Crynodeb

  • ONS - 1,641 o farwolaethau yng Nghymru wedi bod yn gysylltiedig â coronafeirws

  • Un o bob tri o'r marwolaethau mewn cartrefi gofal

  • Adroddiadau y bydd y cynllun 'furlough' yn cael ei ymestyn

  • Pryder y bydd prinder sylweddol o feddygon gofal dwys yng Nghymru

  • Elusennau'n poeni fod llai o gymorth ar gael i bobl sy'n dioddef o salwch meddwl

  • Arhoswch adref yw'r neges gan Lywodraeth Cymru o hyd

  • Bwriad i osod arwyddion a hysbysebion i annog pobl o Loegr i beidio dod am dro yma

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 18:02 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    BBC Cymru Fyw

    A dyna'r cyfan o'n llif byw am heddiw.

    Fe fyddwn ni'n dychwelyd gyda llif byw arall ben bore fory, ac yn y cyfamser fe gewch chi'r newyddion pwysicaf i gyd ar ein hafan.

    Diolch am ddarllen, cadwch yn ddiogel a hwyl fawr i chi am y tro.

  2. Sgwrsio o bellterwedi ei gyhoeddi 17:55 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    O dan rhai amgylchiadau arbennig, mae'n bosib i gymdogion gael rhywfaint o gymdeithasu A chadw o fewn y rheolau ymbellhau cymdeithasol a theithio diangen.

    Mae'r cymdogion yma yn Abergele yn sgwrsio o bellter a chael tipyn o hwyl yn ôl pob golwg.

    Diolch i Sion Jones am y llun.

    abergeleFfynhonnell y llun, Sion Jones
  3. Neges un o wynebau cyfarwydd y gyfres Helo Syrjeriwedi ei gyhoeddi 17:48 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Nyrsys, gwrandewch ar gyngor un o wynebau cyfarwydd y gyfres Helo Syrjeri ar S4C, Sian Thomas.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Dyrchafiad Prestatyn yn y fantolwedi ei gyhoeddi 17:34 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Mae Clwb Pêl-droed Prestatyn wedi gofyn i brif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford ymyrryd yn eu cais i ennill trwydded i chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru.

    Methodd y clwb, sydd ar frig cynghrair Cymru North, yn eu cais i CBDC am drwydded Haen Un, gan olygu na fyddan nhw'n cael dyrchafiad i'r brif adran.

    Fe ofynnodd y clwb am gyngor CBDC ynghylch mynd â'u hachos i'r Llys Cymodi Chwaraeon. Nawr maen nhw wedi anfon “llythyr cwyn” at Mr Ford yn amlinellu pam y dylid derbyn yr apêl, a fethodd yn bennaf dros lwyfan camerâu teledu.

  5. Gwisgo gorchudd ddim yn angenrheidiolwedi ei gyhoeddi 17:20 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Mae prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, wedi datgan nad yw o'r farn y dylai gwisgo gorchudd wyneb fod yn orfodol.

    "Nid wyf yn argymell bod pawb yn gwisgo gorchudd wyneb anghlinigol yng Nghymru – nid wyf yn argymell y dylent fod yn orfodol. Er hynny, rwyf yn cefnogi hawl y cyhoedd i ddewis a ydynt am eu gwisgo.

    "Ni fydd gwisgo gorchudd wyneb yn eich amddiffyn rhag pobl eraill – bydd yn amddiffyn eraill oddi wrthych chi ac yna dim ond os na fyddwch yn trosglwyddo'r feirws mewn ffyrdd eraill.

    "Bydd angen i chi hefyd barhau i gadw pellter cymdeithasol, golchi eich dwylo'n rheolaidd mewn dŵr poeth a sebon a dilyn y canllawiau diogelwch eraill hefyd."

    siopwrFfynhonnell y llun, Reuters
  6. 627 o farwolaethau yn y DUwedi ei gyhoeddi 17:07 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Ysgrifenydd Busnes Llywodraeth y DU, Alok Sharma, sy'n arwain y gynhadledd newyddion ddyddiol heddiw.

    Ei dasg gyntaf oedd cadarnhau bod 627 o farwolaethau yn rhagor wedi eu cofnodi ar draws y DU yn y 24 awr diwethaf - cyfanswm bellach o 32,692.

    Datgelodd hefyd bod 3,403 o achosion newydd wedi eu cadarnhau.

    sharma
  7. Rhai clybiau golff i ailagor 'i aelodau lleol'wedi ei gyhoeddi 16:59 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Disgwyl y gallai rhai clybiau golff ailagor i "aelodau lleol" yn unig wrth i glybiau yn Lloegr baratoi i agor eto.

    Read More
  8. Cyfle i bysgotawedi ei gyhoeddi 16:46 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Twitter

    Mae cyn brif weinidog Cymru Carwyn Jones wedi cael cadarnhad gan Lywodraeth Cymru fod gan bobl hawl i bysgota, cyn belled a bod nhw'n cadw o fewn y canllawiau yn ymwneud â coronafeirws.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. AS Ceidwadol yn galw am barchu Senedd Cymruwedi ei gyhoeddi 16:32 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Mae aelod seneddol Ceidwadol o Gymru wedi ysgrifennu llythyr agored at AS Ceidwadol Amwythig yn dweud y dylai pobl "barchu" Llywodraeth Cymru a phwerau cyfansoddiadol Senedd Cymru.

    Mae Craig Williams AS Sir Drefaldwyn yn dweud fod y pwerau wedi eu rhoi ar ôl sawl refferendwm.

    Roedd yn ymateb i sylw gan Daniel Kawczynski, AS Amwythig ac Atcham fod Senedd Cymru wedi tanseilio'r prif weinidog Boris Johnson drwy ddilyn trywydd gwahanol ar ganllawiau coronafeirws.

