Crynodeb

  • Boris Johnson yn llacio rhai mesurau coronafeirws yn Lloegr

  • Llywodraeth Cymru'n mynnu fod y neges 'aros adref' yn parhau

  • 1,111 o bobl wedi marw yng Nghymru ar ôl cael prawf positif

  • 11,344 wedi profi'n bositif am Covid-19 yma bellach

  1. 'Peidiwch â chael eich temtio i dorri'r rheolau'wedi ei gyhoeddi 16:27 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    Twitter

    Mae'r prif swyddog meddygol yng Nghymru wedi atgoffa pobl i gadw pellter oddi wrth eraill er mwyn atal y feirws rhag lledaenu a "gwastraffu'r gwaith caled" sydd wedi'i wneud i daclo'r haint hyd yma.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Dim amlenni Cymorth Cristnogol oherwydd Covid-19wedi ei gyhoeddi 16:10 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    BBC Radio Cymru

    Mae'n wythnos Cymorth Cristnogol, ac eleni oherwydd haint Covid-19 fydd yna ddim amlenni yn cael eu dosbarthu.

    Yn gynharach ar Bwrw Golwg bu pennaeth gweithredol y mudiad, Cynan Llwyd, yn trafod effaith hynny.

    Disgrifiad,

    Effaith Covid-19 ar Wythnos Cymorth Cristnogol

  3. Cyfyngiadau'r Alban yn efelychu rhai Cymruwedi ei gyhoeddi 15:56 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi cadarnhau heddiw y bydd pobl yno'n cael gadael y tŷ i ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd o fory ymlaen.

    Dywedodd y gallai canolfannau garddio a safleoedd ailgylchu ailagor eto, gan efelychu'r camau a gyhoeddodd Mark Drakeford ar gyfer Cymru ddydd Gwener.

    Ond fel Mr Drakeford, mae Ms Sturgeon wedi codi amheuon am benderfyniad Llywodraeth y DU i newid eu slogan ar coronafeirws o 'aros adref' i 'arhoswch yn wyliadwrus'.

    Dywedodd y gallai newid y neges nawr achosi dryswch i bobl ynglŷn â beth maen nhw bellach yn cael gwneud.

    nicola sturgeon
  4. Cyfansoddi 'Emyn yr Ynysu'wedi ei gyhoeddi 15:46 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    Mae'r cyn-gynhyrchydd teledu Euryn Ogwen Williams wedi mynd ati i gyfansoddi emyn sy'n cyfleu teimladau pobl yn ystod y pandemig coronafeirws.

    "Deud hi fel y mae y mae'r emyn - 'Holl dristwch y colledion sydd, Yn ofid ac yn herio'n ffydd'," meddai Mr Williams, sy'n un o aelodau capel Tabernacl y Barri.

    "Ond mae yna obaith hefyd - 'Agorir drysau yn eu tro, Cawn ailgysylltu yn ein bro, A dechrau llawenhau'."

    Gallwch wrando ar Emyn yr Ynysu yn cael ei chanu isod.

  5. Rhybudd am wersylla yng Ngheredigionwedi ei gyhoeddi 15:29 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae swyddogion heddlu yng Ngheredigion wedi stopio tri dyn oedd wedi bod yn gwersylla yn Ynys Las dros y penwythnos, yn groes i'r cyfyngiadau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Y Cymro sy'n arwain ymchwil Covid-19 yn Canadawedi ei gyhoeddi 15:14 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    Mae dyn sy'n hannu'n wreiddiol o Lanbedr Pont Steffan wedi bod yn arwain ymdrechion yn Canada i ddeall feirws Covid-19.

    Bydd llywodraeth y wlad yn rhoi $20m tuag waith ymchwil Dr Steven Jones a gwyddonwyr eraill er mwyn chwilio am atebion.

    Mae Dr Jones yn arwain canolfan ymchwil genetig blaenllaw o'i bencadlys yn Vancouver, a'i dîm gwyddonol ef wnaeth adnabod cod genynnol feirws peryglus arall - SARS - yn 2003.

    "Ni'n bwriadu rhannu ein data yn rhyngwladol, gan gynnwys prosiect genom Cymru," meddai Dr Jones wrth BBC Cymru Fyw.

    "Y gobaith yw bod yn ein hymchwil yn helpu i gael triniaeth well i gleifion - ond yn y pen draw brechlyn yw'r ffordd allan o hyn."

    Dr Steven JonesFfynhonnell y llun, Michael Smith Genome Cancer Centre
  7. Mwy yn defnyddio banciau bwydwedi ei gyhoeddi 15:00 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    BBC Radio Cymru

    Mae rhaglen Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru wedi clywed bod 80% yn fwy o bobl yn defnyddio Banc Bwyd Arfon yn sgil yr haint coronafeirws.

    Dyma ragflas o'r drafodaeth yn gynharach rhwng Arwel Jones o'r banc bwyd ac Eluned Morgan, un o weinidogion Llywodraeth Cymru.

  8. Dim picnics nac ymgynnull mewn grwpiauwedi ei gyhoeddi 14:48 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Wrth i Boris Johnson baratoi i gyhoeddi beth fydd yn digwydd i'r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio beth sydd dal DDIM yn dderbyniol i'w wneud yma.

    Yn eu plith mae pethau fel ymgynnull neu ymarfer corff mewn grwpiau, teithio i lecynnau harddwch, neu gael picnic.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Galwad i achub nofwyr ger Criciethwedi ei gyhoeddi 14:38 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    RNLI

    Mae'r RNLI wedi galw eto ar bobl i ddilyn y cyfyngiadau coronafeirws a "pheidio cymryd risgiau" wedi iddyn nhw gael galwad am ddau nofiwr ger Cricieth nos Sadwrn.

