'Angen osgoi codi cywilydd ar bobl sydd heb fygydau'wedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich+1 13 Mai 2020
Byddai dweud wrth bobl wisgo mygydau'n "codi cywilydd" ar y rhai sydd ddim, yn ôl Dr Frank Atherton.
Read More22 yn rhagor o farwolaethau Covid-19 sy'n mynd â'r cyfanswm yng Nghymru i 1,154
Gwrthbleidiau Cymru yn galw am system brofi credadwy cyn codi cyfyngiadau
Busnesau yn galw am grantiau i'w helpu i fedru gweithredu ymbellhau cymdeithasol yn y gweithle
Economi'r DU wedi crebachu o 2% yn y tri mis hyd at Mawrth 2020 oherwydd coronafeirws
Byddai dweud wrth bobl wisgo mygydau'n "codi cywilydd" ar y rhai sydd ddim, yn ôl Dr Frank Atherton.
Read MoreCyngor Ceredigion
Mae system sydd yn cadw llygad ar bobl sydd wedi cael Covid-19 yn cael effaith bositif ar gadw’r niferoedd i lawr medd y datblygwyr sef Cyngor Ceredigion.
Yn ystod y pythefnos diwethaf mae swyddogion wedi bod yn cysylltu gyda'r rhai oedd wedi rhoi gwybod i’r cyngor eu bod wedi cael prawf positif o’r feirws.
Mae’r swyddogion wedyn wedi bod yn ffonio'r rhai oedd wedi bod mewn cysylltiad agos gyda’r bobl yma i ofyn iddynt a oes ganddynt unrhyw symptomau.
Wrth gydnabod bod yna gyfyngiadau am fod y niferoedd y maent yn cysylltu â nhw yn isel mae’r cyngor dal yn credu bod y system yn gwneud gwahaniaeth.
Mae’r system yn un fydd yn cael ei defnyddio yn ardaloedd Sir Gar a Sir Benfro yn y dyfodol.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi cofnodi 22 yn rhagor o farwolaethau o bobl gyda coronafeirws.
Mae cyfanswm y meirw bellach yn 1,154.
Cafodd 133 o achosion newydd o Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru, sy'n golygu bod 11,706 o bobl yma wedi profi'n bositif am yr haint.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod y gwir ffigyrau yn debyg o fod yn llawer uwch yn y ddau achos.
Senedd Cymru
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn dweud wrth y Senedd mai un o bob 10 claf mewn ysbyty sydd bellach â haint coronafeirws ac mai un o bob pump gwely mewn uned gofal dwys sy'n cael ei ddefnyddio i drin claf o'r feirws.
Mae dros 3,000, meddai, wedi gwella ac wedi gadael yr ysbyty.
Mae'n diolch am waith gwirfoddolwyr ac yn dweud fod y llywodraeth yn ymderchu i edrych ar ôl pobl fregus - yn enwedig y rhai sy'n cael eu cam-drin yn y cartref.
Yr economi'n lleihau 2% rhwng Ionawr a Mawrth - cyfnod sydd ond yn cynnwys wythnos o gyfyngiadau.
Read MoreLlywodraeth Cymru
Fydd busnesau sydd wedi cofrestru mewn llefydd i osgoi talu trethi ddim yn cael nawdd gan Lywodraeth Cymru i’w helpu trwy argyfwng y coronafeirws, medd y Gweinidog Economi.
Dywedodd Ken Skates yn ystod y gynhadledd ddyddiol y byddai'n hoffi pe byddai'r agwedd yma yn cael ei fabwysiadau ar draws y DU.
Ychwanegodd mai efallai'r diwydiant twristaidd sydd wedi colli incwm fwyaf a bod y llywodraeth mewn trafodaethau gyda San Steffan ynglŷn â chynnig cymorth.
Cwest yn clywed fod menyw wedi'i heintio yn fuan wedi genedigaeth ei mab.
Read MoreCymdeithas Bêl-Droed Cymru'n dod â chystadlaethau ieuenctid i ben y tymor hwn oherwydd Covid-19.
