cyhoeddi ddoe y bydd y cyfyngiadau’n parhau am dair wythnos arall yng Nghymru, gyda mân newidiadau, ac fe fydd Boris Johnson yn cyhoeddi yfory beth yw’r cynlluniau ar gyfer Lloegr.
Wrth siarad ar raglen BBC Breakfast y bore yma, dywedodd Mr Drakeford fod yr addasiadau i fesurau Cymru yn “fach iawn ond yn ystyrlon”.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae swyddogion iechyd wedi cynnal 46,252 o brofion Covid-19 hyd yma yng Nghymru, gyda 1,096 wedi'u gwneud yn ystod y 24 awr ddiwethaf.
Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 28,550 o'r rhai a brofwyd wedi cael prawf negyddol.
Ychwanegodd Dr Christopher Williams ei bod hi'n ymddangos ein bod ni heibio'r brig, gan ddweud fod hynny'n arwydd o "effeithiolrwydd" y canllawiau sydd ar waith ar hyn o bryd.
"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa'r cyhoedd i barhau i gadw at gyfyngiadau Llywodraeth Cymru ar deithio nad yw'n hanfodol. Mae rheolau pellhau cymdeithasol yn parhau i fod yn weithredol," meddai.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod naw o bobl eraill wedi marw gyda coronafeirws yng Nghymru, gan ddod â'r cyfanswm i 1,099.
Cafodd 118 o achosion eraill eu cadarnhau, gan ddod â'r cyfanswm i 11,121.
Mae'r gwir nifer yn debygol o fod yn uwch oherwydd nid yw pawb yn cael eu profi, medd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae un o brif archfarchnadoedd y DU wedi cael ei beirniadu am gynnig bonws i staff, ond nid rheiny sydd wedi'u cyflogi i helpu yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Dywedodd undeb y GMB bod penderfyniad Tesco yn "warth", gan alw ar y cwmni i ailystyried.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae 'na rybudd i rieni fod yn ofalus am faint o oriau mae eu plant yn treulio o flaen sgriniau yn ystod cyfyngiadau coronafeirws.
Yn ôl Coleg Brenhinol yr Optometryddion, mae 'na berygl bychan y gallai plant ddatblygu myopia - neu olwg byr - os ydyn nhw yn treulio gormod o amser o flaen sgrîn.
Mae 'na bryder hefyd ymhlith optegyddion y gallai plant pedair a phump oed sydd â gwendid ar eu golwg syrthio drwy'r rhwyd os na fydd y broses o sgrinio eu llygaid yn ailddechrau mewn ysgolion cyn hir.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Wedi i'r cyfyngiadau coronafeirws ddod i rym, mae fy ngwaith fel perchennog siop lyfrau yn Aberystwyth wedi newid yn ddirfawr," meddai Angharad Morgan.
Fel nad yw hi'n gorfod poeni'n ormodol am y biliau, mae Ms Morgan bellach yn gweithio dridiau'r wythnos yng nghegin Ysbyty Bronglais.
"Mae pawb eisiau byw a phan weles i fod yr ysbyty lleol yn recriwtio staff - es i amdani," meddai.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Plaid Cymru
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r gweinidog materion gwledig am beidio â dweud wrthyn nhw cyn iddi gyhoeddi pecyn cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer ffermwyr llaeth.
Mewn trydariad, dywedodd llefarydd materion gwledig Plaid, Llyr Gruffydd: "Y rhai ohonom sydd yno i'w craffu yw'r olaf i gael gwybod. Sinigaidd a petty."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
NFU Cymru
Mae undeb ffermio NFU Cymru wedi croesawu pecyn cymorth ar gyfer ffermwyr llaeth o Gymru sydd wedi cael eu taro galetaf gan y pandemig.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gan ffermwyr llaeth cymwys sydd wedi colli mwy na 25% o’u hincwm ym mis Ebrill a mis Mai hawl i hyd at £10,000, i dalu am 70% o’u hincwm coll.
“Mae colli’r farchnad gwasanaeth bwyd dros nos o ganlyniad i Covid-19 wedi effeithio ar lawer o ffermwyr llaeth Cymru,” meddai Dirprwy Lywydd NFU Cymru, Aled Jones.
"Mae'n achosi caledi ariannol difrifol i gynhyrchwyr sy'n cyflenwi proseswyr sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan gau caffis, bwytai, tafarndai a lleoliadau lletygarwch."