    Erbyn i'r criw agosáu atynt fe gawson nhw adroddiad gan wylwyr y glannau eu bod bellach wedi cyrraedd y lan yn saff.

    Ond oherwydd bod wedi gorfod ymgynull ar gyfer yr alwad bu'n rhaid diheintio'r holl offer oherwydd y risg o Covid-19.

  10. Sylwadau profi Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 'syndod'wedi ei gyhoeddi 14:22 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    Mark Drakeford wedi synnu nad oedd pennaeth y corff iechyd yn gyfarwydd â tharged profi.

    Read More
  11. Cyfradd Rhondda Cynon Taf yr uchaf yn y DU?wedi ei gyhoeddi 14:06 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    Cyngor Rhondda Cynon Taf

    Mae arweinydd Rhondda Cynon Taf wedi dweud ei bod hi'n bosib mai dyna'r sir sydd â'r gyfradd uchaf o bobl wedi'u heintio â Covid-19 ar draws y DU gyfan.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. 12 marwolaeth arall o Covid-19wedi ei gyhoeddi 13:55 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020
    Newydd dorri

    Iechyd Cyhoeddus Cymru

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi 12 marwolaeth o ganlyniad i coronafeirws, gan olygu bod y cyfanswm bellach yn 1,111.

    Maen nhw hefyd wedi cadarnhau fod 223 person arall wedi cael prawf positif am yr haint, gan godi'r cyfanswm ers i'r pandemig ddechrau i 11,344.

    Ond mae'r nifer sydd wedi dal yr afiechyd mewn gwirionedd yn llawer uwch, gan nad yw pawb yn cael eu profi.

  13. 'Argyfwng economaidd' yn wynebu parciau bywyd gwylltwedi ei gyhoeddi 13:44 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    Mae parciau bywyd gwyllt a sŵau yn colli rhwng £20,000 a £60,000 y mis oherwydd y cyfyngiadau.

    Read More
  14. Taith o 300 milltir i brynu carwedi ei gyhoeddi 13:31 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae Heddlu Dyfed Powys wedi stopio gyrrwr oedd wedi teithio 300 milltir i brynu car, a'u hatgoffa o'r mesurau coronafeirws sydd mewn lle.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Triniaethau GIG i ailddechrau'n fuan?wedi ei gyhoeddi 13:17 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    BBC Wales Politics

    Mae Mark Drakeford wedi dweud y bydd yn defnyddio'r estyniad diweddaraf o dair wythnos i'r cyfyngiadau fel cyfle i asesu pa rai allai gael eu llacio maes o law.

    Dywedodd wrth raglen BBC Politics Wales fod rhai o'r pethau dan ystyriaeth yn cynnwys ailddechrau rhai triniaethau ar y gwasanaeth iechyd, a'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus.

    Ychwanegodd fod trafodaethau'n parhau ynghylch sut i ailagor ysgolion yn saff, ond na fyddai hynny'n digwydd erbyn dechrau mis Mehefin.

  16. Reckless eisiau codi'r cyfyngiadauwedi ei gyhoeddi 13:03 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    BBC Radio Wales

    Mae arweinydd Plaid Brexit yn y Senedd, Mark Reckless wedi beirniadu'r cynlluniau i gadw'r cyfyngiadau coronafeirws yn eu lle.

    Dywedodd wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales fod mwy o bobl yn marw o achosion eraill yn ddiangen gan nad oedden nhw'n cael triniaeth oherwydd Covid-19.

    Ychwanegodd bod y cyfyngiadau o bosib ond yn "oedi o ychydig fisoedd pryd fydd pobl yn cael yr haint", a hynny ar draul "cau lawr yr economi".

    "Mae 'na bobl sy'n marw fyddai fel arall ddim yn marw, oherwydd bod Mark Drakeford wedi ymestyn y cyfyngiadau," mynnodd.

    mark reckless
  17. Neges debyg yn yr Alban...wedi ei gyhoeddi 12:48 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. 'Y neges i bobl Cymru heb newid'wedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi bod yn ategu'r neges honno nad yw'n amser i anghofio am y neges o 'aros adref'.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. 'Aros yn wyliadwrus' yn lle 'aros adref'?wedi ei gyhoeddi 12:23 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi gwrthod slogan newydd Llywodraeth y DU, fydd ddim bellach yn defnyddio'r geiriau "aros adref".

    Heno mae disgwyl i Boris Johnson ddatgelu slogan newydd, sy'n dweud wrth y cyhoedd i "aros yn wyliadwrus, rheoli'r feirws, achub bywydau".

    Bydd hynny'n cael ei ddefnyddio yn lle'r hen slogan, sef "aros adref, achub bywydau".

    Ond dywedodd Vaughan Gething nad ydy llywodraethau eraill y DU wedi cytuno i'r slogan newydd.

    vaughan gethingFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Plaid yn galw am efelychu Seland Newyddwedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    Mae Plaid Cymru wedi dweud bod angen mabwysiadu cynllun tebyg i un Seland Newydd i leihau achosion o Covid-19 ac atal unrhyw farwolaethau y mae modd eu hosgoi.

    Dywedodd eu harweinydd Adam Price fod angen gyrru neges "glir a chryf" i aros adref er mwyn achub bywydau.

    Mae cynllun saith-pwynt y blaid yn cynnwys aros yn y cyfnod clo a chael y gyfradd drosglwyddo'n is na 0.5.

    adam priceFfynhonnell y llun, PA Media