Read MoreLlywodraeth Cymru
Ni ddylai pobl fynd i weld tai os nad yw’n bosib cadw at reolau ymbellhau cymdeithasol medd Ken Skates. Tra bod y rheolau wedi eu llacio yn Lloegr dyw hynny ddim wedi digwydd yma. Dywedodd y gallai'r cam olaf sef pan mae'r cytundebau yn cael eu harwyddo ddigwydd ond bod hi’n anodd “i ymweld ag eiddo pan does dim llawer o le yn y fflatiau neu dai.”
Senedd Cymru
Yn y man cyfarfod llawn rhithwir Senedd Cymru.
Yn ystod y prynhawn bydd datganiadau ar Covid-19 gan y Prif Weinidog, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Cyllid a Gweinidog yr Amgylchedd.
Bydd y Gweinidog Cyllid yn edrych ar y goblygiadau cyllidol i Gymru yn sgil effaith COVID-19 a'r ymateb iddo.
Mae modd dilyn y cyfan drwy glicio ar y botwm ar frig y dudalen yma.
Yn sesiwn holi'r prif weiniog yn San Steffan heddiw, dywedodd Boris Johnson ei fod yn credu bod dryswch yn y gwahaniaeth rhwng rheolau Cymru a Lloegr "wedi cael eu gorliwio".
Roedd yn ateb cwestiwn gan AS Pen-y-bont, Jamie Wallis, oedd yn gofyn "a yw pobl Cymru yn haeddu llywodraeth sy'n onest ac agored gyda nhw am y ffordd ymlaen?".
Atebodd: "Fy marn gonest i yw bod y rhai sy'n son am ddryswch a negeseuon cymysg yn gorliwio'r sefyllfa yn ddifrifol.
"Mae synnwyr cyffredin pobl Prydain yn dangos yn y ddal yma."
Llywodraeth Cymru
Dywedodd Mr Skates ei fod am i drafnidiaeth gyhoeddus fod "yn rhan o'r her o ddychwelyd i'r gwaith". Ychwanegodd y byddai'n cwrdd gydag undebau trafnidiaeth, grwpiau teithwyr, cwmniau trafnidiaeth gyhoeddus ac eraill i baratoi am y "normal newydd".
Ymhlith y mesurau fyddai'n cael eu trafod, meddai, oedd "blaenoriaethau trafnidiaeth gyhoeddus i weithwyr allweddol, annog pobl i archebu teithiau o flaen llaw a gwell rheolaeth o deithio, amrywio amseroedd shifftiau yn y sector cyhoeddus ac annog y sector preifat i wneud yr un modd".
Llywodraeth Cymru
Fe wnaeth Mr Skates annog llywodraeth y DU i drafod gyda'r llywodraethau datganoledig am "trosiad i fywyd bob dydd" yn dilyn y cyfnod nesaf o'r cynllun 'furlough'.
Dywedodd mai "rhan bwysig o'r trafodaethau hynny fydd yr angen am gefnogaeth barhaus i'r busnesau sydd ddim yn gallu gweithredu".
Ychwanegodd: "Twristiaeth a lletygarwch oedd y cyntaf i gael eu cau lawr, ac fe fyddan nhw angen cefnogaeth am gyfnod hirach."
Llywodraeth Cymru
Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o fusnesau wedi gwneud cais am gynllun furlough Llywodraeth y DU medd y gweinidog economi Ken Skates.
Dywedodd yn ystod y gynhadledd ddyddiol sy’n cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru bod 74% o gwmnïau yng Nghymru wedi gwneud cais am y cynllun. 67% oedd y ffigwr yn Lloegr, 72% yn yr Alban a 65% yng Ngogledd Iwerddon.
Llywodraeth Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Daily Post
Mae Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu'r Gogledd eisiau i bobl sydd yn torri rheolau teithio gael dirwy o hyd at £3,000, medd y Daily Post.
Dywedodd mewn datganiad ar y cyd gyda Dafydd Llywelyn, sydd yn gomisiynydd Dyfed Powys, y byddai hyn yn "arf i atal" rhai rhag gwneud tripiau diangen i Gymru.
Dywedodd y dylai pobl gael dirwy o £1,000 ond os ydynt yn parhau i anwybyddu’r rheolau y dylent orfod talu £3,000., dolen allanol
Elusen lles anifeiliaid yn awgrymu na fyddai'n ddoeth i brynu ci yn ystod cyfyngiadau'r coronafeirws.
Read MoreCaniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.