Crynodeb

  • Boris Johnson yn llacio rhai mesurau coronafeirws yn Lloegr

  • Llywodraeth Cymru'n mynnu fod y neges 'aros adref' yn parhau

  • 1,111 o bobl wedi marw yng Nghymru ar ôl cael prawf positif

  • 11,344 wedi profi'n bositif am Covid-19 yma bellach

  1. Gyrru merched beichiog adref 'ar dâl salwch'wedi ei gyhoeddi 12:05 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    Ymhlith y penawdau heddiw mae honiadau bod nifer o ferched beichiog wedi cael eu gyrru adref ar dâl salwch neu heb unrhyw dâl o gwbl yn ystod yr argyfwng.

    Dywedodd AS Gŵyr, Tonia Antoniazzi ei bod yn delio ag achosion o'i hetholaeth ble mae cyflogwyr wedi torri'r gyfraith.

    Mae hi'n dweud bod achosion yn cynnwys gweithwyr iechyd a gofal.

    Gallwch ddarllen mwy yma.

    beichiogFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. Prynhawn dawedi ei gyhoeddi 12:02 Amser Safonol Greenwich+1 10 Mai 2020

    BBC Cymru Fyw

    Prynhawn da, a chroeso i'n llif byw ni heddiw gyda'r diweddaraf ar y pandemig coronafeirws.

    Fe ddown ni â'r newyddion i chi yn ystod y dydd, hyd nes cyhoeddiad Boris Johnson yn nes ymlaen heno.