Crynodeb

  • Heddluoedd Cymru yn annog y cyhoedd i lynu at y canllawiau ar benwythnos Gŵyl y Banc

  • Cyhoeddi cyllid ar gyfer y ffermwyr llaeth yng Nghymru sydd wedi dioddef waethaf

  • 1,099 o bobl wedi marw yng Nghymru ar ôl cael prawf positif

  • 11,121 wedi profi'n bositif am Covid-19 yma bellach

  • Y cyfyngiadau yn parhau, ond mân newidiadau wedi'u cyhoeddi ddydd Gwener

  1. Ymateb llugoer i becyn cymorthwedi ei gyhoeddi 11:32 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mai 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Wrth sôn am y cyhoeddiad am becyn cymorth ar gyfer y sector ffermio llaeth yng Nghymru, dywedodd Andrew RT Davies AS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion gwledig, ei fod yn "well hwyr na hwyrach”.

    “Ond mae’r cyhoeddiad heddiw yn brin o unrhyw fanylion go iawn," ychwanegodd.

    “Pwy, er enghraifft, fydd yn 'ffermwr cymwys'? Dyma'r math o fanylion sydd eu hangen i dawelu meddwl ffermwyr gweithgar, sy'n rheoli un o'r sectorau diwydiant allweddol yng Nghymru.

    “Mae angen sicrhau bod yr arian hwn ar gael ar unwaith i sicrhau nad yw ein sector amaethyddol hanfodol yn dioddef mwy o ddifrod.”

    Mae NFU Cymru wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru.

  2. Ymestyn cyfyngiadau coronafeirws yn 'ofyn mawr'wedi ei gyhoeddi 11:17 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mai 2020

    Prif Weinidog Cymru'n cydnabod fod ymestyn y cyfyngiadau yn cael effaith ar les meddyliol pobl.

    Read More
  3. Perffeithio'r grefft yn y pandemigwedi ei gyhoeddi 11:07 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Cwestiwn ac atebwedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mai 2020

    Beth yw'r newidiadau i'r cyfyngiadau?

    Mae caniatâd i ganolfannau garddio ailagor yng Nghymru o 11 Mai wedi i Lywodraeth Cymru lacio rhai o'r cyfyngiadau ar adael ein cartrefi.

    Mae gweddill y cyfyngiadau yn parhau mewn grym, ond mae hawl bellach i fynd i ymarfer corff tu allan fwy nag unwaith y dydd, ar yr amod eich bod yn aros yn lleol.

    Am fwy o atebion i'ch cwestiynau, cliciwch yma.

    ciwioFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd canolfannau garddio yn cael ailagor os oes modd cadw at y rheolau ymbellhau cymdeithasol

  5. Teithio i ganolfan arddio: 'Angen eglurder'wedi ei gyhoeddi 10:37 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mai 2020

    BBC Radio Wales

    Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, wedi dweud fod angen mwy o eglurder o amgylch ymweld â chanolfan arddio, ac a oes modd ystyried hynny yn “deithio hanfodol”.

    Roedd yn cyfeirio at newidiadau mewn cyfyngiadau yng Nghymru a fydd, o ddydd Llun ymlaen, yn gweld rhai canolfannau garddio yn cael ailagor.

    “Roeddwn i bob amser o dan yr argraff, os oeddech chi'n mynd i deithio, roedd yn rhaid i chi gael esgus rhesymol i wneud hynny,” meddai wrth BBC Radio Wales.

    “Mae'n ymddangos ychydig yn groes i'w gilydd. Ydy hi’n hanfodol mynd i ganolfan arddio? Ond, yn amlwg, os ydyn nhw'n eu hagor, yna byddwn yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru - pan fyddan nhw'n cyhoeddi canllawiau ynghylch y newidiadau i ddeddfwriaeth - yn egluro hynny inni,” meddai Mr Jones.

  6. Neges gan Savwedi ei gyhoeddi 10:18 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mai 2020

    Neges gan neb llai na'r cyn-chwaraewr rhyngwladol, Robbie Savage, yn annog pobl i gadw draw o ogledd Cymru.

    Mae'n dweud y bydd "croeso cynnes" i ymwelwyr fwynhau prydferthwch y gogledd pan fydd pethau'n dychwelyd i ryw fath o "normalrwydd".

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Cymorth i ffermwyr llaethwedi ei gyhoeddi 10:09 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae gweinidog materion gwledig Cymru wedi cyhoeddi cyllid heddiw ar gyfer y ffermwyr llaeth yng Nghymru sydd wedi dioddef waethaf yn sgil coronafeirws.

    Dywed Llywodraeth Cymru fod y sector llaeth wedi teimlo effaith y pandemig byd-eang "ar unwaith, o ganlyniad i gau y sectorau gwasanaethau bwyd a lletygarwch".

    Cadarnhaodd Lesley Griffiths y bydd gan ffermwyr llaeth cymwys sydd wedi colli mwy na 25% o’u hincwm ym mis Ebrill ac wedi hynny ym mis Mai hawl i hyd at £10,000, i dalu am 70% o’r incwm y maen nhw wedi ei golli.

    "Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gallant barhau i weithredu heb gael effaith ar les anifeiliaid a’r amgylchedd," meddai datganiad.

    Bydd rhagor o fanylion am y cynllun yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

    llaeth
  8. Ein prif stori ni'r bore 'ma...wedi ei gyhoeddi 10:03 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mai 2020

    heddlu

    Mae heddluoedd ar draws Cymru yn annog y cyhoedd i lynu at y canllawiau ar benwythnos Gŵyl y Banc.

    Daw hyn yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddoe, a ddywedodd y bydd pobl yn cael ymarfer corff tu allan fwy nag unwaith y dydd, a bydd rhai llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu a garddio yn ailagor o ddydd Llun ymlaen.

    Mae'r heddlu yn rhybuddio y bydd eu presenoldeb yn amlwg gydol penwythnos Gŵyl y Banc ac os bydd angen fe fyddan nhw'n gweithredu os oes rhywun yn mynd yn groes i'r canllawiau.

    Darllenwch ein stori'n llawn yma.

  9. Bore dawedi ei gyhoeddi 10:00 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mai 2020

    Diolch i chi am ymuno â ni bore ma ar ddydd Sadwrn, 9 Mai. Byddwch yn cael y newyddion diweddaraf am y pandemig yma drwy gydol y dydd.

    Byddwn yma tan tua 17:00 felly arhoswch efo ni tan hynny, neu dewch yn ôl atom ni bob hyn a hyn.