    Aeth Mr Kawczynski ymhellach gan ddweud yn y dyfodol ei fod yn gobeithio y byddai hynny'n esgor trafodaeth ar "union werth sefydliad costus a diangen."

    Wrth ymateb dywedodd Mr Williams "Nid nawr yw'r amser ar gyfer trafodaeth ddifrifol ac ymchwiliad i effaith polisi gwahanol. Daw hynny yn y man.

    "Yn y cyfamser, dyw cwestiynu egwyddorion democratiaeth Gymreig oherwydd unrhyw wahaniaethau ddim o gymorth ac mae o hefyd yn anghywir."

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Croesawu cyhoeddiad y Canghellorwedi ei gyhoeddi 16:13 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Cam-drin domestig yn ystod y pandemigwedi ei gyhoeddi 15:57 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Offer PPE wedi glaniowedi ei gyhoeddi 15:43 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Twitter

    Mae Maes awyr Caerdydd wedi trydar fod awyren yn cludo 600,000 o ynau meddygol gwrthhylif wedi glanio yn ddiogel fore Mawrth.

    Roedd yr awyren hefyd yn cludo 1.2m o fygydau meddygol ar gyfer gweithwyr rheng-flaen

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Chwalu'r chwedlau am coronafeirwswedi ei gyhoeddi 15:31 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Nid yw popeth rydych chi'n ei ddarllen am COVID-19 yn wir

    Read More
  14. Marwolaethau cartrefi gofalwedi ei gyhoeddi 15:21 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Mae nifer y marwolaethau mewn cartrefi gofal ers dechrau mis Mawrth wedi bron a dyblu o'i gymharu â'r un adeg y llynedd, yn ôl rheoleiddiwr y sector.

    Cafodd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wybod am 2,165 o farwolaethau rhwng 1 Mawrth a 8 Mai - 98% yn fwy nag ar gyfer yr un cyfnod yn 2019, a 61% nag yn 2018.

    Cafodd Covid-19 ei gadarnhau neu ei amau mewn 504 o achosion - cynnydd o 86 ers ffigyrau olaf AGC oedd ar gyfer y cyfnod hyd 1 Mai.

    Mae'r wybodaeth yn cael ei roi i AGC gan y cartrefi gofal. Mae hynny'n wahanol i ddull y Swyddfa Ystadegau, sy'n cael ei ddata drwy ddefnyddio tystysgrifau marwolaeth.

    cartrefiFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Effaith coronafeirws ar lywodraeth leolwedi ei gyhoeddi 15:07 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  16. 'Peidiwch anghofio am gefn gwlad'wedi ei gyhoeddi 14:54 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Disgrifiad,

    Alun Elidyr yn trafod effaith Covid-19 ar gymunedau gwledig

    Mae'r pandemig wedi effeithio ar bob rhan o gymdeithas, ym mhob cwr o Gymru, ond mae'r feirws wedi effeithio ar gymunedau gwledig mewn ffyrdd gwahanol i'r canolfannau mwy poblog.

    Yn ôl y ffermwr a'r cyflwynydd teledu, Alun Elidyr, o Ryd-y-main ger Dolgellau, mae sawl her yn wynebu trigolion cefn gwlad Cymru; o'r diffyg rhyngrwyd effeithiol i'r unigrwydd sy'n dod o ganlyniad i reolau hunan ynysu.

    Darllenwch y stori yma neu gwyliwch y fideo uchod.

  17. Dyddiad ar gyfer agor clybiau golffwedi ei gyhoeddi 14:43 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Fe fydd clybiau golff yn gallu ailagor yng Nghymru o ddydd Llun 18 Mai.

    Dywed Llywodraeth Cymru fod gan glybiau yr hawl i agor ar gyfer "aelodau lleol."

    Yn ôl llefarydd, penderfyniad y clybiau yw hi pryd ac os y byddan nhw'n ailagor.

    Mae'r corff sy'n rheoli golff yng Nghymru, Golf Wales, wedi annog clybiau i beidio ailagor yn rhu fuan er mwyn sicrhau eu bod yn dilyn y canllawiau priodol o ran Covid-19.

    Yn ôl Golf Wales byddai bydd hyn yn caniatáu "ailgylfwyno golf mewn modd sydd wedi ei reoli o ddydd Llun nesaf 18 Mai fan cynharaf".

    golfFfynhonnell y llun, bbc
  18. Gohirio gŵyl The Good Lifewedi ei gyhoeddi 14:23 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Mae gŵyl The Good Life Expereince, sy'n cael ei guradu gan y cerddor Cerys Matthews, wedi cael ei ohirio.

    Roedd i fod i gael ei gynnal yn Ystâd Penarlâg yn Sir y Fflint ym mis Medi eleni, ond mae bellach wedi ei symud i 29 Ebrill-2 Mai, 2021.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Pryder am gwtogi gwasanaethau iechyd meddwlwedi ei gyhoeddi 14:10 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020

    Elusennau iechyd meddwl yn bryderus fod llai o gymorth ar gael i gleifion yn ystod y pandemig.

    Read More
  20. 16 yn fwy o farwolaethauwedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1 12 Mai 2020
    Newydd dorri

    Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 16 o farwolaethau eraill, gan fynd â chyfanswm y bobl sydd wedi marw ar ôl cael Covid-19 yma i 1,132, yn ôl eu ffigyrau nhw.

    Cafodd 105 o achosion newydd eu cofnodi, gyda'r cyfanswm bellach yn 11,573 yng Nghymru.

    Mae'r corff yn cydnabod bod y gwir ffigyrau yn uwch.

    Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) eisoes wedi dweud bod nifer y bobl sydd wedi marw ar ôl cael yr haint yma yn 1,641.